Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ZEPHANIAH
Up
1 2 3
Toggle notes
Chapter 1
Zeph WelBeibl 1:1  Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Seffaneia. Roedd Seffaneia yn fab i Cwshi, mab Gedaleia, mab Amareia, mab Heseceia. Cafodd y neges pan oedd Joseia fab Amon yn frenin ar Jwda.
Zeph WelBeibl 1:2  “Dw i am glirio popeth yn llwyr oddi ar y ddaear,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Zeph WelBeibl 1:3  “Dw i am glirio pobl ac anifeiliaid. Dw i am glirio adar a physgod (yr holl ddelwau a'r bobl ddrwg). Dw i'n mynd i gael gwared â'r ddynoliaeth oddi ar wyneb y ddaear,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Zeph WelBeibl 1:4  “Dw i'n mynd i daro Jerwsalem a phawb sy'n byw yn Jwda. Dw i am gael gwared ag addoli Baal yn llwyr, a fydd neb yn cofio'r offeiriaid ffals ac anffyddlon.
Zeph WelBeibl 1:5  Dw i am gael gwared â'r rhai sy'n addoli'r haul a'r lleuad a'r sêr o ben y toeau, a'r rhai sy'n honni eu bod yn ffyddlon i'r ARGLWYDD tra'n tyngu llw yn enw Milcom.
Zeph WelBeibl 1:6  A dw i am gael gwared â'r rhai sydd wedi troi cefn arna i, yr ARGLWYDD, a byth yn troi ata i am help nac arweiniad.”
Zeph WelBeibl 1:7  Ust! o flaen y Meistr, yr ARGLWYDD! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos. Mae'r ARGLWYDD wedi paratoi'r aberth, ac wedi cysegru'r rhai mae'n eu gwahodd.
Zeph WelBeibl 1:8  “Ar ddiwrnod yr aberth mawr,” meddai'r ARGLWYDD, “dw i'n mynd i gosbi swyddogion a theulu'r brenin, a phawb sy'n gwisgo fel paganiaid.
Zeph WelBeibl 1:9  Y diwrnod hwnnw bydda i'n cosbi pawb sy'n neidio dros y stepen drws, ac yn llenwi palas eu meistr gyda chyfoeth wedi'i ddwyn drwy drais a gormes.”
Zeph WelBeibl 1:10  “Ar y diwrnod hwnnw hefyd,” meddai'r ARGLWYDD, “bydd sŵn gweiddi wrth Giât y Pysgod, a sgrechian o ran newydd y ddinas; bydd twrw mawr yn dod o'r bryniau.
Zeph WelBeibl 1:11  Udwch, chi sy'n oedi yn y farchnad, achos bydd y masnachwyr wedi mynd, a'r rhai sy'n trin arian wedi'u taflu allan.
Zeph WelBeibl 1:12  Bryd hynny, bydda i'n chwilio drwy Jerwsalem gyda lampau, ac yn cosbi'r rhai sy'n hunanfodlon a di-hid, sy'n meddwl, ‘Fydd yr ARGLWYDD yn gwneud dim byd – na da na drwg.’
Zeph WelBeibl 1:13  Bydd eu heiddo'n cael ei ddwyn, a'u tai yn cael eu chwalu. Maen nhw'n adeiladu tai newydd, ond gân nhw ddim byw ynddyn nhw. Maen nhw'n plannu gwinllannoedd ond gân nhw ddim yfed y gwin.”
Zeph WelBeibl 1:14  Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos; y dydd mawr – bydd yma'n fuan! Bydd sŵn chwerw i'w glywed y diwrnod hwnnw; sŵn milwyr cryf yn gweiddi crio.
Zeph WelBeibl 1:15  Bydd yn ddydd i Dduw fod yn ddig. Bydd yn ddiwrnod o helynt a gofid; yn ddiwrnod o ddifrod a dinistr. Bydd yn ddiwrnod tywyll ofnadwy; diwrnod o gymylau duon bygythiol.
Zeph WelBeibl 1:16  Bydd sŵn y corn hwrdd, y bloeddio a'r brwydro yn bygwth y trefi caerog a'r tyrau amddiffynnol.
Zeph WelBeibl 1:17  “Am bod y bobl wedi digio'r ARGLWYDD bydda i'n achosi helbul iddyn nhw! – byddan nhw ar goll fel pobl ddall. Bydd eu gwaed yn cael ei dywallt fel llwch, a'u perfeddion ar wasgar fel tail.
Zeph WelBeibl 1:18  Fydd arian ac aur ddim yn eu harbed nhw ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu. Bydd ei ddicter fel tân yn difa'r ddaear. Bydd dinistr llwyr a sydyn yn dod ar bawb drwy'r byd i gyd.”
