PSALMS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150
Chapter 31
Psal | WelBeibl | 31:1 | Dw i'n troi atat ti am loches, O ARGLWYDD; paid gadael i mi gael fy siomi. Rwyt ti'n gyfiawn, felly achub fi. | |
Psal | WelBeibl | 31:2 | Gwranda arna i! Achub fi'n fuan! Bydd yn graig ddiogel i mi, yn gaer lle bydda i'n hollol saff. | |
Psal | WelBeibl | 31:3 | Ti ydy'r graig ddiogel yna; ti ydy'r gaer. Cadw dy enw da, dangos y ffordd i mi ac arwain fi. | |
Psal | WelBeibl | 31:5 | Dw i'n rhoi fy mywyd yn dy ddwylo di. Dw i'n gwybod y gwnei di fy rhyddhau i achos ti, o ARGLWYDD, ydy'r Duw ffyddlon. | |
Psal | WelBeibl | 31:6 | Dw i'n casáu'r rhai sy'n addoli eilunod diwerth; ond dw i'n dy drystio di, ARGLWYDD. | |
Psal | WelBeibl | 31:7 | Bydda i'n dathlu'n llawen am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon. Ti wedi gweld mor anodd mae hi arna i ac yn gwybod am yr argyfwng dw i ynddo, | |
Psal | WelBeibl | 31:9 | Helpa fi, O ARGLWYDD, mae hi'n argyfwng arna i. Mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder – fy nghorff i gyd, a dweud y gwir. | |
Psal | WelBeibl | 31:10 | Dw i'n cael fy llethu gan boen; mae fy mlynyddoedd yn dod i ben mewn tuchan. Mae pechod wedi fy ngwneud i'n wan, ac mae fy esgyrn yn frau. | |
Psal | WelBeibl | 31:11 | Mae'r holl elynion sydd gen i yn gwneud hwyl am fy mhen. Mae fy ffrindiau yn arswydo; mae pobl yn cadw draw pan maen nhw'n fy ngweld i ar y stryd. | |
Psal | WelBeibl | 31:12 | Maen nhw wedi anghofio amdana i, fel petawn i wedi marw! Dw i'n dda i ddim, fel jar sydd wedi torri. | |
Psal | WelBeibl | 31:13 | Dw i'n clywed beth maen nhw'n ei sibrwd, a'r straeon ofnadwy sy'n dod o bob cyfeiriad. Maen nhw'n cynllwynio yn fy erbyn i; maen nhw eisiau fy lladd i. | |
Psal | WelBeibl | 31:17 | O ARGLWYDD, paid â'm siomi pan dw i'n galw arnat. Gwna i'r rhai drwg gael eu siomi; cau eu cegau nhw unwaith ac am byth. | |
Psal | WelBeibl | 31:18 | Rho daw ar y rhai sy'n dweud celwydd, y bobl hynny sy'n herio'r rhai sy'n byw'n iawn ac mor haerllug a dirmygus ohonyn nhw. | |
Psal | WelBeibl | 31:19 | Ond mae gen ti gymaint o bethau da i'w rhoi i'r rhai sy'n dy addoli di. O flaen pawb, byddi'n rhoi'r cwbl iddyn nhw, sef y rhai sy'n troi atat ti am loches. | |
Psal | WelBeibl | 31:20 | Rwyt ti gyda nhw, ac yn eu cuddio rhag y dynion sy'n cynllwynio yn eu herbyn. Ti'n cysgodi drostyn nhw ac maen nhw'n saff rhag y tafodau miniog sy'n ymosod. | |
Psal | WelBeibl | 31:21 | Bendith ar yr ARGLWYDD! Mae wedi bod yn anhygoel o ffyddlon pan oedd y gelynion yn ymosod. | |
Psal | WelBeibl | 31:22 | Rôn i mewn panig, ac yn meddwl, “Ti ddim yn gweld beth sy'n digwydd i mi!” Ond na, pan oeddwn i'n crefu am help roeddet ti wedi clywed. | |
Psal | WelBeibl | 31:23 | Felly carwch yr ARGLWYDD, chi sy'n ei ddilyn yn ffyddlon. Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn y rhai sy'n ffyddlon iddo, ond mae'n talu'n ôl yn llawn i'r rhai sy'n haerllug. | |