Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II PETER
Up
1 2 3
Toggle notes
Chapter 1
II P WelBeibl 1:1  Llythyr gan Simon Pedr, gwas a chynrychiolydd personol Iesu Grist, At y rhai sydd â ffydd yr un mor werthfawr â ni. Dydy Iesu Grist, ein Duw a'n Hachubwr ni, ddim yn rhoi ffafriaeth i neb:
II P WelBeibl 1:2  Dw i'n gweddïo y bydd Duw yn tywallt ei haelioni rhyfeddol a'i heddwch dwfn arnoch chi wrth i chi ddod i nabod Duw a Iesu ein Harglwydd yn well.
II P WelBeibl 1:3  Wrth ddod i nabod Iesu Grist yn well, mae ei nerth dwyfol yn rhoi i ni bopeth sydd ei angen i fyw fel mae Duw eisiau i ni fyw. Mae wedi'n galw ni i berthynas gydag e'i hun, i ni rannu ei ysblander a phrofi ei ddaioni.
II P WelBeibl 1:4  A thrwy hyn i gyd mae wedi addo cymaint o bethau mawr a gwerthfawr i ni. Y pethau yma sy'n eich galluogi chi i rannu ym mywyd anfarwol y natur ddwyfol. Dych chi'n osgoi'r dirywiad moesol sydd wedi lledu drwy'r byd o ganlyniad i chwantau pechadurus.
II P WelBeibl 1:5  Dyma'n union pam ddylech chi wneud popeth posib i sicrhau fod daioni yn nodweddu eich cred. Wedyn dylai'r pethau yma ddilyn yn eu tro: doethineb ymarferol,
II P WelBeibl 1:6  hunanreolaeth, dycnwch, byw fel mae Duw am i chi fyw,
II P WelBeibl 1:7  dangos gofal go iawn am eich gilydd, a chariad cwbl ddiamod.
II P WelBeibl 1:8  Os ydy'r pethau yma i'w gweld yn eich bywyd chi fwyfwy bob dydd, byddwch chi'n tyfu ac yn aeddfedu fel pobl sy'n nabod ein Harglwydd Iesu Grist.
II P WelBeibl 1:9  Mae'r rhai sydd heb y pethau yma yn eu bywydau mor fyr eu golwg maen nhw'n ddall! Maen nhw wedi anghofio'r newid ddigwyddodd pan gawson nhw eu glanhau o bechodau'r gorffennol.
II P WelBeibl 1:10  Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch eich gorau glas i wneud yn hollol siŵr fod Duw wir wedi'ch galw chi a'ch dewis chi. Dych chi'n siŵr o gyrraedd y nod os gwnewch chi'r pethau hyn,
II P WelBeibl 1:11  a chewch groeso mawr i mewn i ble mae ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist yn teyrnasu am byth.
II P WelBeibl 1:12  Felly dw i'n mynd i ddal ati drwy'r adeg i'ch atgoffa chi o'r pethau yma. Dych chi'n eu gwybod eisoes, ac mae gynnoch chi afael cadarn yn y gwirionedd.
II P WelBeibl 1:13  Ond dw i'n teimlo cyfrifoldeb i ddal ati i'ch atgoffa chi tra dw i'n dal yn fyw.
II P WelBeibl 1:14  Dw i'n gwybod fod fy amser i yn y corff yma ar fin dod i ben. Mae'r Arglwydd Iesu Grist wedi dangos hynny'n ddigon clir i mi.
II P WelBeibl 1:15  Felly dw i eisiau gwneud yn siŵr y byddwch chi'n dal i gofio'r pethau yma ar ôl i mi farw.
II P WelBeibl 1:16  Dim dilyn rhyw straeon dychmygol clyfar oedden ni pan ddwedon ni wrthoch chi fod yr Arglwydd Iesu Grist yn mynd i ddod yn ôl eto gyda grym. Dim o gwbl! Roedden ni'n llygad-dystion i'w fawrhydi!
II P WelBeibl 1:17  Gwelon ni e'n cael ei anrhydeddu a'i ganmol gan Dduw y Tad. Daeth llais oddi wrth y Gogoniant Mawr yn dweud, “Fy mab annwyl i ydy hwn; mae e wedi fy mhlesio i'n llwyr”.
II P WelBeibl 1:18  Clywon ni'r llais hwn yn dod o'r nefoedd pan oedden ni gydag e ar ben y mynydd sanctaidd.
