Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
NUMBERS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 28
Numb WelBeibl 28:2  “Rho'r gorchymyn yma i bobl Israel: ‘Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich offrymau i mi ar yr adegau iawn. Mae'r offrymau yma sy'n cael eu llosgi ar yr allor fel bwyd sy'n arogli'n hyfryd i mi.’
Numb WelBeibl 28:3  Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma'r offrwm sydd i gael ei losgi i'r ARGLWYDD: Dau oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw, i'w cyflwyno'n rheolaidd fel offrwm i'w losgi'n llwyr.
Numb WelBeibl 28:4  Rhaid i'r oen cyntaf gael ei gyflwyno yn y bore, a'r llall pan mae'n dechrau nosi.
Numb WelBeibl 28:5  Mae pob oen i'w gyflwyno gyda cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gyda litr o olew olewydd.
Numb WelBeibl 28:6  Mae'r offrwm rheolaidd yma i gael ei losgi'n llwyr. Cafodd ei sefydlu ar Fynydd Sinai, yn offrwm fyddai'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Numb WelBeibl 28:7  Ac mae offrwm o ddiod i fynd gydag e – litr am bob oen. Mae'r cwrw haidd yma i gael ei dywallt yn offrwm i'r ARGLWYDD yn y cysegr.
Numb WelBeibl 28:8  “‘Yna, mae'r ail oen i gael ei offrymu pan mae'n dechrau nosi. Mae'r un offrwm o rawn ac offrwm o ddiod i fynd gydag e. Mae hwn eto i gael ei losgi'n llwyr, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Numb WelBeibl 28:9  “‘Yna ar y Saboth: Dau oen blwydd oed arall heb ddim byd o'i le arnyn nhw, a dau gilogram o'r blawd gwenith gorau yn offrwm o rawn, wedi'i gymysgu gydag olew olewydd, a'r offrwm o ddiod sydd i fynd gydag e hefyd.
Numb WelBeibl 28:10  Mae'r offrwm yma i gael ei losgi bob Saboth, yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sydd i gael ei losgi, a'r offrwm o ddiod sy'n mynd gyda hwnnw.
Numb WelBeibl 28:11  “‘Ar ddiwrnod cyntaf pob mis, rhaid rhoi'r canlynol yn offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw.
Numb WelBeibl 28:12  Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram gyda pob tarw, dau gilogram gyda'r hwrdd,
Numb WelBeibl 28:13  a cilogram gyda pob un o'r ŵyn. Mae pob un yn offrwm sy'n cael ei losgi'n llwyr, ac yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Numb WelBeibl 28:14  Ac yn offrwm o ddiod gyda nhw: dau litr o win gyda pob tarw, litr a chwarter gyda'r hwrdd, a litr gyda pob un o'r ŵyn. “‘Dyma'r offrwm sydd i'w losgi'n rheolaidd bob mis drwy'r flwyddyn.
Numb WelBeibl 28:15  Wedyn rhaid i un bwch gafr gael ei gyflwyno i'r ARGLWYDD yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi, a'r offrwm o ddiod sy'n mynd gyda hwnnw.
Numb WelBeibl 28:16  “‘Mae Pasg yr ARGLWYDD i gael ei ddathlu ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf.
Numb WelBeibl 28:17  Yna mae Gŵyl arall yn dechrau ar y pymthegfed o'r mis. Dim ond bara sydd heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta.
Numb WelBeibl 28:18  Ar y diwrnod cyntaf, rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.
Numb WelBeibl 28:19  Rhaid i chi gyflwyno rhodd i'r ARGLWYDD bob dydd, sef offrwm i'w losgi'n llwyr – dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed. Gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le arnyn nhw.
Numb WelBeibl 28:20  Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd,
Numb WelBeibl 28:22  Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi a Duw.
Numb WelBeibl 28:23  Mae'r rhain i gyd yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi'n llwyr bob bore.
Numb WelBeibl 28:24  Maen nhw i gael eu hoffrymu bob dydd am saith diwrnod, yn fwyd i'w losgi i'r ARGLWYDD, ac sy'n arogli'n hyfryd iddo. Mae'r rhain yn ychwanegol at yr offrymau sy'n cael eu llosgi'n rheolaidd, a'r offrymau o ddiod sy'n mynd gyda nhw.
Numb WelBeibl 28:25  Yna ar y seithfed diwrnod rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli eto. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.
Numb WelBeibl 28:26  “‘Ar ddiwrnod cynnyrch cyntaf y cynhaeaf, pan fyddwch yn dod â'r offrwm o rawn newydd i'r ARGLWYDD yn ystod Gŵyl y Cynhaeaf, rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.
Numb WelBeibl 28:27  Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r ARGLWYDD, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd iddo: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed.
Numb WelBeibl 28:28  Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd,
Numb WelBeibl 28:30  Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi a Duw.
Numb WelBeibl 28:31  Mae'r rhain i gyd, gyda'u hoffrymau o ddiod, yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi'n llwyr, a'r offrwm o rawn sy'n mynd gyda hwnnw. A gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le ar yr anifeiliaid sy'n cael eu hoffrymu.