Chapter 2
Zeph WelBeibl 2:1  Dewch, casglwch at eich gilydd, y genedl sydd heb gywilydd.
Zeph WelBeibl 2:2  Dewch cyn i'r cwbl ddod yn wir, ac i'ch cyfle olaf ddiflannu fel us – Cyn i'r ARGLWYDD wylltio'n lân gyda chi; cyn i'w ddydd barn eich dal chi!
Zeph WelBeibl 2:3  Gofynnwch i'r ARGLWYDD eich helpu, chi sy'n cael eu cam-drin yn y wlad ac sy'n ufudd i'w orchmynion. Gwnewch beth sy'n iawn. Byddwch yn ostyngedig. Falle y cewch eich cuddio mewn lle saff ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu.
Zeph WelBeibl 2:4  Bydd tref Gasa'n wag ac Ashcelon yn adfeilion. Bydd pobl Ashdod wedi'u gyrru i ffwrdd cyn canol dydd, a tref Ecron wedi'i bwrw i lawr.
Zeph WelBeibl 2:5  Gwae chi sy'n byw ar lan y môr – bobl Philistia ddaeth o Creta. Amdanat ti Canaan, wlad y Philistiaid, mae'r ARGLWYDD wedi dweud yn dy erbyn: “Bydda i'n dy ddinistrio, a fydd neb ar ôl!”
Zeph WelBeibl 2:6  Bydd yr arfordir yn dir pori – dolydd i fugeiliaid a chorlannau defaid.
Zeph WelBeibl 2:7  Bydd tir y glannau yn eiddo i'r bobl sydd ar ôl o Jwda; Nhw fydd yn pori yno ac yn cysgu'r nos yn nhai Ashcelon. Bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn dod atyn nhw, a rhoi llwyddiant iddyn nhw eto.
Zeph WelBeibl 2:8  “Dw i wedi clywed Moab yn gwawdio a phobl Ammon yn enllibio – gwawdio fy mhobl, a bygwth eu ffiniau.
Zeph WelBeibl 2:9  Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel. “Bydd Moab fel Sodom ac Ammon fel Gomorra! – yn llawn chwyn a phyllau halen, ac yn dir diffaith am byth. Bydd y rhai sydd ar ôl o'm pobl yn dwyn eu heiddo, a'r gweddill o'm gwlad yn cymryd eu tir.”
Zeph WelBeibl 2:10  Dyna fydd eu tâl am eu balchder, am wawdio a bygwth pobl yr ARGLWYDD hollbwerus.
Zeph WelBeibl 2:11  Bydd yr ARGLWYDD yn eu dychryn, a bydd holl dduwiau'r ddaear yn ddim. Yna bydd pobl pob cenedl yn addoli'r ARGLWYDD yn eu gwledydd eu hunain.
Zeph WelBeibl 2:12  A chi, bobl dwyrain Affrica, bydd fy nghleddyf yn eich lladd chi.
Zeph WelBeibl 2:13  Bydd yr ARGLWYDD yn taro'r gogledd ac yn dinistrio Asyria. Bydd dinas Ninefe yn adfeilion; yn sych fel anialwch diffaith.
Zeph WelBeibl 2:14  Bydd pob math o anifeiliaid gwyllt yn gorwedd yn ei chanol. Bydd tylluanod yn clwydo yn ei hadfeilion, ac yn hwtian yn y ffenestri. Bydd rwbel ar bob rhiniog a'r waliau'n noeth am fod yr holl waith coed wedi'i rwygo allan.
Zeph WelBeibl 2:15  Dyna ddaw o'r ddinas llawn miri oedd yn ofni neb na dim! Roedd yn meddwl, “Fi ydy'r un! – Does neb tebyg i mi!” Ond fydd dim ond adfeilion ar ôl – lle i anifeiliaid gwyllt gael byw! Bydd pawb sy'n mynd heibio yn ei gwawdio a gwneud ystumiau arni.
Chapter 3
Zeph WelBeibl 3:1  Mae ar ben ar y ddinas ystyfnig, lygredig, sy'n gormesu ei phobl!
Zeph WelBeibl 3:2  Mae'n gwrthod gwrando ar neb, na derbyn cyngor. Dydy hi ddim yn trystio'r ARGLWYDD nac yn gofyn am arweiniad ei Duw.
Zeph WelBeibl 3:3  Mae ei harweinwyr fel llewod yn rhuo yn ei chanol. Mae ei swyddogion fel bleiddiaid yn y nos yn lladd eu prae a gadael dim ar ôl erbyn y bore.
