Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ACTS
Prev Up Next
Chapter 5
Acts WelBeibl 5:1  Roedd dyn arall o'r enw Ananias, a'i wraig Saffeira, wedi gwerthu peth o'u heiddo.
Acts WelBeibl 5:2  Ond dyma Ananias yn cadw peth o'r arian iddo'i hun a mynd â'r gweddill i'r apostolion gan honni mai dyna'r cwbl oedd wedi'i gael. Roedd e a'i wraig wedi cytuno mai dyna fydden nhw'n ei wneud.
Acts WelBeibl 5:3  Pan ddaeth at yr apostolion dyma Pedr yn dweud wrtho, “Ananias, pam wyt ti wedi gadael i Satan gael gafael ynot ti? Rwyt ti wedi dweud celwydd wrth yr Ysbryd Glân drwy gadw peth o'r arian gest ti am y tir i ti dy hun!
Acts WelBeibl 5:4  Ti oedd biau'r tir, ac roedd gen ti hawl i wneud beth fynnet ti â'r arian. Beth wnaeth i ti feddwl gwneud y fath beth? Dim wrthon ni rwyt ti wedi dweud celwydd, ond wrth Dduw!”
Acts WelBeibl 5:5  Pan glywodd Ananias yr hyn ddwedodd Pedr, syrthiodd yn farw yn y fan a'r lle. Roedd pawb glywodd beth ddigwyddodd wedi dychryn am eu bywydau.
Acts WelBeibl 5:6  Yna daeth dynion ifanc a lapio'r corff cyn ei gario allan i'w gladdu.
Acts WelBeibl 5:7  Rhyw dair awr yn ddiweddarach dyma'i wraig yn dod i'r golwg. Doedd hi'n gwybod dim byd am yr hyn roedd wedi digwydd.
Acts WelBeibl 5:8  Felly, dyma Pedr yn gofyn iddi, “Dwed wrtho i, ai dyma faint o arian gest ti ac Ananias am y tir wnaethoch chi ei werthu?” “Ie,” meddai hi, “dyna'n union faint gawson ni.”
Acts WelBeibl 5:9  Ac meddai Pedr, “Beth wnaeth i'r ddau ohonoch chi gytuno i roi Ysbryd yr Arglwydd ar brawf? Gwranda! Mae'r dynion ifanc wnaeth gladdu dy ŵr di tu allan i'r drws, a byddan nhw'n dy gario di allan yr un fath.”
Acts WelBeibl 5:10  A dyma hithau yn disgyn ar lawr yn farw yn y fan a'r lle. Daeth y dynion ifanc i mewn, gweld ei bod hi'n farw, a'i chario hithau allan i'w chladdu wrth ymyl ei gŵr.
Acts WelBeibl 5:11  Roedd yr eglwys i gyd, a phawb arall glywodd am y peth, wedi dychryn am eu bywydau.
Acts WelBeibl 5:12  Roedd yr apostolion yn gwneud llawer o wyrthiau rhyfeddol ymhlith y bobl – gwyrthiau oedd yn dangos fod Duw gyda nhw. Byddai'r credinwyr i gyd yn cyfarfod gyda'i gilydd yng Nghyntedd Colofnog Solomon yn y deml.
Acts WelBeibl 5:13  Fyddai neb arall yn meiddio ymuno gyda nhw, er bod gan bobl barch mawr tuag atyn nhw.
Acts WelBeibl 5:14  Ac eto roedd mwy a mwy o bobl yn dod i gredu yn yr Arglwydd – yn ddynion a merched.
Acts WelBeibl 5:15  Roedd pobl yn dod â'r cleifion allan i'r stryd ar welyau a matresi yn y gobaith y byddai o leia cysgod Pedr yn disgyn ar rai ohonyn nhw wrth iddo gerdded heibio.
Acts WelBeibl 5:16  Roedd tyrfaoedd hefyd yn dod o'r trefi o gwmpas Jerwsalem gyda phobl oedd yn sâl neu'n cael eu poenydio gan ysbrydion drwg, ac roedd pob un ohonyn nhw yn cael eu hiacháu.
Acts WelBeibl 5:17  Roedd yr Archoffeiriad a'i gyd-Sadwceaid yn genfigennus.
Acts WelBeibl 5:18  Felly dyma nhw'n arestio'r apostolion a'u rhoi yn y carchar.
Acts WelBeibl 5:19  Ond yn ystod y nos dyma angel yr Arglwydd yn dod ac yn agor drysau'r carchar a'u gollwng yn rhydd. Dwedodd wrthyn nhw,
Acts WelBeibl 5:20  “Ewch i'r deml, sefyll yno a dweud wrth bobl am y bywyd newydd yma.”
Acts WelBeibl 5:21  Felly ar doriad gwawr dyma nhw'n mynd i'r deml a gwneud beth ddwedodd yr angel wrthyn nhw, a dechrau dysgu'r bobl. Pan gyrhaeddodd yr archoffeiriad a'i swyddogion ar gyfer y cyfarfod o'r Sanhedrin – sef cyfarfod llawn o arweinwyr Israel – dyma nhw'n anfon dynion i nôl yr apostolion o'r carchar.