II P WelBeibl 1:19  A dŷn ni'n rhoi pwys mawr ar neges y proffwydi hefyd. Byddai'n beth da i chithau dalu sylw i'r neges honno. Mae fel lamp sy'n goleuo rhywle tywyll nes i'r dydd wawrio ac i ‛seren y bore‛ godi i oleuo eich meddyliau chi.
II P WelBeibl 1:20  Mae'n hynod o bwysig i chi ddeall hyn – mai dim syniadau'r proffwyd ei hun ydy'r negeseuon sydd yn yr ysgrifau sanctaidd.
II P WelBeibl 1:21  Dim y proffwyd ei hun oedd yn penderfynu ei fod am ddweud rhywbeth. Er mai pobl oedd yn gwneud y siarad, yr Ysbryd Glân oedd yn eu cymell nhw i siarad. Roedden nhw'n dweud beth oedd Duw am iddyn nhw ei ddweud.
Chapter 2
II P WelBeibl 2:1  Ond roedd proffwydi ffals hefyd yn Israel bryd hynny, a bydd athrawon ffals yn codi yn eich plith chithau. Byddan nhw'n sleifio i mewn gyda heresïau sy'n arwain i ddinistr. A hyd yn oed yn mynd mor bell a gwadu awdurdod y Meistr brynodd ryddid iddyn nhw oddi wrth bechod! Byddan nhw'n dwyn dinistr arnyn nhw eu hunain yn fuan iawn.
II P WelBeibl 2:2  Bydd llawer o bobl yn eu dilyn ac yn rhoi penrhyddid llwyr i'w chwantau rhywiol. Bydd y wir ffordd at Dduw yn cael enw drwg ganddyn nhw.
II P WelBeibl 2:3  Byddan nhw'n ceisio manteisio arnoch chi a chael eich arian chi drwy adrodd straeon celwyddog. Maen nhw wedi cael eu dedfrydu i gael eu cosbi ers amser maith, a dydy'r ddedfryd ddim wedi'i hanghofio. Mae'r dinistr sy'n dod arnyn nhw ar ei ffordd!
II P WelBeibl 2:4  Wnaeth Duw ddim hyd yn oed arbed yr angylion oedd yn euog o bechu yn ei erbyn. Anfonodd nhw i uffern, a'u rhwymo yn nhywyllwch dudew y byd tanddaearol i ddisgwyl cael eu cosbi.
II P WelBeibl 2:5  Wnaeth e ddim arbed yr hen fyd chwaith. Anfonodd lifogydd y dilyw i foddi'r byd oedd yn llawn o bobl oedd yn tynnu'n groes iddo. Dim ond Noa a saith aelod o'i deulu gafodd eu harbed. Noa oedd yr unig un oedd yn galw ar bobl i fyw yn ufudd i Dduw.
II P WelBeibl 2:6  Wedyn cafodd trefi Sodom a Gomorra eu llosgi'n ulw, a'u gwneud yn esiampl o beth sy'n mynd i ddigwydd i bobl annuwiol.
II P WelBeibl 2:7  Ond cafodd Lot ei achub o Gomorra am ei fod e'n ddyn oedd yn gwneud beth oedd yn iawn. Roedd yn torri ei galon wrth weld ymddygiad diegwyddor a phenrhyddid llwyr pobl o'i gwmpas.
II P WelBeibl 2:8  Roedd Lot yn ceisio gwneud beth oedd yn iawn yng ngolwg Duw. Roedd yn cael ei boeni'n enbyd gan y pethau ofnadwy roedd yn ei weld ac yn ei glywed o'i gwmpas.
II P WelBeibl 2:9  Felly mae'r Arglwydd yn gwybod yn iawn sut i achub pobl dduwiol o ganol eu treialon. Ond mae'n cadw pobl ddrwg i'w cosbi pan ddaw dydd y farn.
II P WelBeibl 2:10  Mae Duw yn arbennig o llym wrth gosbi'r rhai hynny sy'n gwneud dim ond dilyn eu chwantau. Pobl sy'n gadael i'w natur bechadurus lygredig reoli eu bywydau, ac sy'n wfftio awdurdod yr Arglwydd. Maen nhw mor haerllug ac mor siŵr ohonyn nhw eu hunain does ganddyn nhw ddim ofn enllibio'r diafol a'i angylion.
