Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
NAHUM
Up
1 2 3
Chapter 1
Nahu WelBeibl 1:1  Neges am ddinas Ninefe: Cofnod o weledigaeth Nahum o Elcosh.
Nahu WelBeibl 1:2  Mae'r ARGLWYDD yn Dduw eiddigeddus sy'n dial; Mae'r ARGLWYDD yn dial, ac mae ei ddicter yn ffyrnig. Mae'r ARGLWYDD yn dial ar ei elynion, ac yn wyllt gyda'i wrthwynebwyr.
Nahu WelBeibl 1:3  Mae'r ARGLWYDD yn amyneddgar ac yn gryf – ond dydy e ddim yn gadael i'r euog osgoi'r gosb. Mae'n martsio yn y corwynt a'r storm, ac mae'r cymylau fel llwch dan ei draed.
Nahu WelBeibl 1:4  Mae'n gweiddi ar y môr a'i sychu, ac yn sychu'r afonydd i gyd. Mae porfa Bashan a Carmel yn gwywo, ac mae blodau Libanus yn gwywo.
Nahu WelBeibl 1:5  Mae'r mynyddoedd yn crynu a'r bryniau'n toddi o'i flaen. Mae'r tir yn troi'n ddiffeithwch o'i flaen, y byd, a phopeth sy'n byw ynddo.
Nahu WelBeibl 1:6  Pwy all oroesi o flaen ei ddicter? Pwy all wrthsefyll ei ffyrnigrwydd? Mae'n tywallt ei lid fel tân, ac mae'r creigiau'n cael eu dryllio ganddo.
Nahu WelBeibl 1:7  Mae'r ARGLWYDD yn dda, ac yn gaer ddiogel mewn argyfwng; Mae'n gofalu am y rhai sy'n troi ato am help.
Nahu WelBeibl 1:8  Ond mae'n gyrru ei elynion i'r tywyllwch; fel llifogydd sy'n ysgubo popeth ymaith, bydd yn rhoi diwedd ar Ninefe'n llwyr.
Nahu WelBeibl 1:9  Unrhyw gynlluniau sydd gen ti yn ei erbyn, bydd yr ARGLWYDD yn eu dinistrio'n llwyr: fydd ei elyn ddim yn codi yn ei erbyn yr ail waith!
Nahu WelBeibl 1:10  Byddan nhw fel dynion wedi meddwi'n gaib; Byddan nhw'n cael eu llosgi fel drysni o ddrain, neu fonion gwellt wedi sychu'n llwyr.
Nahu WelBeibl 1:11  Ohonot ti, Ninefe, y daeth un oedd yn cynllwynio drwg yn erbyn yr ARGLWYDD – strategydd drygioni!
Nahu WelBeibl 1:12  Ond dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Er eu bod nhw'n gryf ac yn niferus, byddan nhw'n cael eu torri i lawr, ac yn diflannu. Er fy mod i wedi dy gosbi di, Jwda, fydda i ddim yn dy gosbi di eto;
Nahu WelBeibl 1:13  dw i'n mynd i dorri'r iau roddodd e ar dy war a dryllio'r rhaffau sy'n dy rwymo.”
Nahu WelBeibl 1:14  Mae'r ARGLWYDD wedi datgan am Ninefe, “Fydd gen ti ddim disgynyddion bellach. Dw i'n mynd i gael gwared â'r eilunod a'r delwau metel o demlau dy dduwiau. Bydda i'n paratoi bedd i ti fydd yn dangos mor ddibwys oeddet ti.”
Nahu WelBeibl 1:15  Edrychwch! Mae negesydd yn dod dros y mynyddoedd yn cyhoeddi heddwch! “Dathla dy wyliau crefyddol, O Jwda, a chadw dy addewidion! Fydd y rhai drwg byth yn dy orchfygu eto; byddan nhw'n cael eu dinistrio'n llwyr.”
