Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PROVERBS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 18
Prov WelBeibl 18:1  Mae'r un sy'n cadw ar wahân yn plesio ei hun, ac yn gwrthod unrhyw gyngor doeth.
Prov WelBeibl 18:2  Does gan ffŵl ddim awydd o gwbl i ddeall, dim ond lleisio'i farn ei hun.
Prov WelBeibl 18:3  Mae dirmyg yn dilyn y drwg, a gwawdio yn dilyn gwarth.
Prov WelBeibl 18:4  Mae geiriau rhywun fel dŵr dwfn – ffynnon o ddoethineb fel nant yn llifo.
Prov WelBeibl 18:5  Dydy dangos ffafr at yr euog ddim yn beth da, na gwrthod cyfiawnder i'r dieuog.
Prov WelBeibl 18:6  Mae geiriau ffŵl yn achosi ffrae; mae'n gofyn am drwbwl!
Prov WelBeibl 18:7  Mae siarad ffŵl yn arwain i ddinistr; mae'n cael ei rwydo gan ei eiriau ei hun.
Prov WelBeibl 18:8  Mae gwrando ar glecs fel bwyd blasus – mae'r cwbl yn cael ei lyncu.
Prov WelBeibl 18:9  Mae'r un sy'n ddiog yn ei waith yn perthyn yn agos i'r fandal.
Prov WelBeibl 18:10  Mae enw'r ARGLWYDD fel tŵr solet; mae'r rhai sy'n byw'n iawn yn rhedeg ato i fod yn saff.
Prov WelBeibl 18:11  Ond caer ddiogel y cyfoethog ydy ei gyfoeth; mae'n dychmygu ei fod yn wal uchel i'w amddiffyn.
Prov WelBeibl 18:12  Cyn i'r chwalfa ddod roedd digon o frolio; gostyngeiddrwydd sy'n arwain i anrhydedd.
Prov WelBeibl 18:13  Mae ateb rhywun yn ôl cyn gwrando arno yn beth dwl i'w wneud, ac yn dangos diffyg parch.
Prov WelBeibl 18:14  Gall ysbryd rhywun ei gynnal drwy afiechyd; ond mae iselder ysbryd yn faich trwm i'w gario.
Prov WelBeibl 18:15  Mae'r person call am ddysgu mwy, ac mae'r doeth yn chwilio am wybodaeth.
Prov WelBeibl 18:16  Mae rhoi rhodd i rywun yn agor drysau i gyfarfod pobl bwysig.
Prov WelBeibl 18:17  Mae'r cyntaf i gyflwyno ei dystiolaeth yn ymddangos yn iawn nes i rywun ddod a'i groesholi.
Prov WelBeibl 18:18  Mae taflu coelbren yn rhoi terfyn ar ffraeo, ac yn setlo dadl ffyrnig.
Prov WelBeibl 18:19  Mae perthynas wedi digio yn ystyfnig fel caer; a chwerylon fel barrau i gloi giatiau castell.
Prov WelBeibl 18:20  Rhaid i rywun ddysgu byw gyda'i eiriau; mae dweud y peth iawn yn rhoi boddhad.
Prov WelBeibl 18:21  Mae'r tafod yn gallu rhoi bywyd a marwolaeth; ac mae'r rhai sy'n hoffi siarad yn gorfod byw gyda'u geiriau.
Prov WelBeibl 18:22  Mae'r dyn sydd wedi ffeindio gwraig yn hapus; mae'r ARGLWYDD wedi bod yn dda ato.
Prov WelBeibl 18:23  Mae'r person tlawd yn pledio am help, ond mae'r cyfoethog yn ei ateb yn swta.
Prov WelBeibl 18:24  Mae rhai ffrindiau'n gallu brifo rhywun, ond mae ffrind go iawn yn fwy ffyddlon na brawd.