Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PSALMS
Prev Up Next
Chapter 139
Psal WelBeibl 139:1  O ARGLWYDD, rwyt ti'n fy archwilio i, ac yn gwybod popeth amdana i.
Psal WelBeibl 139:2  Ti'n gwybod pryd dw i'n eistedd ac yn codi; ti'n gwybod beth sydd ar fy meddwl i o bell.
Psal WelBeibl 139:3  Ti'n cadw golwg arna i'n teithio ac yn gorffwys; yn wir, ti'n gwybod am bopeth dw i'n wneud.
Psal WelBeibl 139:4  Ti'n gwybod beth dw i'n mynd i'w ddweud cyn i mi agor fy ngheg, ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 139:5  Rwyt ti yna o mlaen i a'r tu ôl i mi, mae dy law di arna i i'm hamddiffyn.
Psal WelBeibl 139:6  Ti'n gwybod popeth amdana i! Mae tu hwnt i mi – mae'n ddirgelwch llwyr, mae'n ormod i mi ei ddeall.
Psal WelBeibl 139:7  Ble alla i fynd oddi wrth dy Ysbryd? I ble alla i ddianc oddi wrthot ti?
Psal WelBeibl 139:8  Petawn i'n mynd i fyny i'r nefoedd, rwyt ti yno; petawn i'n gorwedd i lawr yn Annwn, dyna ti eto!
Psal WelBeibl 139:9  Petawn i'n hedfan i ffwrdd gyda'r wawr ac yn mynd i fyw dros y môr,
Psal WelBeibl 139:10  byddai dy law yno hefyd, i'm harwain; byddai dy law dde yn gafael yn dynn ynof fi.
Psal WelBeibl 139:11  Petawn i'n gofyn i'r tywyllwch fy nghuddio, ac i'r golau o'm cwmpas droi'n nos,
Psal WelBeibl 139:12  dydy hyd yn oed tywyllwch ddim yn dywyll i ti! Mae'r nos yn olau fel y dydd i ti; mae goleuni a thywyllwch yr un fath!
Psal WelBeibl 139:13  Ti greodd fy meddwl a'm teimladau; a'm plethu i yng nghroth fy mam.
Psal WelBeibl 139:14  Dw i'n dy foli di, am fod dy waith di mor syfrdanol a rhyfeddol! Mae'r cwbl rwyt ti'n ei wneud yn anhygoel! Ti'n fy nabod i i'r dim!
Psal WelBeibl 139:15  Roeddet ti'n gweld fy ffrâm i pan oeddwn i'n cael fy siapio yn y dirgel, ac yn cael fy ngweu at ei gilydd yn nyfnder y ddaear.
Psal WelBeibl 139:16  Roeddet ti'n fy ngweld i cyn bod siâp arna i! Roedd hyd fy mywyd wedi'i drefnu – pob diwrnod wedi'i gofnodi yn dy lyfr, a hynny cyn i un fynd heibio!
Psal WelBeibl 139:17  O Dduw, mae dy feddyliau di'n rhy ddwfn i mi; mae gormod ohonyn nhw i'w deall!
Psal WelBeibl 139:18  Petawn i'n ceisio'u cyfri nhw, byddai mwy nag sydd o ronynnau tywod! Bob tro dw i'n deffro rwyt ti'n dal yna gyda mi!
Psal WelBeibl 139:19  O Dduw, pam wnei di ddim lladd y rhai drwg, a gwneud i'r dynion treisgar yma fynd i ffwrdd?
Psal WelBeibl 139:20  Maen nhw'n dweud pethau maleisus amdanat ti. Dy elynion di ydyn nhw! Maen nhw'n dweud celwydd!.
Psal WelBeibl 139:21  O ARGLWYDD, mae'n gas gen i'r rhai sy'n dy gasáu di. Mae'r bobl sy'n dy herio yn codi pwys arna i.
Psal WelBeibl 139:22  Dw i'n eu casáu nhw â chas perffaith. Maen nhw'n elynion i mi hefyd.
Psal WelBeibl 139:23  Archwilia fi, O Dduw, i weld beth sydd ar fy meddwl; treiddia'n ddwfn, a deall fel dw i'n poeni.
Psal WelBeibl 139:24  Edrych i weld a ydw i'n gwneud rhywbeth o'i le, ac arwain fi ar hyd yr hen lwybr.