Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
TITUS
Up
1 2 3
Chapter 1
Titu WelBeibl 1:1  Llythyr gan Paul, gwas i Dduw a chynrychiolydd personol Iesu y Meseia. Dw i'n gweithio er mwyn gweld y rhai mae Duw wedi'u dewis yn dod i gredu, a'u helpu nhw i ddeall y gwir yn well, iddyn nhw allu byw fel mae Duw am iddyn nhw fyw.
Titu WelBeibl 1:2  Mae'n rhoi sicrwydd iddyn nhw fod ganddyn nhw fywyd tragwyddol. Dyma'r bywyd wnaeth Duw ei addo cyn i amser ddechrau – a dydy Duw ddim yn gallu dweud celwydd!
Titu WelBeibl 1:3  Pan ddaeth yr amser iawn daeth â'r newyddion da i'r golwg a rhoi'r cyfrifoldeb i mi i'w gyhoeddi. Duw ein Hachubwr sydd wedi gorchymyn i mi wneud hyn.
Titu WelBeibl 1:4  Titus, rwyt ti wir fel mab i mi, gan dy fod yn credu yn y Meseia fel dw i: Dw i'n gweddïo y byddi di'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw y Tad a'r Meseia Iesu, ein Hachubwr, yn ei roi i ni.
Titu WelBeibl 1:5  Y rheswm pam adewais di ar Ynys Creta oedd er mwyn i ti orffen rhoi trefn ar bethau yno. Dwedais fod eisiau penodi arweinwyr yn yr eglwysi ym mhob un o'r trefi.
Titu WelBeibl 1:6  Ddylai pobl ddim gallu pigo bai ar fywyd arweinydd yn yr eglwys. Rhaid iddo fod yn ffyddlon i'w wraig, a'i blant yn credu a ddim yn wyllt ac yn afreolus.
Titu WelBeibl 1:7  Rhaid i arweinydd fod yn ddi-fai, am mai Duw sydd wedi rhoi'r cyfrifoldeb iddo. Dylai beidio bod yn benstiff, nac yn fyr ei dymer. Ddim yn meddwi, ddim yn ymosodol, a ddim yn gwneud arian ar draul pobl eraill.
Titu WelBeibl 1:8  Dylai fod yn berson croesawgar. Dylai wneud beth sy'n dda, bod yn berson cyfrifol, yn gwbl deg, yn dduwiol ac yn gallu rheoli ei chwantau.
Titu WelBeibl 1:9  Dylai fod yn rhywun sy'n credu'n gryf yn y neges glir gafodd ei dysgu. Wedyn bydd yn gallu annog pobl eraill gyda dysgeidiaeth gywir, ac argyhoeddi'r rhai sy'n dadlau yn ei erbyn.
Titu WelBeibl 1:10  Mae llawer iawn o bobl allan yna sy'n tynnu'n groes i'r gwir. Dw i'n meddwl yn arbennig am yr Iddewon hynny sy'n siarad cymaint o nonsens, ac yn twyllo pobl i feddwl fod mynd drwy ddefod enwaediad yn hanfodol bwysig i gael eich achub.
Titu WelBeibl 1:11  Mae'n rhaid rhoi taw arnyn nhw! Maen nhw wedi cael teuluoedd cyfan i gredu syniadau hollol anghywir. Dim ond eisiau'ch arian chi maen nhw!
Titu WelBeibl 1:12  Mae un o'r Cretiaid eu hunain, un sy'n broffwyd yn eu golwg nhw, wedi dweud, “Mae Cretiaid yn bobl gelwyddog – bwystfilod drwg ydyn nhw, pobl farus a diog!”
Titu WelBeibl 1:13  Ac mae'n hollol wir! Felly rhaid i ti eu rhybuddio nhw'n llym, er mwyn iddyn nhw gredu beth sy'n wir.
Titu WelBeibl 1:14  Dwed wrthyn nhw am beidio cymryd sylw o chwedlau Iddewig, ac i stopio gwrando ar bobl sydd wedi troi cefn ar y gwir.
Titu WelBeibl 1:15  Mae popeth yn bur i'r rhai sydd â chalon bur, ond does dim byd yn bur i'r rhai hynny sydd wedi'u llygru a ddim yn credu. Y ffaith ydy bod meddwl a chydwybod y bobl yma wedi'u llygru.
Titu WelBeibl 1:16  Maen nhw'n honni eu bod nhw'n nabod Duw, ond maen nhw'n ei wadu drwy beth maen nhw'n ei wneud. Pobl gwbl atgas ydyn nhw, ac anufudd i Dduw. Allan nhw wneud dim byd da!
Chapter 2
Titu WelBeibl 2:1  Felly, gwna'n siŵr dy fod ti'n dysgu pobl sut i fyw bywydau sy'n gyson â dysgeidiaeth gywir.
Titu WelBeibl 2:2  Dysga'r dynion mewn oed i ymddwyn yn gyfrifol. Dysga nhw i fyw mewn ffordd sy'n ennyn parch pobl, ac i fod yn bwyllog. Dylen nhw fod yn hollol ffyddlon, yn llawn cariad ac yn dal ati drwy bopeth.
