ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 63
Isai | WelBeibl | 63:1 | Pwy ydy hwn sy'n dod o Edom – o Bosra a'i ddillad yn goch? Pwy ydy'r un, yn ei wisgoedd brenhinol, sy'n martsio'n hyderus a diflino. “Fi ydy e, sy'n cyhoeddi cyfiawnder; yr un sy'n gallu achub.” | |
Isai | WelBeibl | 63:3 | “Dw i wedi sathru'r grawnwin fy hun; doedd neb o gwbl gyda fi. Sathrais nhw yn fy llid, a'u gwasgu dan draed yn fy nicter, nes i'w gwaed nhw sblasio ar fy nillad; dw i wedi staenio fy nillad i gyd. | |
Isai | WelBeibl | 63:5 | Pan edrychais, doedd neb yno i helpu; rôn i'n synnu fod neb yno i roi cymorth. Felly dyma fi'n mynd ati i achub, a'm dicter yn fy ngyrru ymlaen. | |
Isai | WelBeibl | 63:6 | Sathrais genhedloedd yn fy llid, a'u meddwi nhw gyda fy llid, a thywallt eu gwaed ar lawr.” | |
Isai | WelBeibl | 63:7 | Dw i'n mynd i atgoffa pobl mor hael a charedig ydy'r ARGLWYDD, a dw i'n mynd i ganu ei glod – am y cwbl mae'r ARGLWYDD wedi'i wneud i ni, a'r holl bethau da mae e wedi'u gwneud i bobl Israel. Mae e mor drugarog ac mor hael! | |
Isai | WelBeibl | 63:8 | Meddyliodd: “Fy mhobl i ydyn nhw, plant fydd ddim yn anffyddlon.” Felly dyma fe'n eu hachub nhw. | |
Isai | WelBeibl | 63:9 | Pan oedden nhw'n diodde roedd e'n diodde hefyd, a dyma fe'n anfon ei angel i'w hachub. Yn ei gariad a'i drugaredd, daeth i'w gollwng nhw'n rhydd. Cododd nhw, a'u cario nhw ar hyd y cyfnod hwnnw. | |
Isai | WelBeibl | 63:10 | Ond dyma nhw'n gwrthryfela, ac yn tristáu ei Ysbryd Glân. Felly trodd yn elyn iddyn nhw, ac ymladd yn eu herbyn nhw. | |
Isai | WelBeibl | 63:11 | Yna dyma fe'n cofio'r hen ddyddiau – Moses … a'i bobl! Ble mae'r Un ddaeth â nhw drwy'r Môr gyda bugeiliaid ei braidd? Ble mae'r Un wnaeth roi ei Ysbryd Glân yn eu plith nhw – | |
Isai | WelBeibl | 63:12 | yr Un wnaeth roi ei nerth i Moses? Ble mae'r Un wnaeth hollti'r môr o'u blaenau a gwneud enw iddo'i hun am byth? | |
Isai | WelBeibl | 63:13 | Ble mae'r Un wnaeth eu harwain nhw drwy'r dyfnder fel ceffyl yn carlamu ar dir agored? | |
Isai | WelBeibl | 63:14 | Rhoddodd Ysbryd yr ARGLWYDD orffwys iddyn nhw, fel gwartheg yn mynd i lawr i'r dyffryn. Dyna sut wnest ti arwain dy bobl a gwneud enw gwych i ti dy hun! | |
Isai | WelBeibl | 63:15 | Edrych i lawr o'r nefoedd, o'r lle sanctaidd a hardd lle rwyt ti'n byw! Ble mae dy sêl a dy nerth di bellach? Ble mae hiraeth dy galon a dy gariad? Paid dal yn ôl, | |
Isai | WelBeibl | 63:16 | achos ti ydy'n Tad ni! Hyd yn oed petai Abraham ddim yn cymryd sylw, ac Israel ddim yn ein nabod ni, ti ydy'n Tad ni, O ARGLWYDD! Ti ydy'r Un sy'n ein rhyddhau ni! – Dyna dy enw di ers y dyddiau hynny. | |
Isai | WelBeibl | 63:17 | ARGLWYDD, pam wyt ti wedi gadael i ni grwydro oddi ar dy ffyrdd di? Pam wyt ti wedi'n gwneud ni'n ystyfnig nes ein bod ddim yn dy barchu di? Maddau i ni, er mwyn dy weision, dy lwythau di dy hun! | |
Isai | WelBeibl | 63:18 | Cafodd dy bobl feddiannu'r tir am gyfnod byr, ond wedyn sathrodd dy elynion dy gysegr dan draed. | |