GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 1
Gene | WelBeibl | 1:2 | Roedd y ddaear yn anhrefn gwag, ac roedd hi'n hollol dywyll dros y dŵr dwfn. Ond roedd Ysbryd Duw yn hofran dros wyneb y dŵr. | |
Gene | WelBeibl | 1:4 | Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, a dyma Duw yn gwahanu'r golau oddi wrth y tywyllwch. | |
Gene | WelBeibl | 1:5 | Rhoddodd Duw yr enw ‛dydd‛ i'r golau a'r enw ‛nos‛ i'r tywyllwch, ac roedd nos a dydd ar y diwrnod cyntaf. | |
Gene | WelBeibl | 1:6 | Wedyn dwedodd Duw, “Dw i eisiau cromen o aer rhwng y dyfroedd, i wahanu'r dŵr yn ddau.” | |
Gene | WelBeibl | 1:7 | A dyna ddigwyddodd. Gwnaeth Duw gromen o aer, ac roedd yn gwahanu'r dŵr oddi tani oddi wrth y dŵr uwch ei phen. | |
Gene | WelBeibl | 1:9 | Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i'r dŵr sydd dan yr awyr gasglu i un lle, er mwyn i ddaear sych ddod i'r golwg.” A dyna ddigwyddodd. | |
Gene | WelBeibl | 1:10 | Rhoddodd Duw yr enw ‛tir‛ i'r ddaear, a ‛moroedd‛ i'r dŵr. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda. | |
Gene | WelBeibl | 1:11 | Yna dwedodd Duw, “Dw i eisiau i laswellt dyfu o'r tir, a phob math o blanhigion sydd â hadau ynddyn nhw, a choed ffrwythau. Bydd yr hadau ynddyn nhw yn gwneud i fwy a mwy o'r planhigion gwahanol hynny dyfu.” A dyna ddigwyddodd. | |
Gene | WelBeibl | 1:12 | Roedd y tir wedi'i orchuddio â glaswellt a phlanhigion a choed o bob math, a'u hadau eu hunain ynddyn nhw. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, | |
Gene | WelBeibl | 1:14 | Dwedodd Duw, “Dw i eisiau goleuadau yn yr awyr i wahanu'r dydd a'r nos. Byddan nhw hefyd yn arwyddion i fesur y tymhorau, y dyddiau a'r blynyddoedd. | |
Gene | WelBeibl | 1:16 | Gwnaeth Duw ddau olau mawr – yr haul a'r lleuad. Roedd yr un mwya disglair, sef yr haul, i reoli'r dydd, a'r golau lleia, sef y lleuad, i reoli'r nos. Gwnaeth Duw y sêr hefyd. | |
Gene | WelBeibl | 1:18 | i reoli dydd a nos, ac i wahanu'r golau oddi wrth y tywyllwch. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, | |
Gene | WelBeibl | 1:20 | Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i'r dyfroedd fod yn orlawn o bysgod a chreaduriaid byw eraill, a dw i eisiau i adar hedfan yn ôl ac ymlaen yn yr awyr uwchben y ddaear.” | |
Gene | WelBeibl | 1:21 | Felly dyma Duw yn creu y creaduriaid enfawr sydd yn y môr, a'r holl bethau byw eraill sydd ynddo, a'r holl wahanol fathau o adar hefyd. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda. | |
Gene | WelBeibl | 1:22 | A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud, “Dw i eisiau i chi gael haid o rai bach, nes eich bod chi'n llenwi'r dŵr sydd yn y môr, a dw i eisiau llawer o adar ar y ddaear.” | |
Gene | WelBeibl | 1:24 | Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i greaduriaid byw o bob math lenwi'r ddaear: anifeiliaid, ymlusgiaid a phryfed, a bywyd gwyllt o bob math.” A dyna ddigwyddodd. | |
Gene | WelBeibl | 1:25 | Gwnaeth Duw bob math o greaduriaid gwyllt, pob math o anifeiliaid, ac ymlusgiaid a phryfed gwahanol i fyw ar y ddaear. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda. | |
Gene | WelBeibl | 1:26 | Yna dwedodd Duw, “Gadewch i ni wneud pobl yn ddelw ohonon ni'n hunain, i fod yn debyg i ni; i fod yn feistri sy'n gofalu am bopeth – y pysgod yn y môr, yr adar yn yr awyr, yr anifeiliaid, y ddaear gyfan a'r holl greaduriaid a phryfed sy'n byw arni.” | |
Gene | WelBeibl | 1:27 | Felly dyma Duw yn creu pobl ar ei ddelw ei hun. Yn ddelw ohono'i hun y creodd nhw. Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw. | |
Gene | WelBeibl | 1:28 | A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud wrthyn nhw, “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi; a bod yn feistr i ofalu am y pysgod sydd yn y môr, yr adar sy'n hedfan yn yr awyr, a'r holl greaduriaid sy'n byw ar y ddaear.” | |
Gene | WelBeibl | 1:29 | Dwedodd Duw, “Edrychwch. Dw i wedi rhoi'r planhigion sydd â hadau a'r ffrwythau ar y coed i gyd, i fod yn fwyd i chi. | |
Gene | WelBeibl | 1:30 | A dw i wedi rhoi'r holl blanhigion yn fwyd i'r bywyd gwyllt a'r adar a'r holl greaduriaid bach eraill sydd ar y ddaear – ie, pob un creadur byw.” A dyna ddigwyddodd. | |