II P WelBeibl 2:11  Dydy hyd yn oed angylion Duw, sy'n llawer cryfach a mwy pwerus na nhw, ddim yn eu henllibio nhw wrth eu cyhuddo o flaen Duw.
II P WelBeibl 2:12  Ond mae'r bobl yma fel anifeiliaid direswm yn dilyn eu greddfau. Maen nhw'n enllibio pethau dŷn nhw ddim yn eu deall. A byddan nhw hefyd yn cael eu dal a'u dinistrio yn y diwedd.
II P WelBeibl 2:13  Byddan nhw'n cael eu talu yn ôl am y drwg maen nhw wedi'i wneud! Eu syniad nhw o hwyl ydy rhialtwch gwyllt yng ngolau dydd. Maen nhw fel staen ar eich cymdeithas chi, yn ymgolli yn eu pleserau gwag wrth eistedd i wledda gyda chi.
II P WelBeibl 2:14  Rhyw ydy'r unig beth sydd ar eu meddyliau nhw wrth edrych ar wragedd, ac maen nhw o hyd ac o hyd yn edrych am gyfle i bechu. Maen nhw'n taflu abwyd i ddal y rhai sy'n hawdd i'w camarwain. Maen nhw'n arbenigwyr ar gymryd mantais o bobl. Byddan nhw'n cael eu melltithio!
II P WelBeibl 2:15  Maen nhw wedi crwydro oddi ar y ffordd iawn a dilyn esiampl Balaam fab Beor oedd wrth ei fodd yn cael ei dalu am wneud drwg.
II P WelBeibl 2:16  Ond wedyn cafodd ei geryddu am hynny gan asyn! – anifail mud yn siarad gyda llais dynol ac yn achub y proffwyd rhag gwneud peth hollol wallgof!
II P WelBeibl 2:17  Mae'r bobl yma fel ffynhonnau heb ddŵr ynddyn nhw! Cymylau sy'n cael eu chwythu i ffwrdd gan gorwynt! Mae'r tywyllwch dudew yn barod i'w llyncu nhw!
II P WelBeibl 2:18  Mae eu geiriau gwag nhw a'u brolio di-baid, a'r penrhyddid rhywiol fel abwyd yn denu pobl – a'r bobl hynny ddim ond newydd lwyddo i ddianc o'r math o fywyd mae'r paganiaid yn ei fyw.
II P WelBeibl 2:19  Maen nhw'n addo rhyddid i bobl, ond maen nhw eu hunain yn gaeth i bethau sy'n arwain i ddinistr! – achos “mae rhywun yn gaeth i beth bynnag sydd wedi'i drechu.”
II P WelBeibl 2:20  Os ydy pobl wedi dianc o'r bywyd aflan sydd yn y byd drwy ddod i nabod ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist, ac wedyn yn cael eu dal a'u rheoli gan yr un pethau eto, “maen nhw mewn gwaeth cyflwr yn y diwedd nag oedden nhw ar y dechrau!”
II P WelBeibl 2:21  Byddai'n well iddyn nhw beidio gwybod o gwbl am y ffordd iawn, na bod wedi dod o hyd i'r ffordd honno ac wedyn troi'u cefnau ar y ddysgeidiaeth dda gafodd ei basio ymlaen iddyn nhw.
II P WelBeibl 2:22  Mae'r hen ddihareb yn wir!: “Mae ci'n mynd yn ôl at ei chwŷd.” Ydy, “Mae hwch, ar ôl ymolchi, yn mynd yn ôl i orweddian yn y mwd.”
Chapter 3
II P WelBeibl 3:1  Ffrindiau annwyl, hwn ydy'r ail lythyr i mi ei ysgrifennu atoch chi. Yn hwn fel yn y llall dw i wedi ceisio'ch annog chi i gadw'ch meddyliau yn lân.
II P WelBeibl 3:2  Dw i eisiau i chi gofio beth ddwedodd y proffwydi sanctaidd yn y gorffennol. A hefyd beth ddysgodd ein Harglwydd a'n Hachubwr drwy ei gynrychiolwyr personol, y rhai rannodd y newyddion da gyda chi gyntaf.
II P WelBeibl 3:3  Y peth pwysig i'w gofio ydy hyn: Yn y dyddiau olaf bydd rhai yn dod fydd yn ‛chwarae crefydd‛, yn dweud beth bynnag maen nhw eisiau ac yn gwneud sbort o'r gwirionedd.
