Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
NUMBERS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 13
Numb WelBeibl 13:2  “Anfon ddynion i archwilio gwlad Canaan, sef y tir dw i'n ei roi i bobl Israel. Anfon un arweinydd o bob llwyth.”
Numb WelBeibl 13:3  Felly dyma Moses yn eu hanfon nhw o anialwch Paran, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Roedden nhw i gyd yn arweinwyr pobl Israel.
Numb WelBeibl 13:4  Dyma'u henwau nhw: EnwLlwyth Shammwa fab SaccwrReuben Shaffat fab ChoriSimeon Caleb fab JeffwnneJwda Igal fab JoseffIssachar Hoshea fab NwnEffraim Palti fab RaffwBenjamin Gadiel fab SodiSabulon Gadi fab SwsiJoseff (sef Manasse) Ammiel fab GemaliDan Sethwr fab MichaelAsher Nachbi fab FoffsiNafftali Gewel fab MachiGad
Numb WelBeibl 13:5  Dyma'u henwau nhw: EnwLlwyth Shammwa fab SaccwrReuben Shaffat fab ChoriSimeon Caleb fab JeffwnneJwda Igal fab JoseffIssachar Hoshea fab NwnEffraim Palti fab RaffwBenjamin Gadiel fab SodiSabulon Gadi fab SwsiJoseff (sef Manasse) Ammiel fab GemaliDan Sethwr fab MichaelAsher Nachbi fab FoffsiNafftali Gewel fab MachiGad
Numb WelBeibl 13:6  Dyma'u henwau nhw: EnwLlwyth Shammwa fab SaccwrReuben Shaffat fab ChoriSimeon Caleb fab JeffwnneJwda Igal fab JoseffIssachar Hoshea fab NwnEffraim Palti fab RaffwBenjamin Gadiel fab SodiSabulon Gadi fab SwsiJoseff (sef Manasse) Ammiel fab GemaliDan Sethwr fab MichaelAsher Nachbi fab FoffsiNafftali Gewel fab MachiGad
Numb WelBeibl 13:7  Dyma'u henwau nhw: EnwLlwyth Shammwa fab SaccwrReuben Shaffat fab ChoriSimeon Caleb fab JeffwnneJwda Igal fab JoseffIssachar Hoshea fab NwnEffraim Palti fab RaffwBenjamin Gadiel fab SodiSabulon Gadi fab SwsiJoseff (sef Manasse) Ammiel fab GemaliDan Sethwr fab MichaelAsher Nachbi fab FoffsiNafftali Gewel fab MachiGad
Numb WelBeibl 13:8  Dyma'u henwau nhw: EnwLlwyth Shammwa fab SaccwrReuben Shaffat fab ChoriSimeon Caleb fab JeffwnneJwda Igal fab JoseffIssachar Hoshea fab NwnEffraim Palti fab RaffwBenjamin Gadiel fab SodiSabulon Gadi fab SwsiJoseff (sef Manasse) Ammiel fab GemaliDan Sethwr fab MichaelAsher Nachbi fab FoffsiNafftali Gewel fab MachiGad
Numb WelBeibl 13:9  Dyma'u henwau nhw: EnwLlwyth Shammwa fab SaccwrReuben Shaffat fab ChoriSimeon Caleb fab JeffwnneJwda Igal fab JoseffIssachar Hoshea fab NwnEffraim Palti fab RaffwBenjamin Gadiel fab SodiSabulon Gadi fab SwsiJoseff (sef Manasse) Ammiel fab GemaliDan Sethwr fab MichaelAsher Nachbi fab FoffsiNafftali Gewel fab MachiGad
Numb WelBeibl 13:10  Dyma'u henwau nhw: EnwLlwyth Shammwa fab SaccwrReuben Shaffat fab ChoriSimeon Caleb fab JeffwnneJwda Igal fab JoseffIssachar Hoshea fab NwnEffraim Palti fab RaffwBenjamin Gadiel fab SodiSabulon Gadi fab SwsiJoseff (sef Manasse) Ammiel fab GemaliDan Sethwr fab MichaelAsher Nachbi fab FoffsiNafftali Gewel fab MachiGad
Numb WelBeibl 13:11  Dyma'u henwau nhw: EnwLlwyth Shammwa fab SaccwrReuben Shaffat fab ChoriSimeon Caleb fab JeffwnneJwda Igal fab JoseffIssachar Hoshea fab NwnEffraim Palti fab RaffwBenjamin Gadiel fab SodiSabulon Gadi fab SwsiJoseff (sef Manasse) Ammiel fab GemaliDan Sethwr fab MichaelAsher Nachbi fab FoffsiNafftali Gewel fab MachiGad
Numb WelBeibl 13:12  Dyma'u henwau nhw: EnwLlwyth Shammwa fab SaccwrReuben Shaffat fab ChoriSimeon Caleb fab JeffwnneJwda Igal fab JoseffIssachar Hoshea fab NwnEffraim Palti fab RaffwBenjamin Gadiel fab SodiSabulon Gadi fab SwsiJoseff (sef Manasse) Ammiel fab GemaliDan Sethwr fab MichaelAsher Nachbi fab FoffsiNafftali Gewel fab MachiGad
Numb WelBeibl 13:13  Dyma'u henwau nhw: EnwLlwyth Shammwa fab SaccwrReuben Shaffat fab ChoriSimeon Caleb fab JeffwnneJwda Igal fab JoseffIssachar Hoshea fab NwnEffraim Palti fab RaffwBenjamin Gadiel fab SodiSabulon Gadi fab SwsiJoseff (sef Manasse) Ammiel fab GemaliDan Sethwr fab MichaelAsher Nachbi fab FoffsiNafftali Gewel fab MachiGad
Numb WelBeibl 13:14  Dyma'u henwau nhw: EnwLlwyth Shammwa fab SaccwrReuben Shaffat fab ChoriSimeon Caleb fab JeffwnneJwda Igal fab JoseffIssachar Hoshea fab NwnEffraim Palti fab RaffwBenjamin Gadiel fab SodiSabulon Gadi fab SwsiJoseff (sef Manasse) Ammiel fab GemaliDan Sethwr fab MichaelAsher Nachbi fab FoffsiNafftali Gewel fab MachiGad
Numb WelBeibl 13:15  Dyma'u henwau nhw: EnwLlwyth Shammwa fab SaccwrReuben Shaffat fab ChoriSimeon Caleb fab JeffwnneJwda Igal fab JoseffIssachar Hoshea fab NwnEffraim Palti fab RaffwBenjamin Gadiel fab SodiSabulon Gadi fab SwsiJoseff (sef Manasse) Ammiel fab GemaliDan Sethwr fab MichaelAsher Nachbi fab FoffsiNafftali Gewel fab MachiGad
Numb WelBeibl 13:16  Dyna enwau'r dynion anfonodd Moses i ysbïo'r wlad. Ac roedd Moses yn galw Hoshea fab Nwn yn Josua.
