MARK
Chapter 9
Mark | WelBeibl | 9:1 | Yna meddai wrthyn nhw, “Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi sy'n sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Duw'n dod mewn grym i deyrnasu.” | |
Mark | WelBeibl | 9:2 | Chwe diwrnod wedyn aeth Iesu i ben mynydd uchel, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan gydag e. Roedden nhw yno ar eu pennau'u hunain. Dyma olwg Iesu'n cael ei drawsnewid o flaen eu llygaid. | |
Mark | WelBeibl | 9:3 | Trodd ei ddillad yn wyn llachar; yn wynnach nag y gallai unrhyw bowdr golchi fyth eu glanhau. | |
Mark | WelBeibl | 9:5 | Dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Rabbi, mae'n dda cael bod yma. Gad i ni godi tair lloches – un i ti, un i Moses ac un i Elias.” | |
Mark | WelBeibl | 9:6 | (Doedd ganddo ddim syniad beth roedd yn ei ddweud go iawn – roedd y tri ohonyn nhw wedi dychryn gymaint!) | |
Mark | WelBeibl | 9:7 | Wedyn dyma gwmwl yn dod i lawr a chau o'u cwmpas, a dyma lais o'r cwmwl yn dweud: “Fy Mab annwyl i ydy hwn. Gwrandwch arno!” | |
Mark | WelBeibl | 9:9 | Wrth ddod i lawr o'r mynydd dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw i beidio sôn wrth neb am beth welon nhw nes y byddai e, Mab y Dyn, wedi codi yn ôl yn fyw. | |
Mark | WelBeibl | 9:10 | (Felly cafodd y digwyddiad ei gadw'n gyfrinach, ond roedden nhw'n aml yn trafod gyda'i gilydd beth oedd ystyr “codi yn ôl yn fyw.”) | |
Mark | WelBeibl | 9:11 | Dyma nhw'n gofyn iddo, “Pam mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod rhaid i Elias ddod yn ôl cyn i'r Meseia gyrraedd?” | |
Mark | WelBeibl | 9:12 | Atebodd Iesu, “Mae Elias yn dod gyntaf reit siŵr, i roi trefn ar bopeth. Ond pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod Mab y Dyn yn mynd i ddioddef llawer a chael ei wrthod? | |
Mark | WelBeibl | 9:13 | Dw i'n dweud wrthoch chi fod Elias wedi dod, ac maen nhw wedi'i gam-drin yn union fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud.” | |
Mark | WelBeibl | 9:14 | Pan ddaethon nhw at y disgyblion eraill roedd tyrfa fawr o'u cwmpas, a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno'n dadlau gyda nhw. | |
Mark | WelBeibl | 9:17 | Dyma rhyw ddyn yn ei ateb, “Athro, des i â'm mab atat ti; mae'n methu siarad am ei fod wedi'i feddiannu gan ysbryd drwg sy'n ei wneud yn fud. | |
Mark | WelBeibl | 9:18 | Pan mae'r ysbryd drwg yn gafael ynddo mae'n ei daflu ar lawr, ac yna mae'n glafoerio a rhincian ei ddannedd ac yn mynd yn stiff i gyd. Gofynnais i dy ddisgyblion di fwrw'r ysbryd allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.” | |
Mark | WelBeibl | 9:19 | “Pam dych chi mor amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i'n mynd i aros gyda chi? Am faint alla i'ch dioddef chi? Dewch â'r bachgen yma.” | |
Mark | WelBeibl | 9:20 | Wrth iddyn nhw ddod â'r bachgen at Iesu dyma'r ysbryd drwg yn ei weld ac yn gwneud i'r bachgen gael ffit epileptig. Syrthiodd ar lawr a rholio o gwmpas yn glafoerio o'i geg. | |
Mark | WelBeibl | 9:21 | Dyma Iesu'n gofyn i'r tad, “Ers faint mae e fel hyn?” “Ers pan yn blentyn bach,” atebodd y dyn. | |
Mark | WelBeibl | 9:22 | “Mae'r ysbryd drwg wedi'i daflu i ganol tân neu geisio'i foddi mewn dŵr lawer gwaith. Os wyt ti'n gallu gwneud unrhyw beth i'n helpu ni, plîs gwna.” | |
