JEREMIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
Chapter 18
Jere | WelBeibl | 18:3 | Felly dyma fi'n mynd i lawr i'r crochendy, a dyna lle roedd y crochenydd yn gweithio ar y droell. | |
Jere | WelBeibl | 18:4 | Pan oedd rhywbeth o'i le ar y potyn roedd yn ei wneud o'r clai, byddai'n dechrau eto, ac yn gwneud rhywbeth oedd yn edrych yn iawn. | |
Jere | WelBeibl | 18:6 | “Ydw i ddim yn gallu gwneud yr un peth i ti, wlad Israel? Rwyt ti yn fy nwylo i fel mae'r clai yn nwylo'r crochenydd. | |
Jere | WelBeibl | 18:7 | Galla i ddweud un funud fy mod i'n mynd i chwynnu a chwalu a dinistrio gwlad arbennig. | |
Jere | WelBeibl | 18:8 | Ond os ydy pobl y wlad dw i'n ei bygwth yn stopio gwneud drwg, fydda i ddim yn ei dinistrio hi fel roeddwn i wedi dweud. | |
Jere | WelBeibl | 18:9 | Dro arall bydda i'n addo adeiladu gwlad neu deyrnas arbennig a'i gwneud hi'n sefydlog. | |
Jere | WelBeibl | 18:10 | Ond os ydy pobl y wlad honno'n gwneud drwg ac yn gwrthod gwrando arna i, fydda i ddim yn gwneud y pethau da wnes i addo iddi. | |
Jere | WelBeibl | 18:11 | “Felly dywed wrth bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem fod yr ARGLWYDD yn dweud: ‘Dw i'n paratoi i wneud drwg i chi, ac yn bwriadu eich cosbi chi. Felly rhaid i bob un ohonoch newid eich ffyrdd a stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud.’ | |
Jere | WelBeibl | 18:12 | “Ond byddan nhw'n dweud, ‘Does dim pwynt. Dŷn ni'n mynd i ddal ati i wneud beth dŷn ni eisiau.’” | |
Jere | WelBeibl | 18:13 | Felly dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Gofyn i bobl y gwledydd eraill os ydyn nhw wedi clywed am y fath beth! Mae Jerwsalem, dinas lân Israel, wedi gwneud peth cwbl ffiaidd! | |
Jere | WelBeibl | 18:14 | Ydy'r eira'n diflannu oddi ar lethrau creigiog Libanus? Ydy nentydd oer y mynyddoedd pell yn stopio llifo? Nac ydyn. | |
Jere | WelBeibl | 18:15 | Ond mae fy mhobl wedi fy anghofio i. Maen nhw'n llosgi arogldarth i eilun-dduwiau diwerth! Gwnaeth hynny iddyn nhw faglu a gadael yr hen ffyrdd a mynd ar goll ar lwybrau diarffordd. | |
Jere | WelBeibl | 18:16 | O ganlyniad, bydd pethau ofnadwy yn digwydd i'r wlad. Fydd pobl ddim yn stopio chwibanu mewn rhyfeddod. Bydd pawb sy'n pasio heibio yn dychryn ac yn ysgwyd eu pennau'n syn. | |
Jere | WelBeibl | 18:17 | Dw i'n mynd i wneud i'w gelynion eu gyrru nhw ar chwâl, fel tywod yn cael ei yrru gan wynt y dwyrain. Bydda i'n troi cefn arnyn nhw yn lle troi i'w helpu nhw pan ddaw'r drychineb.” | |
Jere | WelBeibl | 18:18 | A dyma'r bobl yn dweud, “Dewch, gadewch i ni ddelio hefo Jeremeia. Bydd offeiriaid yn dal ar gael i roi arweiniad i ni, dynion doeth i roi cyngor i ni, a phroffwydi i roi neges Duw i ni. Dewch, gadewch i ni ddod â cyhuddiadau yn ei erbyn. Fydd dim rhaid i ni wrando arno fe o gwbl wedyn.” | |
Jere | WelBeibl | 18:19 | Jeremeia: “ARGLWYDD, wnei di ymateb, plîs? Gwranda beth mae fy ngelynion yn ei ddweud. | |
Jere | WelBeibl | 18:20 | Ydy'n iawn i dalu drwg am dda? Maen nhw wedi cloddio twll i mi. Wyt ti ddim yn cofio fel roeddwn i'n pledio ar eu rhan nhw o dy flaen di? Rôn i'n ceisio dy stopio di rhag bod yn ddig hefo nhw. | |
Jere | WelBeibl | 18:21 | Felly gad i'w plant nhw lwgu! Gad iddyn nhw farw yn y rhyfel! Gwna eu gwragedd yn weddwon heb blant. Gad i'r dynion hŷn gael eu lladd gan heintiau, a'r bechgyn ifanc wrth ymladd yn y rhyfel. | |
Jere | WelBeibl | 18:22 | Gad i sŵn sgrechian gael ei glywed yn y tai wrth i gangiau o filwyr ymosod arnyn nhw'n ddirybudd. Maen nhw wedi cloddio twll i mi a gosod trapiau i geisio fy nal. | |