I KINGS
Chapter 8
I Ki | WelBeibl | 8:1 | Dyma Solomon yn galw arweinwyr Israel (pennaeth pob llwyth a phob teulu) ato i Jerwsalem. Roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD i gael ei symud o Ddinas Dafydd (sef Seion) i'w chartref newydd yn y deml. | |
I Ki | WelBeibl | 8:2 | Roedd pobl Israel i gyd wedi dod at y brenin adeg Gŵyl y Pebyll ym mis Ethanim (sef y seithfed mis). | |
I Ki | WelBeibl | 8:3 | Wedi i'r arweinwyr i gyd gyrraedd, dyma'r seremoni yn dechrau. Dyma'r offeiriaid yn codi'r Arch. | |
I Ki | WelBeibl | 8:4 | Yna dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cario Arch Duw, pabell presenoldeb Duw a'r holl gelfi cysegredig oedd yn y babell. | |
I Ki | WelBeibl | 8:5 | Roedd y Brenin Solomon, a holl bobl Israel oedd gydag e, yn mynd o flaen yr Arch ac yn aberthu defaid a gwartheg i Dduw. Cafodd cymaint o anifeiliaid eu haberthu roedd hi'n amhosibl eu cyfri i gyd! | |
I Ki | WelBeibl | 8:6 | Dyma'r offeiriaid yn mynd ag Arch Ymrwymiad Duw i mewn i'r deml a'i gosod yn ei lle yn y gell fewnol, sef y Lle Mwyaf Sanctaidd, o dan adenydd y cerwbiaid. | |
I Ki | WelBeibl | 8:7 | Roedd adenydd y cerwbiaid wedi'u lledu dros ble roedd yr Arch yn eistedd. Roedd eu hadenydd yn cysgodi'r Arch a'i pholion. | |
I Ki | WelBeibl | 8:8 | Ond roedd y polion mor hir, roedd hi'n bosibl gweld eu pennau nhw o'r ystafell oedd o flaen y Gell Gysegredig Fewnol; ond doedden nhw ddim i'w gweld o'r tu allan. Maen nhw yno hyd heddiw. | |
I Ki | WelBeibl | 8:9 | Does yna ddim byd yn yr Arch ond y ddwy lechen garreg roedd Moses wedi'u rhoi ynddi yn Sinai, sef llechi'r ymrwymiad roedd yr ARGLWYDD wedi'i wneud gyda phobl Israel pan ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft. | |
I Ki | WelBeibl | 8:10 | Wrth i'r offeiriaid ddod allan o'r Lle Sanctaidd dyma gwmwl yn llenwi Teml yr ARGLWYDD. | |
I Ki | WelBeibl | 8:11 | Roedd yr offeiriaid yn methu gwneud eu gwaith oherwydd y cwmwl. Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi ei Deml. | |
I Ki | WelBeibl | 8:12 | Yna dyma Solomon yn dweud: “Mae'r ARGLWYDD yn dweud ei fod yn byw mewn cwmwl tywyll. | |
I Ki | WelBeibl | 8:14 | Yna dyma'r brenin yn troi i wynebu'r gynulleidfa a bendithio holl bobl Israel oedd yn sefyll yno: | |
I Ki | WelBeibl | 8:15 | “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel! Mae wedi gwneud y cwbl roedd wedi'i addo i Dafydd fy nhad. Roedd wedi dweud: | |
I Ki | WelBeibl | 8:16 | ‘Ers i mi ddod â'm pobl Israel allan o'r Aifft, wnes i ddim dewis un ddinas arbennig o blith llwythau Israel i adeiladu teml i fyw ynddi. Ond gwnes i ddewis Dafydd i arwain fy mhobl Israel.’ | |
I Ki | WelBeibl | 8:17 | Roedd fy nhad, Dafydd, wir eisiau adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw Israel. | |