Chapter 2
Nahu WelBeibl 2:1  Ninefe, mae'r ‛chwalwr‛ yn dod i ymosod! “Gosod filwyr i amddiffyn dy waliau!” “Gwylia'r ffordd! Gwna dy hun yn barod! Casgla dy rym milwrol!”
Nahu WelBeibl 2:2  (Mae'r ARGLWYDD yn adfer anrhydedd ei bobl – gwinwydden Jacob, ac Israel hefyd. Roedd fandaliaid wedi dod a'i dinistrio, a difetha ei changhennau.)
Nahu WelBeibl 2:3  Mae tarianau ei filwyr yn goch, arwyr sy'n gwisgo ysgarlad; Mae'r cerbydau dur fel fflamau o dân yn barod i ymosod, a'r gwaywffyn yn cael eu chwifio.
Nahu WelBeibl 2:4  Mae'r cerbydau'n rhuthro'n wyllt drwy'r strydoedd, ac yn rasio yn ôl ac ymlaen drwy'r sgwâr. Maen nhw'n fflachio fel ffaglau tân, ac yn gwibio fel mellt.
Nahu WelBeibl 2:5  Mae'n galw'i swyddogion i ymosod; maen nhw'n baglu wrth wthio yn eu blaenau, yn rhuthro, hyrddio at y wal, a chodi sgrîn amddiffyn i gysgodi dani.
Nahu WelBeibl 2:6  Mae'r llifddorau'n agor a'r palas ar fin syrthio.
Nahu WelBeibl 2:7  Y frenhines yn cael ei stripio a'i chymryd i'r gaethglud, a'i morynion yn cŵan fel colomennod, a galaru gan guro eu bronnau.
Nahu WelBeibl 2:8  Mae Ninefe fel argae wedi torri – mae pawb yn dianc ohoni! “Stopiwch! Stopiwch!” – ond does neb yn troi yn ôl.
Nahu WelBeibl 2:9  “Cymerwch yr arian! Cymerwch yr aur!” Mae trysorau Ninefe'n ddiddiwedd; mae pob math o bethau gwerthfawr ynddi!
Nahu WelBeibl 2:10  Distryw, difrod, a dinistr! Calonnau'n toddi, gliniau'n crynu, lwynau gwan, wynebau gwelw!
Nahu WelBeibl 2:11  Beth sydd wedi digwydd i ffau'r llewod? Ble mae'r llewod ifanc i gael eu bwydo? Byddai'r llew a'r llewes yn cerdded yno, a'u cenawon yn saff, a neb yn eu tarfu.
Nahu WelBeibl 2:12  Ble mae'r llew oedd yn rhwygo'i ysglyfaeth – ei ladd i'w lewesau a'i roi i'w rai bach? Roedd ei ogof yn llawn ysglyfaeth a'i ffau'n llawn cnawd wedi'i ddryllio.
Nahu WelBeibl 2:13  “Dw i'n mynd i ddelio gyda ti,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. “Bydda i'n llosgi dy gerbydau'n llwyr; bydd dy ‛lewod ifanc‛ yn marw'n y frwydr. Dw i'n mynd i gael gwared â'th ysglyfaeth o'r tir, a fydd neb eto'n clywed llais dy negeswyr.”
Chapter 3
Nahu WelBeibl 3:1  Gwae ddinas y tywallt gwaed, sy'n llawn celwyddau, yn llawn trais a'r lladd byth yn stopio!
Nahu WelBeibl 3:2  Daeth sŵn clec y chwip a thwrw'r olwynion, meirch yn carlamu a cherbydau'n crynu!
Nahu WelBeibl 3:3  Marchogion yn ymosod, cleddyfau'n fflachio, gwaywffyn yn disgleirio! Pobl wedi'u lladd ym mhobman; tomenni diddiwedd o gyrff – maen nhw'n baglu dros y meirwon!
