MATTHEW
Chapter 21
Matt | WelBeibl | 21:1 | Dyma nhw'n cyrraedd Bethffage wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem, a dyma Iesu'n dweud wrth ddau ddisgybl, | |
Matt | WelBeibl | 21:2 | “Ewch i'r pentref acw sydd o'ch blaen chi, ac wrth fynd i mewn iddo dewch o hyd i asen wedi'i rhwymo a'i hebol gyda hi. Dewch â nhw yma i mi, | |
Matt | WelBeibl | 21:3 | ac os bydd rhywun yn ceisio'ch rhwystro, dwedwch, ‘Mae'r meistr eu hangen nhw; bydd yn eu hanfon yn ôl wedyn.’” | |
Matt | WelBeibl | 21:5 | “Dwed wrth bobl Seion, ‘Edrych! Mae dy frenin yn dod! Mae'n addfwyn ac yn marchogaeth ar asen; ie, ar ebol asyn.’” | |
Matt | WelBeibl | 21:7 | Pan ddaethon nhw â'r asen a'i hebol yn ôl, dyma nhw'n taflu'u cotiau drostyn nhw, a dyma Iesu'n eistedd arnyn nhw. | |
Matt | WelBeibl | 21:8 | Roedd tyrfa fawr yn gosod eu cotiau fel carped ar y ffordd o'i flaen, neu dorri dail o'r coed a'u lledu ar y ffordd. | |
Matt | WelBeibl | 21:9 | Roedd y dyrfa y tu blaen a'r tu ôl iddo yn gweiddi, “Hosanna! Clod i Fab Dafydd!” “Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi'i fendithio'n fawr!” “Clod i Dduw yn y nefoedd uchaf!” | |
Matt | WelBeibl | 21:10 | Roedd y ddinas gyfan mewn cynnwrf pan aeth Iesu i mewn i Jerwsalem. “Pwy ydy hwn?” meddai rhai. | |
Matt | WelBeibl | 21:12 | Aeth Iesu i mewn i gwrt y deml a gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddau'r rhai oedd yn cyfnewid arian a'u troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod. | |
Matt | WelBeibl | 21:13 | Yna dwedodd, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi.’ Ond dych chi'n ei droi yn ‘guddfan i ladron’!” | |
Matt | WelBeibl | 21:15 | Ond roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith wedi gwylltio'n lân wrth weld y gwyrthiau rhyfeddol roedd yn eu gwneud, a'r plant yn gweiddi yn y deml, “Hosanna! Clod i Fab Dafydd!” | |
Matt | WelBeibl | 21:16 | “Wyt ti ddim yn clywed beth mae'r plant yma'n ei ddweud?” medden nhw wrtho. “Ydw,” atebodd Iesu. “Ydych chi wedi darllen yn yr ysgrifau sanctaidd erioed, ‘Rwyt wedi dysgu plant a babanod i dy foli di’?” | |
Matt | WelBeibl | 21:18 | Yn gynnar y bore wedyn roedd ar ei ffordd yn ôl i'r ddinas, ac roedd e eisiau bwyd. | |
Matt | WelBeibl | 21:19 | Gwelodd goeden ffigys ar ochr y ffordd, ac aeth draw ati ond doedd dim byd ond dail yn tyfu arni. Yna dwedodd, “Fydd dim ffrwyth yn tyfu arnat ti byth eto!”, a dyma'r goeden yn gwywo. | |
Matt | WelBeibl | 21:20 | Pan welodd y disgyblion hyn roedden nhw wedi'u syfrdanu. “Sut wnaeth y goeden wywo mor sydyn?” medden nhw. | |
Matt | WelBeibl | 21:21 | “Credwch chi fi,” meddai Iesu, “dim ond i chi gredu a pheidio amau, gallech chi wneud mwy na beth gafodd ei wneud i'r goeden ffigys. Gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Dos, a thaflu dy hun i'r môr,’ a byddai'n digwydd. | |
Matt | WelBeibl | 21:23 | Dyma Iesu'n mynd i gwrt y deml a dechrau dysgu'r bobl yno. A dyma'r prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill yn dod ato, a gofyn iddo, “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy roddodd yr awdurdod i ti?” | |
Matt | WelBeibl | 21:24 | Atebodd Iesu nhw, “Gadewch i mi ofyn cwestiwn i chi. Os rhowch chi'r ateb i mi, ateba i'ch cwestiwn chi. | |
Matt | WelBeibl | 21:25 | Roedd Ioan yn bedyddio. Ai Duw anfonodd e neu ddim?” Wrth drafod y peth gyda'i gilydd, dyma nhw'n dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn i ni, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu felly?’ | |