I Ki | WelBeibl | 8:18 | Ond dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, ‘Ti eisiau adeiladu teml i mi, ac mae'r bwriad yn un da. | |
I Ki | WelBeibl | 8:20 | A bellach mae'r ARGLWYDD wedi gwneud beth roedd wedi'i addo. Dw i wedi dod yn frenin ar Israel yn lle fy nhad Dafydd, a dw i wedi adeiladu'r deml yma i anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw Israel. | |
I Ki | WelBeibl | 8:21 | Dw i wedi gwneud lle i'r Arch sy'n dal yr ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD gyda'n hynafiaid pan ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft.” | |
I Ki | WelBeibl | 8:22 | Yna o flaen pawb, dyma Solomon yn mynd i sefyll o flaen yr Allor. Cododd ei ddwylo i'r awyr, | |
I Ki | WelBeibl | 8:23 | a gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw Israel, does dim Duw tebyg i ti yn y nefoedd uchod nac i lawr yma ar y ddaear! Ti mor ffyddlon, yn cadw dy ymrwymiad i dy weision, y rhai sydd wir eisiau bod yn ufudd i ti. | |
I Ki | WelBeibl | 8:24 | Ti wedi cadw dy addewid i Dafydd fy nhad. Heddiw, yma, ti wedi gwneud beth wnest ti ei addo. | |
I Ki | WelBeibl | 8:25 | Nawr, ARGLWYDD, Duw Israel, cadw'r addewid arall wnest ti i Dafydd, fy nhad. Dyma wnest ti ddweud: ‘Bydd un o dy deulu di ar orsedd Israel am byth, dim ond i dy ddisgynyddion di fod yn ofalus eu bod yn byw yn ffyddlon i mi fel rwyt ti wedi gwneud.’ | |
I Ki | WelBeibl | 8:26 | Felly nawr, O Dduw Israel, gad i'r hyn wnest ti ei ddweud wrth fy nhad, dy was Dafydd, ddod yn wir. | |
I Ki | WelBeibl | 8:27 | Wrth gwrs, dydy Duw ddim wir yn gallu byw ar y ddaear! Dydy'r awyr i gyd a'r nefoedd uchod ddim digon mawr i dy ddal di! Felly pa obaith sydd i'r deml yma dw i wedi'i hadeiladu? | |
I Ki | WelBeibl | 8:28 | Ond plîs gwrando fy ngweddi yn gofyn am dy help di, O ARGLWYDD fy Nuw. Ateb fi, wrth i mi weddïo'n daer arnat ti heddiw. | |
I Ki | WelBeibl | 8:29 | Cadw dy lygaid ar y deml yma nos a dydd. Gwnest ti ddweud, ‘Dyma ble bydda i'n byw.’ Felly ateb weddi dy was dros y lle hwn. | |
I Ki | WelBeibl | 8:30 | Gwranda ar beth mae dy was a dy bobl Israel yn ei weddïo'n daer am y lle yma. Gwranda yn y nefoedd, lle rwyt ti'n byw. Clyw ni a maddau i ni. | |
I Ki | WelBeibl | 8:31 | Os ydy rhywun wedi cael ei gyhuddo o wneud drwg i'w gymydog ac yn mynnu ei fod yn ddieuog o flaen yr allor yn y deml yma, | |
I Ki | WelBeibl | 8:32 | yna gwrando di o'r nefoedd a gweithredu. Barna di rhyngon nhw. Cosba'r un sy'n euog, a gadael i'r dieuog fynd yn rhydd. Rho i'r ddau beth maen nhw'n ei haeddu. | |
I Ki | WelBeibl | 8:33 | Pan fydd dy bobl Israel yn cael eu concro gan y gelyn am bechu yn dy erbyn di, os byddan nhw'n troi yn ôl atat ti, yn cydnabod pwy wyt ti ac yn gweddïo am dy help di yn y deml yma, | |