Nahu WelBeibl 3:4  A'r cwbl o achos drygioni'r butain ddeniadol oedd yn feistres swynion, yn gwerthu ei hun i'r cenhedloedd a swyno a thwyllo pobloedd.
Nahu WelBeibl 3:5  “Dw i'n mynd i ddelio gyda ti,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. “Bydda i'n gwneud i ti gywilyddio – yn codi dy sgert dros dy wyneb; bydd y cenhedloedd yn dy weld yn noeth a theyrnasoedd yn gweld dy rannau preifat!
Nahu WelBeibl 3:6  Bydda i'n taflu budreddi ar dy ben, a'th wneud yn destun sbort ac yn sioe.
Nahu WelBeibl 3:7  Fydd neb yn gallu edrych yn hir – Bydd pawb yn troi i ffwrdd a dweud, ‘Mae Ninefe'n adfeilion, a does neb yn cydymdeimlo!’ Ble wna i ddod o hyd i rywun i dy gysuro di, Ninefe?”
Nahu WelBeibl 3:8  Wyt ti'n saffach na Thebes ar lan afon Nîl? Roedd y dŵr fel môr yn glawdd o'i chwmpas, a'r afon fel rhagfur iddi.
Nahu WelBeibl 3:9  Roedd yn rheoli'r Aifft a dwyrain Affrica; roedd ei grym yn ddi-ben-draw! – mewn cynghrair â Pwt a Libia.
Nahu WelBeibl 3:10  Ond cafodd ei phobl eu caethgludo, a'i phlant bach eu curo i farwolaeth ar gornel pob stryd. Roedden nhw'n gamblo am ei phobl bwysig, ac yn rhwymo ei harweinwyr â chadwyni.
Nahu WelBeibl 3:11  Byddi dithau hefyd yn feddw ac wedi dy faeddu. Byddi dithau'n ceisio cuddio rhag y gelyn.
Nahu WelBeibl 3:12  Bydd dy gaerau i gyd fel coed ffigys gyda'i ffrwythau cynta'n aeddfed. O'u hysgwyd bydd y ffrwyth yn syrthio i gegau'r rhai sydd am eu bwyta!
Nahu WelBeibl 3:13  Bydd dy filwyr fel merched gwan yn dy ganol; a giatiau dy wlad ar agor i'r gelyn; bydd tân yn llosgi'r barrau sy'n eu cloi.
Nahu WelBeibl 3:14  Dos i dynnu dŵr i'w gadw ar gyfer y gwarchae! Cryfha dy gaerau! Cymer fwd a sathra'r clai, a gwneud brics yn y mowld!
Nahu WelBeibl 3:15  Bydd tân yn dy losgi di yno, a'r cleddyf yn dy dorri i lawr – cei dy ddifa fel cnwd gan lindys. Gwna dy hun mor niferus â'r lindys; gwna dy hun mor niferus â'r locust ifanc.
Nahu WelBeibl 3:16  Roedd gen ti fwy o fasnachwyr nag sydd o sêr yn yr awyr, ond maen nhw fel lindys yn bwrw'i groen a hedfan i ffwrdd.
Nahu WelBeibl 3:17  Roedd dy warchodwyr a'th weision sifil fel haid o locustiaid yn eistedd ar waliau ar ddiwrnod oer; ond pan mae'r haul yn codi maen nhw'n hedfan i ffwrdd, a does neb yn gwybod i ble.
Nahu WelBeibl 3:18  Mae dy fugeiliaid yn cysgu, frenin Asyria! Mae dy arweinwyr yn pendwmpian! Mae dy bobl fel defaid ar wasgar dros y bryniau, a does neb i'w casglu.
Nahu WelBeibl 3:19  Does dim gwella ar dy glwyf – mae dy anaf yn farwol. Bydd pawb fydd yn clywed y newyddion amdanat yn dathlu a churo dwylo. Oes rhywun wnaeth ddianc rhag dy greulondeb diddiwedd?