NUMBERS
Chapter 29
Numb | WelBeibl | 29:1 | “‘Ar ddiwrnod cyntaf y seithfed mis, rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. Dyma'r diwrnod pan fyddwch chi'n canu'r utgyrn. | |
Numb | WelBeibl | 29:2 | Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r ARGLWYDD, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd iddo: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed sydd â dim byd o'i le arnyn nhw. | |
Numb | WelBeibl | 29:3 | Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd, | |
Numb | WelBeibl | 29:5 | Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi a Duw. | |
Numb | WelBeibl | 29:6 | Mae'r rhain yn ychwanegol at yr offrwm sy'n cael ei losgi bob mis a'r offrwm dyddiol, gyda'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda nhw. Mae'r offrymau yma, sydd wedi'u trefnu i gyd, yn cael eu llosgi i'r ARGLWYDD, ac yn arogli'n hyfryd iddo. | |
Numb | WelBeibl | 29:7 | “‘Ar y degfed diwrnod o'r seithfed mis, rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Rhaid i chi beidio bwyta, i ddangos eich bod chi'n sori am eich pechod. A pheidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. | |
Numb | WelBeibl | 29:8 | Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r ARGLWYDD, yn offrwm fydd yn arogli'n hyfryd iddo: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed sydd â dim byd o'i le arnyn nhw. | |
Numb | WelBeibl | 29:9 | Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd, | |
Numb | WelBeibl | 29:11 | Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm puro i wneud pethau'n iawn gyda Duw, a'r offrwm dyddiol sy'n cael ei losgi gyda'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. | |
Numb | WelBeibl | 29:12 | “‘Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis, dych chi i ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. Rhaid i chi gynnal Gŵyl i'r ARGLWYDD am saith diwrnod. | |
Numb | WelBeibl | 29:13 | “‘Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r ARGLWYDD, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd iddo: un deg tri tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed. Gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le arnyn nhw. | |
Numb | WelBeibl | 29:14 | Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd, | |
Numb | WelBeibl | 29:16 | Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi, a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. | |
Numb | WelBeibl | 29:17 | “‘Yna, ar yr ail ddiwrnod: un deg dau darw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. | |
Numb | WelBeibl | 29:18 | A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw – y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn. | |
Numb | WelBeibl | 29:19 | Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi, a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. | |
Numb | WelBeibl | 29:20 | “‘Ar y trydydd diwrnod: un deg un tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. | |
Numb | WelBeibl | 29:21 | A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw – y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn. | |
Numb | WelBeibl | 29:22 | Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi, a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. | |
Numb | WelBeibl | 29:23 | “‘Ar y pedwerydd diwrnod: deg tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. | |
Numb | WelBeibl | 29:24 | A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw – y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn. | |
Numb | WelBeibl | 29:25 | Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi, a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. | |
Numb | WelBeibl | 29:26 | “‘Ar y pumed diwrnod: naw tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. | |
Numb | WelBeibl | 29:27 | A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw – y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn. | |
Numb | WelBeibl | 29:28 | Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi, a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. | |
Numb | WelBeibl | 29:29 | “‘Ar y chweched diwrnod: wyth tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. | |
Numb | WelBeibl | 29:30 | A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw – y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn. | |
Numb | WelBeibl | 29:31 | Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi, a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. | |
Numb | WelBeibl | 29:32 | “‘Ar y seithfed diwrnod: saith tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. | |
Numb | WelBeibl | 29:33 | A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw – y teirw, yr hyrddod a'r ŵyn. | |
Numb | WelBeibl | 29:34 | Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. | |
Numb | WelBeibl | 29:35 | “‘Ar yr wythfed diwrnod rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. | |
Numb | WelBeibl | 29:36 | Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r ARGLWYDD, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd iddo: un tarw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed. Gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le arnyn nhw. | |
Numb | WelBeibl | 29:37 | A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw – y tarw, yr hwrdd a'r ŵyn. | |
Numb | WelBeibl | 29:38 | Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi, a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw. | |
Numb | WelBeibl | 29:39 | “‘Mae'r offrymau yma i gyd i'w cyflwyno i'r ARGLWYDD adeg y Gwyliau blynyddol. Mae'r rhain yn ychwanegol at yr offrymau eraill i gyd – offrymau i wneud addewid ac offrymau gwirfoddol, yr offrymau i'w llosgi'n llwyr, a'r offrymau o rawn, yr offrymau o ddiod, a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.’” | |