I Ki | WelBeibl | 8:34 | yna gwrando di o'r nefoedd. Maddau bechod dy bobl Israel, a thyrd â nhw'n ôl i'r wlad wnest ti ei rhoi i'w hynafiaid. | |
I Ki | WelBeibl | 8:35 | Pan fydd dim glaw yn disgyn, am fod y bobl wedi pechu yn dy erbyn di. Os byddan nhw'n troi at y lle yma i weddïo arnat ti, yn cydnabod pwy wyt ti, ac yn stopio pechu am dy fod yn eu cosbi nhw | |
I Ki | WelBeibl | 8:36 | yna gwrando di o'r nefoedd. Maddau i dy bobl Israel. Dysga nhw beth ydy'r ffordd iawn i fyw, ac anfon law eto ar y tir yma rwyt ti wedi'i roi i dy bobl ei gadw. | |
I Ki | WelBeibl | 8:37 | Pan fydd y wlad yn cael ei tharo gan newyn neu bla – am fod y cnydau wedi'u difetha gan ormod o wres neu ormod o law, neu am eu bod wedi cael eu difa gan locustiaid, neu am fod gelynion wedi ymosod ar y wlad ac yn gwarchae ar ei dinasoedd. Beth bynnag fydd yr helynt neu'r broblem, | |
I Ki | WelBeibl | 8:38 | gwrando di ar bob gweddi. Gwrando pan fydd unrhyw un o dy bobl Israel yn troi at y deml yma ac yn tywallt ei faich o dy flaen di. | |
I Ki | WelBeibl | 8:39 | Gwrando yn y nefoedd lle rwyt ti'n byw, a maddau. Ti'n deall pobl i'r dim, felly rho i bob un beth mae'n ei haeddu. (Ti ydy'r unig un sy'n gwybod yn iawn beth sydd ar galon pob person byw.) | |
I Ki | WelBeibl | 8:40 | Fel yna byddan nhw'n dy barchu di tra byddan nhw'n byw yn y wlad wyt ti wedi'i rhoi i'w hynafiaid. | |
I Ki | WelBeibl | 8:42 | Byddan nhw wedi clywed am dy enw da di, a'r ffaith dy fod ti'n gallu gwneud pethau mor anhygoel. Pan ddaw pobl felly i'r deml hon i weddïo, | |
I Ki | WelBeibl | 8:43 | gwrando yn y nefoedd lle rwyt ti'n byw. Gwna beth mae'r bobl hynny'n ei ofyn gen ti. Wedyn bydd pobl drwy'r byd i gyd yn dod i dy nabod di ac yn dy barchu di, yr un fath â phobl Israel. Byddan nhw'n gwybod fod y deml yma wedi'i hadeiladu i dy anrhydeddu di. | |
I Ki | WelBeibl | 8:44 | Hefyd pan fydd dy bobl yn mynd i ryfel yn erbyn eu gelynion, ble bynnag fyddi di'n eu hanfon nhw. Os byddan nhw'n troi tuag at y ddinas rwyt ti wedi'i dewis a'r deml dw i wedi'i hadeiladu i ti, ac yn gweddïo arnat ti ARGLWYDD, | |
I Ki | WelBeibl | 8:46 | Ond pan fydd dy bobl wedi pechu yn dy erbyn di (achos does neb sydd byth yn pechu), a tithau'n wyllt gyda nhw, byddi'n gadael i'r gelyn eu dal nhw a'u cymryd yn gaeth i'w gwlad eu hunain, ble bynnag mae honno. | |
I Ki | WelBeibl | 8:47 | Yna, yn y wlad ble maen nhw'n gaeth, byddan nhw'n callio ac yn newid eu ffyrdd. Byddan nhw'n troi yn ôl atat ti ac yn pledio'n daer gan ddweud, ‘Dŷn ni wedi pechu a bod yn anffyddlon a gwneud drwg.’ | |
I Ki | WelBeibl | 8:48 | Byddan nhw'n troi yn ôl atat ti o ddifrif yng ngwlad y gelyn lle cawson nhw eu cymryd. Byddan nhw'n troi i weddïo tuag at eu gwlad a'r ddinas rwyt ti wedi'i dewis, a'r deml dw i wedi'i hadeiladu i ti. | |
