GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 2
Gene | WelBeibl | 2:3 | Bendithiodd Duw y seithfed diwrnod a'i wneud yn ddiwrnod arbennig, am mai dyna'r diwrnod roedd e wedi gorffwys ar ôl gorffen y gwaith o greu. | |
Gene | WelBeibl | 2:5 | doedd dim planhigion gwyllt na llysiau yn tyfu ar y tir. Doedd Duw ddim eto wedi gwneud iddi lawio, a doedd neb chwaith i weithio ar y tir. | |
Gene | WelBeibl | 2:7 | Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn siapio dyn o'r pridd. Wedyn chwythodd i'w ffroenau yr anadl sy'n rhoi bywyd, a daeth y dyn yn berson byw. | |
Gene | WelBeibl | 2:8 | Yna dyma'r ARGLWYDD Dduw yn plannu gardd tua'r dwyrain, yn Eden, a rhoi'r dyn roedd wedi'i siapio yno. | |
Gene | WelBeibl | 2:9 | Wedyn gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i goed o bob math dyfu o'r tir – coed hardd gyda ffrwythau arnyn nhw oedd yn dda i'w bwyta. Yng nghanol yr ardd roedd y goeden sy'n rhoi bywyd a'r goeden sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. | |
Gene | WelBeibl | 2:10 | Roedd afon yn tarddu yn Eden ac yn dyfrio'r ardd. Wedyn roedd yn rhannu'n bedair cangen. | |
Gene | WelBeibl | 2:14 | Tigris ydy enw'r drydedd afon. Mae hi'n llifo i'r dwyrain o ddinas Ashŵr. Ac Ewffrates ydy enw'r bedwaredd afon. | |
Gene | WelBeibl | 2:15 | Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn cymryd y dyn a'i osod yn yr ardd yn Eden, i'w thrin hi a gofalu amdani. | |
Gene | WelBeibl | 2:17 | ond paid bwyta ffrwyth y goeden sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. Pan wnei di hynny byddi'n siŵr o farw.” | |
Gene | WelBeibl | 2:18 | Dwedodd yr ARGLWYDD Dduw wedyn, “Dydy e ddim yn beth da i'r dyn fod ar ei ben ei hun. Dw i'n mynd i wneud cymar iddo i'w gynnal.” | |
Gene | WelBeibl | 2:19 | A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn siapio pob math o anifeiliaid ac adar o'r pridd, ac yn gwneud iddyn nhw ddod at y dyn i weld beth fyddai'n eu galw nhw. Y dyn oedd yn rhoi enw i bob un. | |
Gene | WelBeibl | 2:20 | Rhoddodd enwau i'r anifeiliaid, i'r adar, ac i'r bywyd gwyllt i gyd, ond doedd run ohonyn nhw yn gwneud cymar iddo i'w gynnal. | |
Gene | WelBeibl | 2:21 | Felly dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i'r dyn gysgu'n drwm. Cymerodd ddarn o ochr y dyn, a rhoi cnawd yn ei le. | |
Gene | WelBeibl | 2:22 | Wedyn dyma'r ARGLWYDD Dduw yn ffurfio dynes allan o'r darn oedd wedi'i gymryd o'r dyn, a dod â hi at y dyn. | |
Gene | WelBeibl | 2:23 | A dyma'r dyn yn dweud, “O'r diwedd! Un sydd yr un fath â fi! Asgwrn o'm hesgyrn, a chnawd o'm cnawd. ‛Dynes‛ fydd yr enw arni, am ei bod wedi'i chymryd allan o ddyn.” | |
Gene | WelBeibl | 2:24 | Dyna pam mae dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn cael ei uno â'i wraig. Byddan nhw'n dod yn uned deuluol newydd. | |