JOB
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Chapter 3
| Job | WelBeibl | 3:3 | “O na fyddai'r diwrnod y ces i fy ngeni yn cael ei ddileu o hanes! – y noson honno y dwedodd rhywun, ‘Mae bachgen wedi'i eni!’ | |
| Job | WelBeibl | 3:4 | O na fyddai'r diwrnod hwnnw yn dywyllwch, fel petai'r Duw sydd uchod heb erioed ei alw i fod, a golau dydd heb wawrio arno! | |
| Job | WelBeibl | 3:5 | O na fyddai tywyllwch dudew yn ei guddio; a chwmwl yn gorwedd drosto, a'r düwch yn ei ddychryn i ffwrdd! | |
| Job | WelBeibl | 3:6 | O na fyddai tywyllwch dudew wedi cipio'r noson honno, fel na fyddai'n cael ei chyfrif yn un o ddyddiau'r flwyddyn, ac na fyddai i'w gweld ar galendr y misoedd! | |
| Job | WelBeibl | 3:7 | O na fyddai'r noson honno wedi bod yn ddiffrwyth, heb sŵn neb yn dathlu'n llawen ynddi! | |
| Job | WelBeibl | 3:8 | O na fyddai'r rhai sy'n dewino wedi melltithio'r diwrnod hwnnw – y rhai sy'n gallu deffro'r ddraig yn y môr! | |
| Job | WelBeibl | 3:9 | O na fyddai'r sêr wedi diffodd y noson honno, a'r bore wedi disgwyl yn ofer am y golau, a heb weld pelydrau'r wawr – | |
| Job | WelBeibl | 3:14 | gyda brenhinoedd a'u cynghorwyr, y rhai fu'n codi palasau sydd bellach yn adfeilion; | |
| Job | WelBeibl | 3:17 | Yn y bedd mae holl brysurdeb pobl ddrwg wedi peidio, a'r gweithwyr oedd dan orthrwm yn cael gorffwys. | |
| Job | WelBeibl | 3:19 | Mae pobl fawr a chyffredin yno fel ei gilydd, a'r caethwas yn rhydd rhag ei feistr. | |
| Job | WelBeibl | 3:20 | Pam mae Duw'n rhoi golau i'r un sy'n dioddef, a bywyd i'r rhai sy'n chwerw eu hysbryd? | |
| Job | WelBeibl | 3:21 | Maen nhw'n ysu am gael marw, ond yn methu – yn chwilio am hynny yn fwy na thrysor cudd. | |
| Job | WelBeibl | 3:25 | Mae'r hyn oeddwn yn ei ofni wedi digwydd; yr hyn oedd yn peri arswyd wedi dod yn wir. | |