JOSHUA
Chapter 21
Josh | WelBeibl | 21:1 | Dyma arweinwyr llwyth Lefi yn mynd i weld Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel, | |
Josh | WelBeibl | 21:2 | yn Seilo yn Canaan. A dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses roi trefi i ni fyw ynddyn nhw, gyda thir pori o'u cwmpas nhw i'n hanifeiliaid.” | |
Josh | WelBeibl | 21:3 | Felly, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, dyma bobl Israel yn rhoi trefi gyda thir pori o'u cwmpas nhw i lwyth Lefi: | |
Josh | WelBeibl | 21:4 | Y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath gafodd y rhai cyntaf. Cafodd y Lefiaid oedd yn ddisgynyddion i Aaron yr offeiriad un deg tair o drefi o diriogaeth llwythau Jwda, Simeon a Benjamin. | |
Josh | WelBeibl | 21:5 | A dyma'r gweddill o ddisgynyddion Cohath yn cael deg tref o diriogaeth llwythau Effraim, Dan a hanner llwyth Manasse. | |
Josh | WelBeibl | 21:6 | Cafodd disgynyddion Gershon un deg tair o drefi o diriogaeth llwythau Issachar, Asher, Nafftali, a hanner arall llwyth Manasse yn Bashan. | |
Josh | WelBeibl | 21:7 | Cafodd y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Merari un deg dwy o drefi o diriogaeth Reuben, Gad a Sabulon. | |
Josh | WelBeibl | 21:8 | Dyma'r trefi, gyda'u tir pori, wnaeth pobl Israel eu rhoi i lwyth Lefi, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses: | |
Josh | WelBeibl | 21:10 | y trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd Cohath, oedd yn ddisgynyddion i Aaron yr offeiriad – nhw gafodd y rhai cyntaf: | |
Josh | WelBeibl | 21:12 | Ond roedd y tir agored a'r pentrefi o'i chwmpas eisoes wedi cael eu rhoi i Caleb fab Jeffwnne. | |
Josh | WelBeibl | 21:13 | Felly i ddisgynyddion Aaron yr offeiriad dyma nhw'n rhoi Hebron (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Libna, | |
Josh | WelBeibl | 21:16 | Ain, Iwtta, a Beth-shemesh, a'r tir pori o gwmpas pob un. Naw o drefi wedi'u cymryd o diriogaeth y ddau lwyth yma. | |
Josh | WelBeibl | 21:20 | Cafodd gweddill y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath (o lwyth Lefi) y trefi canlynol: O diriogaeth llwyth Effraim dyma nhw'n rhoi | |
Josh | WelBeibl | 21:21 | Sichem, ym mryniau Effraim (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Geser, | |
Josh | WelBeibl | 21:25 | O diriogaeth hanner llwyth Manasse dyma nhw'n rhoi Taanach a Jibleam, a'r tir pori o'u cwmpas nhw. Dwy dref i gyd. | |
Josh | WelBeibl | 21:26 | Felly cafodd y deg tref yma eu rhoi i weddill y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath. | |
Josh | WelBeibl | 21:27 | Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd disgynyddion Gershon, o lwyth Lefi: O hanner llwyth Manasse dyma nhw'n rhoi Golan yn Bashan (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall) a Beeshtera, a'r tir pori o'u cwmpas nhw. Dwy dref i gyd. | |
Josh | WelBeibl | 21:32 | O diriogaeth llwyth Nafftali: Cedesh yn Galilea (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Chamath-dor, a Cartan, a'r tir pori o gwmpas pob un. Tair o drefi i gyd. | |
Josh | WelBeibl | 21:34 | Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd gweddill llwyth Lefi, sef disgynyddion Merari: O diriogaeth llwyth Sabulon: Iocneam, Carta, | |
Josh | WelBeibl | 21:38 | O diriogaeth llwyth Gad: Ramoth yn Gilead (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Machanaîm, | |
Josh | WelBeibl | 21:40 | Felly cafodd yr un deg dwy tref yma eu rhoi i weddill llwyth Lefi, sef disgynyddion Merari. | |
Josh | WelBeibl | 21:41 | Cafodd pedwar deg wyth o drefi i gyd, gyda'u tir pori, eu rhoi i lwyth Lefi, o fewn tiroedd pobl Israel. | |
Josh | WelBeibl | 21:43 | Felly dyma'r ARGLWYDD yn rhoi i bobl Israel yr holl dir roedd wedi'i addo i'w hynafiaid. Dyma nhw'n ei goncro ac yn setlo i lawr i fyw arno. | |
Josh | WelBeibl | 21:44 | Rhoddodd yr ARGLWYDD heddwch iddyn nhw fel roedd e wedi addo ar lw i'w hynafiaid. Doedd neb wedi gallu eu rhwystro. Roedd yr ARGLWYDD wedi'u helpu i goncro eu gelynion i gyd. | |