Numb WelBeibl 13:17  Pan anfonodd Moses nhw i archwilio gwlad Canaan, dwedodd fel hyn: “Ewch i fyny drwy'r Negef, ac ymlaen i'r bryniau.
Numb WelBeibl 13:18  Edrychwch i weld sut wlad ydy hi. Ydy'r bobl yn gryf neu'n wan? Oes yna lawer ohonyn nhw, neu ddim ond ychydig?
Numb WelBeibl 13:19  Sut dir ydy e? Da neu ddrwg? Oes gan y trefi waliau i'w hamddiffyn, neu ydyn nhw'n agored?
Numb WelBeibl 13:20  Beth am y pridd? Ydy e'n ffrwythlon neu'n wael? Oes yna fforestydd yno? Byddwch yn ddewr! Ewch yno, a dewch â pheth o gynnyrch y tir yn ôl gyda chi.” (Roedd hi'r adeg o'r flwyddyn pan oedd y grawnwin aeddfed cyntaf yn cael eu casglu.)
Numb WelBeibl 13:21  Felly i ffwrdd â nhw. A dyma nhw'n archwilio'r wlad, yr holl ffordd o anialwch Sin yn y de i Rechob, wrth Fwlch Chamath, yn y gogledd.
Numb WelBeibl 13:22  Wrth fynd drwy'r Negef, dyma nhw'n cyrraedd Hebron. Roedd yr Achiman, y Sheshai a'r Talmai yn byw yno, sef disgynyddion Anac. (Roedd tref Hebron wedi'i hadeiladu saith mlynedd cyn Soan yn yr Aifft.)
Numb WelBeibl 13:23  Pan gyrhaeddon nhw ddyffryn Eshcol, dyma nhw'n torri cangen oddi ar winwydden gydag un swp o rawnwin arni. Roedd rhaid cael dau ddyn i'w chario ar bolyn rhyngddyn nhw. A dyma nhw'n casglu pomgranadau a ffigys hefyd.
Numb WelBeibl 13:24  Roedd y lle'n cael ei alw yn ddyffryn Eshcol (sef ‛swp o rawnwin‛) o achos y swp o rawnwin roedden nhw wedi'i gymryd oddi yno.
Numb WelBeibl 13:25  Roedden nhw wedi bod yn archwilio'r wlad am bedwar deg diwrnod.
Numb WelBeibl 13:26  A dyma nhw'n mynd yn ôl i Cadesh yn anialwch Paran, at Moses ac Aaron a phobl Israel. A dyma nhw'n dweud wrth y bobl beth roedden nhw wedi'i weld, ac yn dangos y ffrwyth roedden nhw wedi ei gario yn ôl.
Numb WelBeibl 13:27  Dyma nhw'n dweud wrth Moses, “Aethon ni i'r wlad lle gwnest ti'n hanfon ni. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo! A dyma beth o'i ffrwyth.
Numb WelBeibl 13:28  Ond mae'r bobl sy'n byw yno yn gryfion, ac maen nhw'n byw mewn trefi caerog mawr. Ac yn waeth na hynny, mae disgynyddion Anac yn byw yno.
Numb WelBeibl 13:29  Mae'r Amaleciaid yn byw yn y Negef, yr Hethiaid, Jebwsiaid ac Amoriaid yn byw yn y bryniau, a'r Canaaneaid yn byw ar yr arfordir ac ar lan afon Iorddonen.”
Numb WelBeibl 13:30  Ond yna dyma Caleb yn galw ar y bobl oedd yno gyda Moses i fod yn dawel. “Gadewch i ni fynd, a chymryd y wlad! Gallwn ni ei choncro!”
Numb WelBeibl 13:31  Ond dyma'r dynion eraill oedd wedi mynd i archwilio'r wlad yn dweud, “Na, allwn ni ddim ymosod ar y bobl yno. Maen nhw'n llawer rhy gryf i ni!”
Numb WelBeibl 13:32  A dyma nhw'n rhoi adroddiad gwael i bobl Israel, “Byddwn ni'n cael ein llyncu gan bobl y wlad buon ni'n edrych arni. Mae'r bobl welon ni yno yn anferth!
Numb WelBeibl 13:33  Roedd yno gewri, sef disgynyddion Anac. Roedden ni'n teimlo'n fach fel pryfed wrth eu hymyl nhw, a dyna sut roedden nhw'n ein gweld ni hefyd!”