I Ki | WelBeibl | 8:50 | Maddau i dy bobl yr holl bechodau a'r pethau drwg maen nhw wedi'u gwneud yn dy erbyn di. Gwna i'r rhai sydd wedi'u concro nhw eu trin nhw'n garedig. | |
I Ki | WelBeibl | 8:51 | Wedi'r cwbl, dy bobl sbesial di ydyn nhw, am mai ti ddaeth â nhw allan o'r Aifft, allan o'r ffwrnais haearn. | |
I Ki | WelBeibl | 8:52 | Gwranda ar fy ngweddi, ac ar dy bobl Israel pan maen nhw'n gofyn am help. Ateb nhw bob tro maen nhw'n galw arnat ti. | |
I Ki | WelBeibl | 8:53 | Achos rwyt ti wedi'u dewis nhw yn bobl sbesial i ti dy hun allan o holl bobl y byd. Ie, dyna ddwedaist ti drwy Moses dy was wrth i ti ddod â'n hynafiaid allan o wlad yr Aifft, o Feistr, ARGLWYDD.” | |
I Ki | WelBeibl | 8:54 | Wedi i Solomon orffen gweddïo, a gofyn y pethau yma i gyd i'r ARGLWYDD, dyma fe'n codi ar ei draed. (Roedd wedi bod ar ei liniau o flaen allor yr ARGLWYDD a'i ddwylo ar led tua'r nefoedd.) | |
I Ki | WelBeibl | 8:56 | “Bendith ar yr ARGLWYDD! Mae wedi rhoi heddwch i'w bobl Israel, fel gwnaeth e addo. Mae wedi cadw pob un o'r addewidion gwych wnaeth e drwy Moses ei was. | |
I Ki | WelBeibl | 8:57 | Dw i'n gweddïo y bydd yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni fel roedd gyda'n hynafiaid. Dw i'n gweddïo na fydd e byth yn troi ei gefn arnon ni a'n gadael ni. | |
I Ki | WelBeibl | 8:58 | Dw i'n gweddïo y bydd e'n rhoi'r awydd ynon ni i fod yn ufudd i'r holl orchmynion, rheolau a chanllawiau roddodd e i'n hynafiaid. | |
I Ki | WelBeibl | 8:59 | Dw i'n gweddïo y bydd yr ARGLWYDD bob amser yn cofio geiriau'r weddi yma, ac yn cefnogi ei was a'i bobl Israel o ddydd i ddydd fel bo'r angen. | |
I Ki | WelBeibl | 8:60 | Wedyn bydd pobl y byd i gyd yn dod i ddeall mai'r ARGLWYDD ydy'r unig Dduw go iawn – does dim duw arall. | |
I Ki | WelBeibl | 8:61 | Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n byw yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD ein Duw, yn cadw ei reolau a'i orchmynion fel dych chi'n gwneud heddiw.” | |
I Ki | WelBeibl | 8:63 | Dyma Solomon yn lladd dau ddeg dau o filoedd o wartheg a chant dau ddeg mil o ddefaid fel offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Dyna sut gwnaeth Solomon, a holl bobl Israel, gyflwyno'r deml i'r ARGLWYDD. | |
I Ki | WelBeibl | 8:64 | Y diwrnod hwnnw hefyd, dyma'r brenin yn cysegru canol yr iard o flaen teml yr ARGLWYDD. Dyna lle wnaeth e offrymu aberthau i'w llosgi'n llwyr, yr offrymau o rawn, a braster yr offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Roedd yr allor bres oedd o flaen yr ARGLWYDD yn rhy fach i ddal yr holl offrymau. | |
I Ki | WelBeibl | 8:65 | Bu Solomon, a phobl Israel i gyd yn dathlu ac yn cadw Gŵyl i'r ARGLWYDD ein Duw am bythefnos lawn. Roedd tyrfa fawr yno o bob rhan o'r wlad, o Fwlch Chamath yn y gogledd yr holl ffordd i Wadi'r Aifft yn y de. | |