MARK
Chapter 15
Mark | WelBeibl | 15:1 | Yn gynnar iawn yn y bore, dyma'r prif offeiriaid a'r arweinwyr eraill, gyda'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Sanhedrin cyfan, yn penderfynu beth i'w wneud. Dyma nhw'n rhwymo Iesu a'i drosglwyddo i Peilat. | |
Mark | WelBeibl | 15:2 | Dyma Peilat yn dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?” “Ti sy'n dweud,” atebodd Iesu. | |
Mark | WelBeibl | 15:4 | felly gofynnodd Peilat iddo eto, “Oes gen ti ddim i'w ddweud? Edrych cymaint o bethau maen nhw'n dy gyhuddo di o'u gwneud.” | |
Mark | WelBeibl | 15:6 | Adeg y Pasg roedd hi'n draddodiad i ryddhau un carcharor – un oedd y bobl yn ei ddewis. | |
Mark | WelBeibl | 15:7 | Roedd dyn o'r enw Barabbas yn y carchar – un o'r terfysgwyr oedd yn euog o lofruddiaeth adeg y gwrthryfel. | |
Mark | WelBeibl | 15:10 | (Roedd yn gwybod fod y prif offeiriaid wedi arestio Iesu am eu bod yn genfigennus ohono.) | |
Mark | WelBeibl | 15:11 | Ond dyma'r prif offeiriaid yn cyffroi'r dyrfa a'u cael i ofyn i Peilat ryddhau Barabbas yn ei le. | |
Mark | WelBeibl | 15:12 | “Felly beth dw i i'w wneud gyda'r un dych chi'n ei alw'n ‛Frenin yr Iddewon‛?” gofynnodd Peilat. | |
Mark | WelBeibl | 15:14 | “Pam?” meddai Peilat, “Beth mae wedi'i wneud o'i le?” Ond dyma nhw'n dechrau gweiddi'n uwch, “Croeshoelia fe!” | |
Mark | WelBeibl | 15:15 | Gan ei fod am blesio'r dyrfa dyma Peilat yn rhyddhau Barabbas iddyn nhw. Wedyn gorchmynnodd fod Iesu i gael ei chwipio, ac yna ei ddedfrydu i gael ei groeshoelio. | |
Mark | WelBeibl | 15:16 | Dyma'r milwyr Rhufeinig yn mynd â Iesu i'r iard yn y palas (hynny ydy, Pencadlys y llywodraethwr) a galw'r holl fintai at ei gilydd. | |
Mark | WelBeibl | 15:17 | Dyma nhw'n rhoi clogyn porffor amdano, ac yn plethu drain i wneud coron i'w rhoi ar ei ben. | |
Mark | WelBeibl | 15:19 | Roedden nhw'n ei daro ar ei ben gyda gwialen drosodd a throsodd, ac yn poeri arno. Wedyn roedden nhw'n mynd ar eu gliniau o'i flaen ac yn esgus talu teyrnged iddo. | |
Mark | WelBeibl | 15:20 | Pan oedden nhw wedi blino cael sbort, dyma nhw'n tynnu'r clogyn porffor oddi arno a'i wisgo yn ei ddillad ei hun unwaith eto. Wedyn dyma nhw'n ei arwain allan i gael ei groeshoelio. | |
Mark | WelBeibl | 15:21 | Roedd dyn o Cyrene o'r enw Simon yn digwydd mynd heibio (tad Alecsander a Rwffus) – roedd ar ei ffordd i mewn i'r ddinas. A dyma'r milwyr yn ei orfodi i gario croes Iesu. | |
Mark | WelBeibl | 15:23 | a dyma nhw'n cynnig gwin wedi'i gymysgu â chyffur iddo, ond gwrthododd ei gymryd. | |
Mark | WelBeibl | 15:24 | Ar ôl ei hoelio ar y groes dyma nhw'n gamblo i weld pwy fyddai'n cael ei ddillad. | |
Mark | WelBeibl | 15:26 | Roedd arwydd ysgrifenedig yn dweud beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn. Y geiriau ar yr arwydd oedd: BRENIN YR IDDEWON. | |
Mark | WelBeibl | 15:29 | Roedd y bobl oedd yn pasio heibio yn gwneud sbort am ei ben, ac yn hyrddio enllibion ato, “Felly! Ti sy'n mynd i ddinistrio'r deml a'i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod? | |
Mark | WelBeibl | 15:31 | Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno hefyd yn cael sbort ymhlith ei gilydd. “Roedd e'n achub pobl eraill,” medden nhw, “ond dydy e ddim yn gallu achub ei hun! | |
Mark | WelBeibl | 15:32 | Beth am i ni gael gweld y Meseia yma, Brenin Israel, yn dod i lawr oddi ar y groes. Gwnawn ni gredu wedyn!” Roedd hyd yn oed y rhai oedd wedi'u croeshoelio gydag e'n ei sarhau. | |
Mark | WelBeibl | 15:33 | O ganol dydd hyd dri o'r gloch y p'nawn aeth yn hollol dywyll drwy'r wlad i gyd. | |
Mark | WelBeibl | 15:34 | Yna am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu'n uchel, “Eloi! Eloi! L'ma shfachtâni?” sy'n golygu, “Fy Nuw, fy Nuw, pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?” | |
Mark | WelBeibl | 15:35 | Pan glywodd rhai o'r bobl oedd yn sefyll yno hyn, “Ust!” medden nhw, “Mae'n galw ar y proffwyd Elias am help.” | |
Mark | WelBeibl | 15:36 | Dyma un ohonyn nhw'n rhedeg ac yn trochi ysbwng mewn gwin sur rhad, a'i godi ar flaen ffon i'w gynnig i Iesu ei yfed. “Gadewch lonydd iddo,” meddai, “i ni gael gweld os daw Elias i'w dynnu i lawr.” | |
Mark | WelBeibl | 15:38 | A dyma'r llen oedd yn hongian yn y deml yn rhwygo yn ei hanner o'r top i'r gwaelod. | |
Mark | WelBeibl | 15:39 | Roedd capten milwrol Rhufeinig yn sefyll yno wrth y groes. Pan welodd sut buodd Iesu farw, ei eiriau oedd, “Mab Duw oedd y dyn yma, reit siŵr!” | |
Mark | WelBeibl | 15:40 | Roedd nifer o wragedd hefyd yn sefyll yn gwylio beth oedd yn digwydd o bell, gan gynnwys Mair Magdalen, Mair mam Iago bach a Joses, a hefyd Salome. | |
Mark | WelBeibl | 15:41 | Roedden nhw wedi bod yn dilyn Iesu o gwmpas Galilea gan wneud yn siŵr fod ganddo bopeth roedd ei angen. Roedden nhw, a llawer o wragedd eraill wedi dod i Jerwsalem gydag e. | |
Mark | WelBeibl | 15:43 | aeth un o aelodau blaenllaw y Sanhedrin i weld Peilat – dyn o'r enw Joseff oedd yn dod o Arimathea. Roedd Joseff yn ddyn duwiol oedd yn disgwyl am deyrnasiad Duw, a gofynnodd i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu. | |
Mark | WelBeibl | 15:44 | Roedd Peilat yn methu credu bod Iesu eisoes wedi marw, a galwodd am y capten a gofyn iddo a oedd wedi marw ers peth amser. | |
Mark | WelBeibl | 15:46 | Ar ôl prynu lliain dyma Joseff yn tynnu'r corff i lawr a'i lapio yn y lliain. Yna fe'i rhoddodd i orwedd mewn bedd oedd wedi'i naddu yn y graig. Wedyn rholiodd garreg dros geg y bedd. | |