Mark | WelBeibl | 9:23 | “Beth wyt ti'n feddwl ‘Os wyt ti'n gallu’?” meddai Iesu. “Mae popeth yn bosib i'r sawl sy'n credu!” | |
Mark | WelBeibl | 9:25 | Pan welodd Iesu fod tyrfa o bobl yn rhedeg i weld beth oedd yn digwydd, dyma fe'n ceryddu'r ysbryd drwg a dweud wrtho, “Ysbryd mud a byddar, tyrd allan o'r plentyn yma, a phaid byth mynd yn ôl eto.” | |
Mark | WelBeibl | 9:26 | Dyma'r ysbryd yn rhoi sgrech ac yn gwneud i'r bachgen ysgwyd yn ffyrnig, ond yna daeth allan. Roedd y bachgen yn gorwedd mor llonydd nes bod llawer yn meddwl ei fod wedi marw. | |
Mark | WelBeibl | 9:28 | Ar ôl i Iesu fynd i mewn i dŷ, gofynnodd ei ddisgyblion iddo'n breifat, “Pam oedden ni'n methu ei fwrw allan?” | |
Mark | WelBeibl | 9:30 | Dyma nhw'n gadael yr ardal honno ac yn teithio drwy Galilea. Doedd gan Iesu ddim eisiau i unrhyw un wybod ble roedden nhw, | |
Mark | WelBeibl | 9:31 | am ei fod wrthi'n dysgu ei ddisgyblion. “Dw i, Mab y Dyn,” meddai wrthyn nhw, “yn mynd i gael fy mradychu i afael pobl fydd yn fy lladd, ond ddeuddydd ar ôl cael fy lladd bydda i'n dod yn ôl yn fyw.” | |
Mark | WelBeibl | 9:32 | Doedd gan y disgyblion ddim syniad am beth roedd e'n sôn, ond roedd arnyn nhw ofn gofyn iddo. | |
Mark | WelBeibl | 9:33 | Dyma nhw'n cyrraedd Capernaum. Pan oedd yn y tŷ lle roedden nhw'n aros gofynnodd Iesu i'r disgyblion, “Am beth oeddech chi'n dadlau ar y ffordd?” | |
Mark | WelBeibl | 9:35 | Eisteddodd Iesu i lawr, a galw'r deuddeg disgybl ato, ac meddai wrthyn nhw, “Rhaid i'r sawl sydd am fod yn geffyl blaen ddysgu mynd i'r cefn a gwasanaethu pawb arall.” | |
Mark | WelBeibl | 9:36 | Gosododd blentyn bach yn y canol o'u blaenau. Yna cododd y plentyn yn ei freichiau, a dweud wrthyn nhw, | |
Mark | WelBeibl | 9:37 | “Mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i blentyn bach fel yma am eu bod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi; ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi, yn croesawu'r Un sydd wedi fy anfon i.” | |
Mark | WelBeibl | 9:38 | Dyma Ioan yn dweud wrtho, “Athro, gwelon ni rhywun yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a dyma ni'n dweud wrtho am stopio, am ei fod e ddim yn un o'n criw ni.” | |
Mark | WelBeibl | 9:39 | “Peidiwch gwneud hynny,” meddai Iesu. “Does neb yn gwneud gwyrth yn fy enw i yn mynd i ddweud pethau drwg amdana i y funud nesa. | |
Mark | WelBeibl | 9:41 | Credwch chi fi, mae unrhyw un sy'n rhoi diod o ddŵr i chi am eich bod yn bobl y Meseia yn siŵr o gael ei wobr. | |
Mark | WelBeibl | 9:42 | “Pwy bynnag sy'n gwneud i un o'r rhai bach yma sy'n credu ynof fi bechu, byddai'n well iddo gael ei daflu i'r môr gyda maen melin wedi'i rwymo am ei wddf. | |
Mark | WelBeibl | 9:43 | Os ydy dy law yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd wedi dy anafu, na bod gen ti ddwy law a mynd i uffern, lle dydy'r tân byth yn diffodd. | |
Mark | WelBeibl | 9:45 | Ac os ydy dy droed yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i'r bywyd newydd yn gloff, na bod gen ti ddwy droed a chael dy daflu i uffern. | |
Mark | WelBeibl | 9:47 | Ac os ydy dy lygad yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan. Mae'n well i ti fynd i mewn i deyrnas Dduw gyda dim ond un llygad na bod gen ti ddwy a chael dy daflu i uffern, | |