Acts WelBeibl 5:22  Ond pan gyrhaeddodd rheiny'r celloedd, doedd yr apostolion ddim yno! Felly dyma nhw'n mynd yn ôl at y Sanhedrin a dweud,
Acts WelBeibl 5:23  “Pan aethon ni i'r carchar roedd wedi'i gloi yn ddiogel, ac roedd swyddogion yno yn gwarchod y drysau; ond pan agoron nhw'r gell i ni, doedd neb i mewn yno!”
Acts WelBeibl 5:24  Pan glywodd y prif offeiriaid a phennaeth gwarchodlu'r deml hyn, roedden nhw wedi drysu'n lân, ac yn meddwl, “Beth nesa!”
Acts WelBeibl 5:25  Dyna pryd daeth rhywun i mewn a dweud, “Dych chi'n gwybod beth! – mae'r dynion wnaethoch chi eu rhoi yn y carchar yn sefyll yn y deml yn dysgu'r bobl!”
Acts WelBeibl 5:26  Felly dyma'r capten a'i swyddogion yn mynd i arestio'r apostolion eto, ond heb ddefnyddio trais. Roedd ganddyn nhw ofn i'r bobl gynhyrfu a dechrau taflu cerrig atyn nhw a'u lladd.
Acts WelBeibl 5:27  Dyma nhw'n dod â'r apostolion o flaen y Sanhedrin i gael eu croesholi gan yr archoffeiriad.
Acts WelBeibl 5:28  “Cawsoch chi orchymyn clir i beidio sôn am y dyn yna,” meddai, “ond dych chi wedi bod yn dweud wrth bawb yn Jerwsalem amdano, ac yn rhoi'r bai arnon ni am ei ladd!”
Acts WelBeibl 5:29  Atebodd Pedr a'r apostolion eraill: “Mae'n rhaid i ni ufuddhau i Dduw, dim i ddynion meidrol fel chi!
Acts WelBeibl 5:30  Duw ein cyndeidiau ni ddaeth â Iesu yn ôl yn fyw ar ôl i chi ei ladd drwy ei hoelio ar bren!
Acts WelBeibl 5:31  Ac mae Duw wedi'i osod i eistedd yn y sedd anrhydedd yn y nefoedd. Iesu ydy'r Tywysog a'r Achubwr sy'n rhoi cyfle i Israel droi'n ôl at Dduw a chael eu pechodau wedi'u maddau.
Acts WelBeibl 5:32  Dŷn ni'n gwybod fod hyn i gyd yn wir, ac mae'r Ysbryd Glân hefyd yn tystio i'r ffaith gyda ni. Dyma'r Ysbryd mae Duw yn ei roi i bawb sy'n ufuddhau iddo.”
Acts WelBeibl 5:33  Pan glywon nhw beth ddwedodd yr apostolion roedden nhw'n gynddeiriog. Roedden nhw eisiau eu lladd nhw!
Acts WelBeibl 5:34  Ond dyma Pharisead o'r enw Gamaliel yn sefyll ar ei draed. (Roedd Gamaliel yn arbenigwr yn y Gyfraith, ac yn ddyn oedd gan bawb barch mawr ato.) Rhoddodd orchymyn i'r apostolion gael eu cymryd allan o'r cyfarfod am ychydig,
Acts WelBeibl 5:35  ac yna dwedodd hyn: “Ddynion. Arweinwyr Israel. Rhaid meddwl yn ofalus cyn penderfynu beth i'w wneud â'r dynion yma.
Acts WelBeibl 5:36  Ydych chi'n cofio Theudas? Cododd hwnnw beth amser yn ôl, yn honni ei fod yn arweinydd mawr. Roedd tua pedwar cant o ddynion yn ei ddilyn, ond cafodd ei ladd a chafodd ei ddilynwyr eu gwasgaru. Wnaeth dim byd ddod o'r peth.
Acts WelBeibl 5:37  Wedyn, cawsoch chi Jwdas y Galilead yn arwain gwrthryfel adeg y cyfrifiad. Cafodd yntau ei ladd, a chafodd ei ddilynwyr e eu gyrru ar chwâl.
Acts WelBeibl 5:38  Felly, dyma fyddwn i yn ei gynghori yn yr achos sydd o'n blaenau ni: Peidiwch gwneud dim gyda nhw. Gadewch lonydd iddyn nhw. Chwalu wnân nhw os mai dim ond syniadau pobl sydd y tu ôl i'r cwbl.
Acts WelBeibl 5:39  Ond os oes gan Dduw rywbeth i'w wneud â'r peth, wnewch chi byth eu stopio nhw; a chewch eich hunain yn brwydro yn erbyn Duw.”
Acts WelBeibl 5:40  Llwyddodd Gamaliel i'w perswadio nhw. Felly dyma nhw'n galw'r apostolion yn ôl i mewn ac yn gorchymyn iddyn nhw gael eu curo. Ar ôl eu rhybuddio nhw eto i beidio sôn am Iesu, dyma nhw'n eu gollwng yn rhydd.
Acts WelBeibl 5:41  Roedd yr apostolion yn llawen wrth adael y Sanhedrin. Roedden nhw'n ei chyfri hi'n fraint eu bod wedi cael eu cam-drin am ddilyn Iesu.
Acts WelBeibl 5:42  Bob dydd, yn y deml ac yn eu tai, roedden nhw'n dal ati i ddysgu'r bobl a chyhoeddi'r newyddion da mai Iesu ydy'r Meseia.