ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 54
Isai | WelBeibl | 54:1 | “Cân yn llawen, ti sy'n methu cael plant, ac sydd erioed wedi geni plentyn! Bloeddia ganu'n llawen, ti sydd heb brofi poenau wrth eni plentyn! Bydd gan y wraig sydd ar ei phen ei hun fwy o blant na'r wraig sydd wedi priodi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Isai | WelBeibl | 54:2 | “Gwna fwy o le i dy babell, a lledu'r llenni lle rwyt ti'n byw! Estyn nhw allan! Paid dal yn ôl! Gwna'r rhaffau'n hirach, rho'r pegiau'n sownd. | |
Isai | WelBeibl | 54:3 | Byddi'n ymledu allan i bob cyfeiriad! Bydd dy ddisgynyddion yn meddiannu gwledydd eraill, ac yn byw mewn dinasoedd gafodd eu gadael yn adfeilion. | |
Isai | WelBeibl | 54:4 | Paid bod ag ofn, gei di ddim dy wrthod. Paid synnu, gei di ddim dy siomi! Byddi'n anghofio cywilydd dy ieuenctid, ac yn cofio dim am warth dy gyfnod fel gweddw. | |
Isai | WelBeibl | 54:5 | Mae'r un wnaeth dy greu di wedi dy briodi di! Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw e. Bydd Un Sanctaidd Israel yn dy ollwng di'n rhydd – ie, ‘Duw yr holl daear’. | |
Isai | WelBeibl | 54:6 | Mae'r ARGLWYDD yn dy alw di yn ôl – fel gwraig oedd wedi'i gadael ac yn anobeithio, gwraig ifanc oedd wedi'i hanfon i ffwrdd.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Isai | WelBeibl | 54:8 | Rôn i wedi gwylltio am foment, ac wedi troi i ffwrdd oddi wrthot ti. Ond gyda chariad sy'n para am byth bydda i'n garedig atat ti eto,” —meddai'r ARGLWYDD, sy'n dy ollwng di'n rhydd. | |
Isai | WelBeibl | 54:9 | “Mae'r un fath â'r dilyw yng nghyfnod Noa. Fel gwnes i addo bryd hynny na fyddai'r ddaear yn cael ei boddi byth eto, dw i'n addo i chi na fydda i'n ddig hefo chi, nac yn eich cosbi eto. | |
Isai | WelBeibl | 54:10 | Falle y bydd y mynyddoedd yn symud a'r bryniau'n cael eu hysgwyd, ond bydd fy nghariad i atoch chi yn aros, a fydd fy ymrwymiad heddwch ddim yn siglo,” —meddai'r ARGLWYDD, sy'n dy garu di. | |
Isai | WelBeibl | 54:11 | “Ti sydd mor druenus, wedi dy daro gan stormydd a heb dy gysuro! Dw i'n mynd i osod dy gerrig mewn morter glas, a defnyddio saffir fel dy sylfeini. | |
Isai | WelBeibl | 54:12 | Bydda i'n gwneud dy dyrau o emau, dy giatiau o risial coch, a bydd dy waliau i gyd yn feini gwerthfawr. | |
Isai | WelBeibl | 54:13 | Bydd pob un o dy blant yn cael eu dysgu gan yr ARGLWYDD, a bydd dy blant yn profi heddwch mawr. | |
Isai | WelBeibl | 54:14 | Byddi wedi dy sylfaenu ar gyfiawnder, a fyddi di ddim yn cael dy orthrymu. Fydd dim rhaid i ti fod ag ofn, a fydd dychryn ddim yn dod yn agos atat ti. | |
Isai | WelBeibl | 54:15 | Os bydd rhywun eisiau ymladd hefo ti, nid fi fydd tu ôl i hynny: bydd pwy bynnag sydd eisiau ymladd hefo ti yn syrthio, am mai ti wyt ti. | |
Isai | WelBeibl | 54:16 | Os fi wnaeth greu'r gof sy'n chwythu'r tân marwor gyda'i fegin, i wneud offer ar gyfer ei waith; fi hefyd sy'n creu'r dinistriwr i ddinistrio. | |