EZEKIEL
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
Chapter 44
Ezek | WelBeibl | 44:1 | Yna aeth y dyn â fi yn ôl at giât allanol y cysegr sy'n wynebu'r dwyrain, ond roedd wedi'i chau. | |
Ezek | WelBeibl | 44:2 | A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Bydd y giât yma yn aros wedi'i chau. Does neb yn cael mynd drwyddi. Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi mynd drwyddi, felly rhaid iddi aros ar gau. | |
Ezek | WelBeibl | 44:3 | Dim ond pennaeth y wlad sydd i gael eistedd yn y fynedfa i fwyta o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yn mynd i mewn drwy'r cyntedd ochr ac yn mynd allan yr un ffordd.” | |
Ezek | WelBeibl | 44:4 | Yna aeth y dyn â fi i'r iard fewnol drwy'r giât sy'n wynebu'r gogledd o flaen y deml. Wrth i mi edrych, rôn i'n gweld ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi'r deml a dyma fi'n mynd ar fy wyneb ar lawr. | |
Ezek | WelBeibl | 44:5 | Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, dw i am i ti sylwi ar hyn. Edrych yn ofalus a gwrando'n astud ar bopeth dw i'n ei ddweud am reolau a deddfau teml yr ARGLWYDD. Sylwa'n fanwl ar bob mynedfa i'r deml a'r drysau allan o'r cysegr. | |
Ezek | WelBeibl | 44:6 | Dwed wrth y rebeliaid, pobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyna ddigon! Mae'r holl bethau ffiaidd yma wedi mynd yn rhy bell! | |
Ezek | WelBeibl | 44:7 | Dych chi'n dod â phobl o'r tu allan i weithio yn y cysegr, paganiaid llwyr sy'n dangos dim parch ata i. Dych chi'n llygru'r deml drwy gynnig beth sydd biau fi – sef y braster a'r gwaed – iddyn nhw. Dych chi wedi torri'r ymrwymiad rhyngon ni drwy wneud yr holl bethau ffiaidd yma. | |
Ezek | WelBeibl | 44:8 | Dych chi ddim wedi cadw'r rheolau wrth drin y pethau sanctaidd; dych chi wedi gadael i baganiaid edrych ar ôl y lle yma! | |
Ezek | WelBeibl | 44:9 | Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dydy'r paganiaid sy'n byw gyda'm pobl Israel ddim i gael mynd i mewn i'r cysegr eto. | |
Ezek | WelBeibl | 44:10 | “‘Bydd y Lefiaid wnaeth droi cefn arna i a mynd ar ôl eilunod, fel pawb arall yn Israel, yn cael eu dal yn gyfrifol am eu pechod. | |
Ezek | WelBeibl | 44:11 | Byddan nhw'n gweithio yn y cysegr ond dim ond fel dynion diogelwch. Nhw hefyd fydd yn lladd yr anifeiliaid sydd i'w llosgi, a'r aberthau, yn lle'r bobl eu hunain. Byddan nhw fel gweision i'r bobl. | |
Ezek | WelBeibl | 44:12 | Am eu bod nhw wedi helpu'r bobl i addoli eilunod a gwneud i bobl Israel faglu a phechu yn fy erbyn i, ar fy llw, bydd rhaid iddyn nhw wynebu canlyniadau eu pechod, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 44:13 | Fyddan nhw ddim yn cael dod yn agos ata i i wasanaethu fel offeiriaid, na chyffwrdd dim byd dw i wedi'i gysegru. Bydd rhaid iddyn nhw fyw gyda'r cywilydd o fod wedi mynd drwy'r holl ddefodau ffiaidd yna. | |
Ezek | WelBeibl | 44:14 | Byddan nhw'n gweithio fel gofalwyr y deml ac yn gwneud yr holl waith cynnal a chadw ynddi. | |
