Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
GENESIS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 50
Gene WelBeibl 50:1  Dyma Joseff yn cofleidio corff ei dad. Roedd yn crio ac yn ei gusanu.
Gene WelBeibl 50:2  Wedyn gorchmynnodd i'w weision, y meddygon, falmeiddio'r corff. A dyna gafodd ei wneud i gorff Jacob.
Gene WelBeibl 50:3  Cymerodd y broses yma bedwar deg diwrnod, achos dyna faint o amser roedd yn ei gymryd i falmeiddio corff. A bu cyfnod o alaru ar ei ôl drwy wlad yr Aifft am saith deg diwrnod.
Gene WelBeibl 50:4  Pan oedd y cyfnod o alar drosodd, dyma Joseff yn mynd at gynghorwyr y Pharo, a dweud: “Mae gen i ffafr i'w gofyn gan y Pharo. Wnewch chi ofyn iddo ar fy rhan i, plîs?
Gene WelBeibl 50:5  Gwnaeth fy nhad i mi addo rhywbeth iddo ar lw. Dyma ddwedodd e: ‘Dw i ar fin marw, a dw i eisiau i ti fy nghladdu i yn y bedd dw i wedi'i dorri i mi fy hun yng ngwlad Canaan.’ Felly gofyn ydw i am ganiatâd i fynd yno i gladdu dad. Bydda i'n dod yn ôl yma wedyn.”
Gene WelBeibl 50:6  Ateb Pharo oedd, “Dos i gladdu dy dad, fel gwnest ti addo iddo.”
Gene WelBeibl 50:7  Felly dyma Joseff yn mynd i gladdu ei dad. Aeth swyddogion y Pharo i gyd gydag e, a phobl bwysig y llys ac arweinwyr y wlad.
Gene WelBeibl 50:8  Teulu Joseff i gyd, ei frodyr, a theulu ei dad hefyd. Dim ond y plant bach a'r anifeiliaid gafodd eu gadael yn ardal Gosen.
Gene WelBeibl 50:9  Roedd cerbydau rhyfel a marchogion gyda nhw hefyd – tyrfa fawr iawn o bobl.
Gene WelBeibl 50:10  Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Atad (i'r dwyrain o afon Iorddonen), dyma nhw'n cynnal cyfnod o alar angladdol. Buodd Joseff yn galaru yno am ei dad am wythnos.
Gene WelBeibl 50:11  Pan welodd pobl Canaan nhw yn galaru ar lawr dyrnu Atad, dyma nhw'n dweud, “Mae'r angladd yma'n ddigwyddiad trist iawn yng ngolwg yr Eifftiaid.” Felly cafodd y lle, sydd yr ochr draw i afon Iorddonen, ei alw yn Abel-misraïm.
Gene WelBeibl 50:12  Felly gwnaeth meibion Jacob beth roedd eu tad wedi'i ddweud wrthyn nhw.
Gene WelBeibl 50:13  Aethon nhw â'i gorff i wlad Canaan, a'i gladdu yn yr ogof yn Machpela ger Mamre, ar y tir roedd Abraham wedi'i brynu gan Effron yr Hethiad i fod yn fan claddu i'w deulu.
Gene WelBeibl 50:14  Ar ôl claddu ei dad, aeth Joseff yn ôl i'r Aifft gyda'i frodyr a phawb arall oedd wedi bod yn yr angladd.
Gene WelBeibl 50:15  Gan fod eu tad wedi marw, roedd brodyr Joseff yn dechrau ofni, “Beth os ydy Joseff yn dal yn ddig hefo ni? Beth os ydy e am dalu'r pwyth yn ôl am yr holl ddrwg wnaethon ni iddo?”
Gene WelBeibl 50:16  Felly dyma nhw'n anfon neges at Joseff: “Roedd dad wedi dweud wrthon ni cyn iddo farw,
Gene WelBeibl 50:17  ‘Dwedwch wrth Joseff: Plîs maddau i dy frodyr am y drwg wnaethon nhw, yn dy drin di mor wael.’ Felly dyma ni, gweision y Duw roedd dy dad yn ei addoli. O, plîs wnei di faddau i ni am beth wnaethon ni?” Pan glywodd Joseff hyn dyma fe'n dechrau crio.
Gene WelBeibl 50:18  Yna daeth ei frodyr a syrthio o'i flaen, a dweud, “Byddwn ni'n gaethweision i ti.”
Gene WelBeibl 50:19  Ond dyma Joseff yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Ai Duw ydw i?
Gene WelBeibl 50:20  Roeddech chi am wneud drwg i mi, ond dyma Duw yn troi y drwg yn beth da. Roedd arno eisiau achub bywydau llawer o bobl, a dyna dych chi'n weld heddiw.
Gene WelBeibl 50:21  Felly peidiwch bod ag ofn. Gwna i ofalu amdanoch chi a'ch plant.” Felly rhoddodd Joseff dawelwch meddwl iddyn nhw drwy siarad yn garedig gyda nhw.
Gene WelBeibl 50:22  Arhosodd Joseff a theulu ei dad yn yr Aifft. Cafodd Joseff fyw i fod yn 110 oed.
Gene WelBeibl 50:23  Cafodd weld tair cenhedlaeth o deulu Effraim. Gwelodd blant Machir (mab Manasse) hefyd a'u derbyn nhw fel ei blant ei hun.
Gene WelBeibl 50:24  Wedyn dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr, “Dw i ar fin marw. Ond bydd Duw yn dod atoch chi ac yn mynd â chi'n ôl o'r wlad yma i'r wlad wnaeth e addo ei rhoi i Abraham, Isaac a Jacob.”
Gene WelBeibl 50:25  Felly dyma Joseff yn gwneud i bobl Israel addo, “Pan fydd Duw yn dod atoch chi, dw i am i chi fynd â fy esgyrn i o'r lle yma.”
Gene WelBeibl 50:26  A dyma Joseff yn marw yn 110 oed. Cafodd ei gorff ei falmeiddio a'i osod mewn arch yn yr Aifft.