Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PROVERBS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 17
Prov WelBeibl 17:1  Mae crystyn sych a thipyn o heddwch yn well na gwledd fawr lle mae pobl yn ffraeo.
Prov WelBeibl 17:2  Bydd gwas da yn rheoli mab sy'n achos cywilydd, a bydd yn rhannu'r etifeddiaeth fel un o'r teulu.
Prov WelBeibl 17:3  Tawddlestr i arian, a ffwrnais i aur, ond yr ARGLWYDD sy'n profi'r galon.
Prov WelBeibl 17:4  Mae'r rhai sy'n gwneud drwg yn gwrando ar gyngor drwg; a'r un sy'n dweud celwydd yn rhoi sylw i eiriau maleisus.
Prov WelBeibl 17:5  Mae'r sawl sy'n chwerthin ar y tlawd yn amharchu ei Grëwr; a bydd yr un sy'n mwynhau gweld trychineb yn cael ei gosbi.
Prov WelBeibl 17:6  Coron pobl mewn oed ydy eu hwyrion a'u hwyresau, a balchder plant ydy eu rhieni.
Prov WelBeibl 17:7  Dydy geiriau gwych ddim yn gweddu i ffŵl; llai fyth celwydd i ŵr bonheddig.
Prov WelBeibl 17:8  Mae breib fel swyn i'r un sy'n ei gynnig; lle bynnag mae'n troi, mae'n llwyddo.
Prov WelBeibl 17:9  Mae'r sawl sy'n cuddio bai yn ceisio cyfeillgarwch, ond yr un sy'n hel clecs yn colli ffrindiau.
Prov WelBeibl 17:10  Mae gair o gerydd yn gwneud mwy o argraff ar ddyn doeth na chwipio ffŵl gant o weithiau.
Prov WelBeibl 17:11  Dydy rhywun drwg ddim ond eisiau gwrthryfela; felly bydd swyddog creulon yn cael ei anfon yn ei erbyn.
Prov WelBeibl 17:12  Gwell cyfarfod arthes wedi colli ei chenawon na ffŵl yn siarad nonsens.
Prov WelBeibl 17:13  Fydd trafferthion byth yn gadael tŷ rhywun sy'n talu drwg am dda.
Prov WelBeibl 17:14  Mae dechrau ffrae fel crac mewn argae; gwell tewi cyn i bethau fynd yn draed moch.
Prov WelBeibl 17:15  Dau beth sy'n gas gan yr ARGLWYDD – gollwng yr euog yn rhydd a chosbi'r dieuog.
Prov WelBeibl 17:16  Wnaiff arian yn llaw ffŵl ddim prynu doethineb. Pam talu am wersi, ac yntau ddim eisiau deall?
Prov WelBeibl 17:17  Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi'i eni i helpu mewn helbul.
Prov WelBeibl 17:18  Does dim sens gan rywun sy'n cytuno i dalu dyled rhywun arall.
Prov WelBeibl 17:19  Mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi trafferthion, a'r un sy'n brolio yn gofyn am drwbwl.
Prov WelBeibl 17:20  Fydd yr un sy'n twyllo ddim yn llwyddo; mae'r rhai sy'n edrych am helynt yn mynd i drafferthion.
Prov WelBeibl 17:21  Mae'r un sy'n magu plentyn ffôl yn profi tristwch; does dim mwynhad i dad plentyn gwirion.
Prov WelBeibl 17:22  Mae llawenydd yn iechyd i'r corff; ond mae iselder ysbryd yn sychu'r esgyrn.
Prov WelBeibl 17:23  Person drwg sy'n derbyn breib yn dawel bach i wyrdroi cyfiawnder.
Prov WelBeibl 17:24  Mae'r person craff yn gweld yn glir beth sy'n ddoeth, ond dydy'r ffŵl ddim yn gwybod ble i edrych.
Prov WelBeibl 17:25  Mae plentyn ffôl yn achosi gofid i'w dad a dolur calon i'w fam.
Prov WelBeibl 17:26  Dydy cosbi rhywun dieuog ddim yn iawn; byddai fel rhoi curfa i swyddog llys am fod yn onest.
Prov WelBeibl 17:27  Mae'r un sy'n brathu ei dafod yn dangos synnwyr cyffredin, a'r person pwyllog yn dangos ei fod yn gall.
Prov WelBeibl 17:28  Gall hyd yn oed ffŵl sy'n cadw'n dawel gael ei ystyried yn ddoeth, a'r un sy'n cau ei geg, yn ddeallus.