Ezek | WelBeibl | 44:15 | “‘Ond bydd yr offeiriaid o lwyth Lefi sy'n ddisgynyddion Sadoc, yn cael dod ata i a gwasanaethu fel offeiriaid. Roedden nhw wedi dal ati i wneud eu gwaith yn ffyddlon yn y deml pan oedd gweddill pobl Israel wedi troi cefn arna i a mynd i addoli eilunod. Byddan nhw'n dod i gyflwyno braster a gwaed yr aberthau i mi.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 44:16 | “‘Byddan nhw'n dod i mewn i'r cysegr i weini wrth fy mwrdd i a gwneud eu dyletswyddau. | |
Ezek | WelBeibl | 44:17 | “‘Pan fyddan nhw'n dod i mewn drwy giatiau'r iard fewnol rhaid iddyn nhw wisgo dillad o liain. Dŷn nhw ddim i wisgo gwlân o gwbl pan maen nhw'n gwasanaethu yn yr iard fewnol neu yn adeilad y Deml ei hun. | |
Ezek | WelBeibl | 44:18 | Rhaid iddyn nhw wisgo twrban o liain a dillad isaf o liain – dim byd fyddai'n gwneud iddyn nhw chwysu. | |
Ezek | WelBeibl | 44:19 | Ond pan fyddan nhw'n mynd allan at y bobl i'r iard allanol rhaid iddyn nhw newid eu dillad; cadw'r dillad roedden nhw'n gwasanaethu ynddyn nhw yn yr ystafelloedd sydd wedi'u neilltuo i'r pwrpas hwnnw, a gwisgo'u dillad bob dydd. Wedyn fyddan nhw ddim yn peryglu'r bobl drwy ddod â nhw i gysylltiad â'r dillad sanctaidd. | |
Ezek | WelBeibl | 44:20 | “‘Rhaid iddyn nhw dorri eu gwallt yn rheolaidd – peidio siafio'u pennau, na thyfu eu gwallt yn rhy hir. | |
Ezek | WelBeibl | 44:22 | Dŷn nhw ddim i briodi gwraig weddw na gwraig sydd wedi cael ysgariad, dim ond un o ferched Israel sy'n wyryf neu wraig weddw oedd yn briod ag offeiriad o'r blaen. | |
Ezek | WelBeibl | 44:23 | Byddan nhw'n dysgu'r bobl i wahaniaethu rhwng beth sy'n gysegredig a beth sy'n gyffredin, a dangos iddyn nhw sut i wahaniaethu rhwng beth sy'n aflan ac yn lân. | |
Ezek | WelBeibl | 44:24 | “‘Pan mae pobl yn mynd ag achos i'r llys, yr offeiriaid fydd yn barnu ac yn gwneud yn union beth dw i'n ddweud. Byddan nhw'n cadw'r deddfau a'r rheolau am y Gwyliau a'r dyddiau Saboth dw i wedi'u trefnu. | |
Ezek | WelBeibl | 44:25 | “‘Rhaid iddyn nhw beidio gwneud eu hunain yn aflan drwy fynd yn agos at gorff marw, ac eithrio corff tad, mam, mab, merch, brawd neu chwaer. | |
Ezek | WelBeibl | 44:26 | Pan fydd yr offeiriad yn lân eto bydd rhaid iddo ddisgwyl am saith diwrnod arall | |
Ezek | WelBeibl | 44:27 | cyn mynd i mewn i'r cysegr. A phan fydd yn mynd i'r iard fewnol i wasanaethu yn y cysegr eto, bydd rhaid iddo gyflwyno offrwm i lanhau o bechod,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 44:29 | Yr offrymau fydd eu bwyd nhw – sef yr offrwm o rawn, yr offrwm i lanhau o bechod, a'r offrwm i gyfaddef bai, a beth bynnag arall sy'n cael ei gadw o'r neilltu i Dduw gan bobl Israel. | |
Ezek | WelBeibl | 44:30 | A'r offeiriaid fydd piau ffrwythau cyntaf y cynhaeaf hefyd. Wrth i chi gyflwyno'r rhain, a'r offrwm cyntaf o does hefyd, bydd yr ARGLWYDD yn bendithio eich cartrefi. | |