Matt | WelBeibl | 21:26 | Ond allwn ni ddim dweud ‘Na’, rhag i'r dyrfa ymosod arnon ni. Maen nhw i gyd yn meddwl fod Ioan yn broffwyd.” | |
Matt | WelBeibl | 21:27 | Felly dyma nhw'n gwrthod ateb, “Dŷn ni ddim yn gwybod,” medden nhw. “Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith,” meddai Iesu. | |
Matt | WelBeibl | 21:28 | “Beth ydych chi'n feddwl? Roedd rhyw ddyn a dau o blant ganddo. Meddai wrth yr hynaf, ‘Dos i weithio yn y winllan heddiw.’ | |
Matt | WelBeibl | 21:30 | “Dyma'r tad yn mynd at y mab arall a dweud yr un peth. Atebodd hwnnw, ‘Siŵr iawn, dad,’ ond aeth e ddim. | |
Matt | WelBeibl | 21:31 | Pa un o'r ddau fab wnaeth beth oedd y tad eisiau?” “Y cyntaf,” medden nhw. Meddai Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi, bydd y rhai sy'n casglu trethi i Rufain a'r puteiniaid yn dod dan deyrnasiad Duw o'ch blaen chi! | |
Matt | WelBeibl | 21:32 | Achos roedd Ioan wedi dod i ddangos y ffordd iawn i chi, a dyma chi'n gwrthod ei gredu. Ond dyma'r bobl sy'n casglu trethi i Rufain a'r puteiniaid yn credu! A hyd yn oed ar ôl gweld hynny'n digwydd, wnaethoch chi ddim newid eich meddwl a'i gredu e! | |
Matt | WelBeibl | 21:33 | “Gwrandwch ar stori arall: Roedd rhyw ddyn a thir ganddo wedi plannu gwinllan. Cododd ffens o'i chwmpas, cloddio lle i wasgu'r sudd o'r grawnwin ac adeiladu tŵr i'w gwylio. Yna gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd ar daith bell. | |
Matt | WelBeibl | 21:34 | “Pan oedd hi'n amser casglu'r grawnwin, anfonodd weision at y tenantiaid i nôl ei siâr o'r ffrwyth. | |
Matt | WelBeibl | 21:35 | Ond dyma'r tenantiaid yn gafael yn y gweision, ac yn ymosod ar un, lladd un arall, a llabyddio un arall gyda cherrig. | |
Matt | WelBeibl | 21:36 | Felly dyma'r dyn yn anfon gweision eraill, mwy ohonyn nhw y tro yma, ond dyma'r tenantiaid yn gwneud yr un peth i'r rheiny. | |
Matt | WelBeibl | 21:37 | “Yn y diwedd dyma'r dyn yn anfon ei fab atyn nhw. ‘Byddan nhw'n parchu fy mab i,’ meddai. | |
Matt | WelBeibl | 21:38 | Ond pan welodd y tenantiaid y mab, dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd: ‘Hwn sy'n mynd i etifeddu'r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni'r winllan.’ | |
Matt | WelBeibl | 21:40 | “Felly, beth fydd y dyn biau'r winllan yn ei wneud i'r tenantiaid pan ddaw yn ôl?” | |
Matt | WelBeibl | 21:41 | Dyma nhw'n ateb, “Bydd yn lladd y cnafon drwg! Wedyn bydd yn gosod y winllan ar rent i denantiaid newydd, fydd yn barod i roi ei siâr o'r ffrwythau iddo bob tymor.” | |
Matt | WelBeibl | 21:42 | Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Ydych chi wedi darllen yn yr ysgrifau sanctaidd erioed: ‘Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen; yr Arglwydd wnaeth hyn, ac mae'r peth yn rhyfeddol yn ein golwg.’? | |
Matt | WelBeibl | 21:43 | “Hyn dw i'n ei ddweud: fod y breintiau o fod dan deyrnasiad Duw yn cael eu cymryd oddi arnoch chi a'u rhoi i bobl fydd yn dangos ei ffrwyth yn eu bywydau. | |
Matt | WelBeibl | 21:44 | Bydd pwy bynnag sy'n baglu ar y garreg yma yn dryllio'n ddarnau, a bydd pwy bynnag mae'r garreg yn syrthio arno yn cael ei fathru.” | |
Matt | WelBeibl | 21:45 | Pan glywodd y prif offeiriaid a'r Phariseaid straeon Iesu, roedden nhw'n gwybod yn iawn ei fod yn sôn amdanyn nhw. | |