Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
MARK
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 1
Mark WelBeibl 1:1  Mae'r newyddion da am Iesu y Meseia, Mab Duw yn dechrau fel hyn:
Mark WelBeibl 1:2  Mae'n dweud yn llyfr y proffwyd Eseia: “Edrych – dw i'n anfon fy negesydd o dy flaen di, i baratoi'r ffordd i ti” –
Mark WelBeibl 1:3  “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i'r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau'n syth iddo!’”
Mark WelBeibl 1:4  Dyna beth wnaeth Ioan – roedd yn bedyddio pobl yn yr anialwch ac yn cyhoeddi fod hyn yn arwydd eu bod yn troi cefn ar eu pechodau ac yn derbyn maddeuant gan Dduw.
Mark WelBeibl 1:5  Roedd pobl cefn gwlad Jwdea a dinas Jerwsalem yn heidio allan ato. Pan oedden nhw'n cyfaddef eu pechodau roedd yn eu bedyddio nhw yn afon Iorddonen.
Mark WelBeibl 1:6  Roedd Ioan yn gwisgo dillad o flew camel gyda belt lledr am ei ganol, ac roedd yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt.
Mark WelBeibl 1:7  Dyma oedd ei neges: “Mae un llawer mwy grymus na fi yn dod ar fy ôl i – fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas yn plygu i lawr i ddatod carrai ei sandalau.
Mark WelBeibl 1:8  Dw i'n defnyddio dŵr i'ch bedyddio chi, ond bydd hwn yn eich bedyddio chi â'r Ysbryd Glân.”
Mark WelBeibl 1:9  Tua'r adeg yna daeth Iesu o Nasareth, Galilea i gael ei fedyddio gan Ioan yn yr Iorddonen.
Mark WelBeibl 1:10  Yr eiliad y daeth Iesu allan o'r dŵr, gwelodd yr awyr yn rhwygo'n agored a'r Ysbryd Glân yn disgyn arno fel colomen.
Mark WelBeibl 1:11  A dyma lais o'r nefoedd yn dweud: “Ti ydy fy Mab annwyl i; rwyt ti wedi fy mhlesio i'n llwyr.”
Mark WelBeibl 1:12  Yn syth wedyn dyma'r Ysbryd yn gyrru Iesu allan i'r anialwch.
Mark WelBeibl 1:13  Arhosodd yno am bedwar deg diwrnod, yn cael ei demtio gan Satan. Roedd anifeiliaid gwyllt o'i gwmpas, ond roedd yno angylion yn gofalu amdano.
Mark WelBeibl 1:14  Ar ôl i Ioan gael ei roi yn y carchar aeth Iesu i Galilea a chyhoeddi newyddion da Duw.
Mark WelBeibl 1:15  “Mae'n amser!” meddai. “Mae'r foment wedi dod! Mae Duw yn dod i deyrnasu! Trowch gefn ar bechod a chredu'r newyddion da!”
Mark WelBeibl 1:16  Pan oedd Iesu'n cerdded wrth Lyn Galilea, gwelodd ddau frawd, Simon ac Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi'n taflu rhwyd i'r llyn.
Mark WelBeibl 1:17  “Dewch,” meddai Iesu, “dilynwch fi, a gwna i chi'n bysgotwyr sy'n dal pobl yn lle pysgod.”
Mark WelBeibl 1:18  Heb oedi dyma'r ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl.
Mark WelBeibl 1:19  Ychydig yn nes ymlaen gwelodd Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw wrthi'n trwsio eu rhwydi yn eu cwch.
Mark WelBeibl 1:20  Dyma Iesu'n eu galw nhw hefyd, a dyma nhw'n gadael eu tad Sebedeus gyda'r gweision yn y cwch a dechrau dilyn Iesu.
Mark WelBeibl 1:21  Wedyn dyma nhw'n mynd i Capernaum. Ar y dydd Saboth (pan oedd yr Iddewon yn addoli Duw), aeth Iesu i'r synagog a dechrau dysgu'r bobl.
Mark WelBeibl 1:22  Roedd pawb yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu. Roedd yn wahanol i'r arbenigwyr yn y Gyfraith – roedd ganddo awdurdod oedd yn gwneud i bobl wrando arno.
Mark WelBeibl 1:23  Yna'n sydyn dyma ryw ddyn oedd yn y synagog yn rhoi sgrech uchel. (Roedd y dyn wedi'i feddiannu gan ysbryd drwg.)