Zeph WelBeibl 3:4  Mae ei phroffwydi'n brolio ac yn twyllo. Mae ei hoffeiriaid yn llygru beth sy'n sanctaidd, ac yn torri Cyfraith Duw.
Zeph WelBeibl 3:5  Ac eto mae'r ARGLWYDD cyfiawn yn ei chanol. Dydy e'n gwneud dim sy'n annheg. Mae ei gyfiawnder i'w weld bob bore, mae mor amlwg a golau dydd. Ond does gan y rhai drwg ddim cywilydd.
Zeph WelBeibl 3:6  “Dw i wedi dinistrio gwledydd eraill a chwalu eu tyrau amddiffyn. Mae eu strydoedd yn wag heb neb yn cerdded arnyn nhw. Mae eu dinasoedd wedi'u difa. Does neb ar ôl, yr un enaid byw.
Zeph WelBeibl 3:7  Meddyliais, ‘Byddi'n fy mharchu i nawr, a derbyn y cyngor dw i'n ei roi i ti! A fydd dim rhaid i dy dai gael eu dinistrio gan y gosb rôn i wedi'i fwriadu.’ Ond na, roedden nhw'n dal ar frys i wneud popeth sydd o'i le.”
Zeph WelBeibl 3:8  Felly mae'r ARGLWYDD yn datgan, “Arhoswch chi amdana i! Mae'r diwrnod yn dod pan fydda i'n codi ac yn ymosod. Dw i'n bwriadu casglu'r cenhedloedd at ei gilydd a thywallt fy nigofaint ffyrnig arnyn nhw. Bydd fy nicter fel tân yn difa'r ddaear!”
Zeph WelBeibl 3:9  “Yna bydda i'n rhoi geiriau glân i'r holl bobloedd, iddyn nhw i gyd addoli'r ARGLWYDD. A byddan nhw i gyd yn ufudd gyda'i gilydd.
Zeph WelBeibl 3:10  O'r tu draw i afonydd pell dwyrain Affrica bydd y rhai sy'n gweddïo arna i yn dod ag anrhegion i mi.
Zeph WelBeibl 3:11  Bryd hynny, Jerwsalem, fydd neb yn codi cywilydd arnat ti am yr holl bethau ti wedi'i gwneud yn fy erbyn i. Bydda i'n cael gwared â'r rhai balch sy'n brolio. Fydd neb yn ymffrostio ar fy mynydd cysegredig i.
Zeph WelBeibl 3:12  Bydda i'n gadael y rhai tlawd gafodd eu cam-drin yn dy ganol, a byddan nhw'n trystio'r ARGLWYDD.
Zeph WelBeibl 3:13  Fydd y rhai sydd ar ôl o Israel yn gwneud dim byd drwg, yn dweud dim celwydd nac yn twyllo. Byddan nhw fel defaid yn pori'n ddiogel ac yn gorwedd heb neb i'w dychryn.”
Zeph WelBeibl 3:14  Canwch yn llawen, bobl Seion! Gwaeddwch yn uchel bobl Israel! Byddwch lawen a gorfoleddwch â'ch holl galon, bobl Jerwsalem!
Zeph WelBeibl 3:15  Mae'r ARGLWYDD wedi cymryd y gosb i ffwrdd, ac yn cael gwared â dy elynion di. Bydd Brenin Israel yn dy ganol a fydd dim rhaid i ti fod ag ofn.
Zeph WelBeibl 3:16  Yr adeg hynny byddan nhw'n dweud wrth Jerwsalem, “Paid bod ag ofn, Seion! Paid anobeithio.
Zeph WelBeibl 3:17  Mae'r ARGLWYDD dy Dduw gyda ti, fel arwr i dy achub di. Bydd e wrth ei fodd gyda ti. Bydd yn dy fwytho gyda'i gariad, ac yn dathlu a chanu'n llawen am dy fod yn ôl.”
Zeph WelBeibl 3:18  “Bydda i'n casglu'r rhai sy'n galaru am y gwyliau, y rhai hynny mae'r cywilydd wedi bod yn faich arnyn nhw.
Zeph WelBeibl 3:19  Bryd hynny bydda i'n delio gyda'r rhai wnaeth dy gam-drin. Bydda i'n achub y defaid cloff ac yn casglu'r rhai gafodd eu gyrru ar chwâl. Bydd pobl drwy'r byd yn gwybod, ac yn eu canmol yn lle codi cywilydd arnyn nhw.
Zeph WelBeibl 3:20  Bryd hynny bydda i'n dod â chi'n ôl; bydda i'n eich casglu chi at eich gilydd. Byddwch chi'n enwog drwy'r byd i gyd, pan fydda i'n gwneud i chi lwyddo eto,” —meddai'r ARGLWYDD.