II P WelBeibl 3:4  Byddan nhw'n dweud, “Wnaeth e ddim addo dod yn ôl? Ble mae e felly? Er bod y genhedlaeth gyntaf wedi marw, does dim wir wedi newid – mae bywyd yn mynd yn ei flaen yr un fath ers dechrau'r byd!”
II P WelBeibl 3:5  Ond wrth siarad felly maen nhw'n diystyru rhai ffeithiau. Roedd nefoedd a daear yn bod ymhell bell yn ôl am fod Duw wedi gorchymyn iddyn nhw ffurfio. Daeth y ddaear allan o ddŵr, a chafodd tir sych ei amgylchynu gan ddŵr.
II P WelBeibl 3:6  Wedyn defnyddiodd Duw yr un dŵr i ddod â dinistr i'r byd drwy foddi'r cwbl adeg y dilyw.
II P WelBeibl 3:7  Ac mae Duw wedi gorchymyn fod y nefoedd a'r ddaear bresennol wedi'u cadw i fynd drwy dân. Ie, wedi'u cadw ar gyfer dydd y farn, pan fydd pobl annuwiol yn cael eu dinistrio.
II P WelBeibl 3:8  Peidiwch anghofio hyn, ffrindiau annwyl: I'r Arglwydd mae un diwrnod fel mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd fel un diwrnod.
II P WelBeibl 3:9  Dydy Duw ddim yn hwyr yn gwneud beth mae wedi'i addo, fel mae rhai'n meddwl am fod yn hwyr. Bod yn amyneddgar gyda chi mae e. Does ganddo ddim eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw. Mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd.
II P WelBeibl 3:10  Mae dydd yr Arglwydd yn dod. Ond bydd yn dod yn gwbl ddirybudd, fel lleidr. Bydd popeth yn yr awyr yn diflannu gyda sŵn rhuthr mawr. Bydd yr elfennau yn cael eu dinistrio gan dân, a phopeth ddigwyddodd ar y ddaear yn dod i'r golwg i gael ei farnu.
II P WelBeibl 3:11  Am fod popeth yn mynd i gael ei ddinistrio fel hyn, mae'n amlwg sut bobl ddylen ni fod! Dylen ni fyw bywydau glân sy'n rhoi Duw yn y canol,
II P WelBeibl 3:12  ac edrych ymlaen yn frwd i ddiwrnod Duw ddod. Dyna pryd fydd popeth yn yr awyr yn cael ei ddinistrio gan dân, a'r elfennau yn toddi yn y gwres.
II P WelBeibl 3:13  Ond dŷn ni'n edrych ymlaen at y nefoedd newydd a'r ddaear newydd mae Duw wedi'i haddo, lle bydd popeth mewn perthynas iawn gydag e.
II P WelBeibl 3:14  Felly, ffrindiau annwyl, gan mai dyna dych chi'n edrych ymlaen ato, gwnewch eich gorau glas i fyw bywydau sy'n lân a di-fai, ac mewn perthynas iawn gyda Duw.
II P WelBeibl 3:15  Dylech chi weld fod amynedd yr Arglwydd yn rhoi cyfle i chi gael eich achub. Dyna'n union ddwedodd ein brawd annwyl Paul pan ysgrifennodd atoch chi, ac mae Duw wedi rhoi dealltwriaeth arbennig iddo fe.
II P WelBeibl 3:16  Mae'n sôn am y pethau hyn i gyd yn ei lythyrau eraill hefyd. Mae rhai pethau yn ei lythyrau sy'n anodd eu deall. A dyna'r pethau mae pobl sydd heb eu dysgu ac sy'n hawdd eu camarwain yn eu gwyrdroi, yn union fel gyda'r ysgrifau sanctaidd eraill. Y canlyniad ydy eu bod nhw'n mynd i ddinistr!
II P WelBeibl 3:17  Ond dych chi wedi cael eich rhybuddio, ffrindiau annwyl. Felly gwyliwch rhag cael eich ysgubo i ffwrdd gan syniadau ffals pobl ddiegwyddor. Dw i ddim am i'ch ffydd gadarn chi simsanu.
II P WelBeibl 3:18  Yn lle hynny, dw i am i chi brofi mwy a mwy o ffafr a haelioni ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist a dod i'w nabod e'n well. Mae e'n haeddu cael ei foli! – yn awr ac ar y diwrnod pan fydd tragwyddoldeb yn gwawrio! Amen.