JEREMIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
Chapter 10
Jere | WelBeibl | 10:1 | Bobl Israel, gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi: “Peidiwch gwneud yr un fath â'r gwledydd paganaidd. Peidiwch cymryd sylw o ‛arwyddion‛ y sêr a'r planedau, a gadael i bethau felly eich dychryn chi, fel maen nhw'n dychryn y gwledydd hynny. | |
Jere | WelBeibl | 10:2 | Bobl Israel, gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi: “Peidiwch gwneud yr un fath â'r gwledydd paganaidd. Peidiwch cymryd sylw o ‛arwyddion‛ y sêr a'r planedau, a gadael i bethau felly eich dychryn chi, fel maen nhw'n dychryn y gwledydd hynny. | |
Jere | WelBeibl | 10:3 | Dydy arferion paganaidd felly yn dda i ddim! Mae coeden yn cael ei thorri i lawr yn y goedwig, ac mae cerfiwr yn gwneud eilun ohoni gyda chŷn. | |
Jere | WelBeibl | 10:4 | Wedyn mae'n ei addurno gydag arian ac aur, ac yn defnyddio morthwyl a hoelion i'w ddal yn ei le, rhag iddo syrthio! | |
Jere | WelBeibl | 10:5 | Mae'r eilunod yma fel bwganod brain mewn gardd lysiau. Allan nhw ddim siarad; allan nhw ddim cerdded, felly mae'n rhaid eu cario nhw i bobman. Peidiwch bod â'u hofn nhw – allan nhw wneud dim niwed i chi, na gwneud dim i'ch helpu chi chwaith!” | |
Jere | WelBeibl | 10:6 | Jeremeia: “O ARGLWYDD, does dim un ohonyn nhw'n debyg i ti. Ti ydy'r Duw mawr, sy'n enwog am dy fod mor bwerus! | |
Jere | WelBeibl | 10:7 | Ti ydy Brenin y cenhedloedd, felly dylai pawb dy addoli di – dyna wyt ti'n ei haeddu! Dydy pobl fwya doeth y gwledydd i gyd a'r teyrnasoedd yn ddim byd tebyg i ti. | |
Jere | WelBeibl | 10:9 | Maen nhw'n dod ag arian wedi'i guro o Tarshish, ac aur pur o Wffas, i orchuddio'r delwau. Dim ond gwaith llaw cerfiwr a gof aur ydy'r rheiny; a'u dillad glas a phorffor yn waith teiliwr medrus! | |
Jere | WelBeibl | 10:10 | Yr ARGLWYDD ydy'r unig Dduw go iawn – y Duw byw, sy'n frenin am byth! Pan mae e'n ddig mae'r ddaear yn crynu. Mae'r cenhedloedd yn cuddio oddi wrth ei ddicter.” | |
Jere | WelBeibl | 10:11 | (Dylech ddweud wrth y cenhedloedd: “Wnaeth y ‛duwiau‛ yma ddim creu'r nefoedd a'r ddaear. Byddan nhw i gyd yn diflannu – fydd dim sôn amdanyn nhw yn unman!”) | |
Jere | WelBeibl | 10:12 | Yr ARGLWYDD ddefnyddiodd ei rym i greu'r ddaear. Fe ydy'r un osododd y byd yn ei le drwy ei ddoethineb, a lledu'r awyr drwy ei ddeall. | |
Jere | WelBeibl | 10:13 | Mae sŵn ei lais yn gwneud i'r awyr daranu. Mae'n gwneud i gymylau ddod i'r golwg ar y gorwel. Mae'n gwneud i fellt fflachio yng nghanol y glaw. Mae'n dod â'r gwynt allan o'i stordai i chwythu. | |
Jere | WelBeibl | 10:14 | Mae pobl mor ddwl! Dŷn nhw'n gwybod dim byd! Bydd yr eilunod yn codi cywilydd ar y rhai a'u gwnaeth nhw. Duwiau ffals ydy'r delwau; does dim bywyd ynddyn nhw. | |
Jere | WelBeibl | 10:15 | Dŷn nhw'n dda i ddim! Pethau i wneud sbort am eu pennau! Mae'r amser yn dod pan gân nhw eu cosbi a'u dinistrio. | |
Jere | WelBeibl | 10:16 | Dydy Duw Jacob ddim byd tebyg iddyn nhw. Fe ydy'r un wnaeth greu pob peth, ac mae pobl Israel yn bobl sbesial iddo. Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw! | |
Jere | WelBeibl | 10:18 | Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n mynd i daflu'r bobl allan o'r wlad yma, nawr! Maen nhw'n mynd i fod mewn helbul go iawn, a byddan nhw'n teimlo'r peth i'r byw. | |
Jere | WelBeibl | 10:19 | Meddai Jerwsalem, “Mae ar ben arna i! Dw i wedi fy anafu'n ddifrifol. Rôn i'n arfer meddwl, ‘Salwch ydy e a bydda i'n dod drosto.’ | |
Jere | WelBeibl | 10:20 | Mae fy mhabell wedi'i dryllio, a'r rhaffau i gyd wedi'u torri. Mae fy mhlant wedi mynd, a fyddan nhw ddim yn dod yn ôl. Does neb ar ôl i godi'r babell eto, nac i hongian y llenni tu mewn iddi. | |
Jere | WelBeibl | 10:21 | Mae'r arweinwyr wedi bod mor ddwl! Dŷn nhw ddim wedi gofyn i'r ARGLWYDD am arweiniad. Maen nhw wedi methu'n llwyr, ac mae eu praidd nhw wedi'u gyrru ar chwâl. | |
Jere | WelBeibl | 10:22 | Gwrandwch! Mae'r si ar led! Mae'n dod! Sŵn twrw'r fyddin yn dod o gyfeiriad y gogledd. Mae'n dod i droi trefi Jwda yn rwbel, ac yn lle i siacaliaid fyw. | |
Jere | WelBeibl | 10:23 | ARGLWYDD, dw i'n gwybod na all pobl reoli eu bywydau. Dŷn nhw ddim yn gallu trefnu beth sy'n mynd i ddigwydd. | |
Jere | WelBeibl | 10:24 | Felly, ARGLWYDD, cywira ni, ond paid bod yn rhy galed. Paid gwylltio, neu fydd dim ohonon ni ar ôl. | |