Mark WelBeibl 1:24  “Gad di lonydd i ni, Iesu o Nasareth. Rwyt ti yma i'n dinistrio ni. Dw i'n gwybod pwy wyt ti – Un Sanctaidd Duw!”
Mark WelBeibl 1:25  “Bydd ddistaw!” meddai Iesu'n ddig. “Tyrd allan ohono!”
Mark WelBeibl 1:26  Dyma'r ysbryd drwg yn gwneud i'r dyn ysgwyd yn ffyrnig, yna daeth allan ohono gyda sgrech uchel.
Mark WelBeibl 1:27  Roedd pawb wedi cael sioc, ac yn gofyn i'w gilydd, “Beth sy'n mynd ymlaen? Mae'r hyn mae'n ei ddysgu yn newydd – mae ganddo'r fath awdurdod! Mae hyd yn oed ysbrydion drwg yn gorfod ufuddhau iddo.”
Mark WelBeibl 1:28  Roedd y sôn amdano yn lledu fel tân gwyllt drwy holl ardal Galilea.
Mark WelBeibl 1:29  Yn syth ar ôl gadael y synagog, dyma nhw'n mynd i gartref Simon ac Andreas, gyda Iago ac Ioan.
Mark WelBeibl 1:30  Yno roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn ei gwely yn dioddef o wres uchel. Dyma nhw'n dweud wrth Iesu,
Mark WelBeibl 1:31  ac aeth e ati a gafael yn ei llaw, a'i chodi ar ei thraed. Diflannodd y tymheredd oedd ganddi, a dyma hi'n codi a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw.
Mark WelBeibl 1:32  Wrth i'r haul fachlud y noson honno dechreuodd pobl ddod at Iesu gyda rhai oedd yn sâl neu wedi'u meddiannu gan gythreuliaid.
Mark WelBeibl 1:34  Dyma Iesu'n iacháu nifer fawr o bobl oedd yn dioddef o wahanol afiechydon. Bwriodd gythreuliaid allan o lawer o bobl hefyd. Roedd y cythreuliaid yn gwybod yn iawn pwy oedd Iesu, ond roedd yn gwrthod gadael iddyn nhw ddweud gair.
Mark WelBeibl 1:35  Y bore wedyn cododd Iesu'n gynnar iawn. Roedd hi'n dal yn dywyll pan adawodd y tŷ, ac aeth i le unig i weddïo.
Mark WelBeibl 1:37  ac ar ôl dod o hyd iddo dyma nhw'n dweud yn frwd: “Mae pawb yn edrych amdanat ti!”
Mark WelBeibl 1:38  Atebodd Iesu, “Gadewch i ni fynd yn ein blaenau i'r pentrefi nesa, i mi gael cyhoeddi'r newyddion da yno hefyd. Dyna pam dw i yma.”
Mark WelBeibl 1:39  Felly teithiodd o gwmpas Galilea, yn pregethu yn y synagogau a bwrw cythreuliaid allan o bobl.
Mark WelBeibl 1:40  Dyma ddyn oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf yn dod ato ac yn pledio ar ei liniau o'i flaen, “Gelli di fy ngwneud i'n iach os wyt ti eisiau.”
Mark WelBeibl 1:41  Yn llawn teimlad, dyma Iesu yn estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân!”
Mark WelBeibl 1:42  Dyma'r gwahanglwyf yn diflannu y foment honno. Cafodd y dyn ei iacháu.
Mark WelBeibl 1:43  Dyma Iesu'n rhybuddio'r dyn yn llym cyn gadael iddo fynd:
Mark WelBeibl 1:44  “Gwna'n siŵr dy fod ti ddim yn dweud wrth unrhyw un beth sydd wedi digwydd. Dos i ddangos dy hun i'r offeiriad a chyflwyno beth ddwedodd Moses y dylet ei gyflwyno, yn dystiolaeth i'r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.”
Mark WelBeibl 1:45  Ond dyma'r dyn yn dechrau mynd o gwmpas yn dweud wrth bawb beth oedd wedi digwydd. O ganlyniad, doedd Iesu ddim yn gallu mynd a dod yn agored mewn unrhyw dref. Roedd yn aros allan mewn lleoedd unig. Ond roedd pobl yn dal i ddod ato o bob cyfeiriad!