Titu WelBeibl 2:3  Dysga'r gwragedd hŷn yr un fath i fyw fel y dylai rhywun sy'n gwasanaethu'r Arglwydd fyw. Dylen nhw beidio hel clecs maleisus, a pheidio yfed gormod. Yn lle hynny dylen nhw ddysgu eraill beth sy'n dda,
Titu WelBeibl 2:4  a bod yn esiampl i'r gwragedd iau o sut i garu eu gwŷr a'u plant.
Titu WelBeibl 2:5  Dylen nhw fod yn gyfrifol, cadw eu hunain yn bur, gofalu am eu cartrefi, bod yn garedig, a bod yn atebol i'w gwŷr. Os gwnân nhw hynny, fydd neb yn gallu dweud pethau drwg am neges Duw.
Titu WelBeibl 2:7  Bydd di dy hun yn esiampl iddyn nhw drwy wneud daioni. Dylet ti fod yn gwbl agored gyda nhw wrth eu dysgu. Gad iddyn nhw weld dy fod ti o ddifri.
Titu WelBeibl 2:8  Gwna'n siŵr dy fod yn dysgu beth sy'n gywir, fel bod neb yn gallu pigo bai arnat ti. Bydd hynny'n codi cywilydd ar y rhai sy'n dadlau yn dy erbyn, am fod ganddyn nhw ddim byd drwg i'w ddweud amdanon ni.
Titu WelBeibl 2:9  Dylai caethweision ymostwng i'w meistri bob amser, a gwneud eu gorau glas i'w plesio nhw. Peidio ateb yn ôl,
Titu WelBeibl 2:10  na dwyn oddi arnyn nhw, ond dangos bod eu meistri'n gallu eu trystio nhw'n llwyr. Wedyn bydd pobl yn cael eu denu at beth sy'n cael ei ddysgu am y Duw sy'n ein hachub ni.
Titu WelBeibl 2:11  Mae Duw wedi dangos ei haelioni rhyfeddol drwy gynnig achub unrhyw un.
Titu WelBeibl 2:12  Mae'n ein dysgu ni i ddweud “na” wrth ein pechod a'n chwantau bydol. Ein dysgu ni hefyd i fyw'n gyfrifol, gwneud beth sy'n iawn a rhoi'r lle canolog yn ein bywydau i Dduw. Dyna sut dylen ni fyw
Titu WelBeibl 2:13  wrth ddisgwyl am y digwyddiad bendigedig hwnnw pan fydd Iesu Grist, ein Duw mawr a'n Hachubwr ni, yn dod yn ôl yn ei holl ysblander.
Titu WelBeibl 2:14  Mae e wedi marw droson ni i'n rhyddhau ni o afael popeth drwg, ac i'n glanhau ni a'n gwneud ni'n bobl iddo fe'i hun – pobl sy'n frwd i wneud daioni.
Titu WelBeibl 2:15  Dyma ddylet ti ei ddysgu. Annog pobl i wneud y pethau yma. Cywira nhw pan mae angen. Mae'r awdurdod wedi'i roi i ti, felly paid gadael i neb dy ddiystyru di.
Chapter 3
Titu WelBeibl 3:1  Atgoffa pobl fod rhaid iddyn nhw fod yn atebol i'r llywodraeth a'r awdurdodau. Dylen nhw fod yn ufudd bob amser ac yn barod i wneud daioni;
Titu WelBeibl 3:2  peidio enllibio neb, peidio achosi dadleuon, ond bod yn ystyriol o bobl eraill, a bod yn addfwyn wrth drin pawb.
Titu WelBeibl 3:3  Wedi'r cwbl, roedden ninnau hefyd yn ffôl ac yn anufudd ar un adeg – wedi'n camarwain, ac yn gaeth i bob math o chwantau a phleserau. Roedd ein bywydau ni'n llawn malais a chenfigen a chasineb. Roedd pobl yn ein casáu ni, a ninnau'n eu casáu nhw.
Titu WelBeibl 3:4  Ond dyma garedigrwydd a chariad Duw ein Hachubwr yn dod i'r golwg.
Titu WelBeibl 3:5  Wnaeth e ddim ein hachub ni am ein bod ni'n dda, ond am ei fod e'i hun mor drugarog! Golchodd ni'n lân o'n pechod a rhoi bywyd newydd i ni drwy'r Ysbryd Glân.
Titu WelBeibl 3:6  Tywalltodd yr Ysbryd arnon ni'n hael o achos beth oedd Iesu Grist wedi'i wneud i'n hachub ni.
Titu WelBeibl 3:7  Am ei fod wedi bod mor garedig â gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn, dŷn ni'n gwybod y byddwn ni'n etifeddu bywyd tragwyddol.
Titu WelBeibl 3:8  Mae beth sy'n cael ei ddweud mor wir! Dyma'r pethau dw i am i ti eu pwysleisio, er mwyn i bawb sy'n credu yn Nuw fod ar y blaen yn gwneud daioni. Mae hynny'n beth da ynddo'i hun, ac mae'n gwneud lles i bawb.
Titu WelBeibl 3:9  Ond paid cael dim i'w wneud â'r dyfalu dwl am achau, a'r holl gecru a dadlau am ryw fân reolau yn y Gyfraith Iddewig. Does dim pwynt – mae'r cwbl yn wastraff amser llwyr!
Titu WelBeibl 3:10  Pwy bynnag sy'n creu rhaniadau, rhybuddia nhw i stopio. Os ydyn nhw ddim yn gwrando ar ôl i ti eu rhybuddio nhw'r ail waith paid cael dim i'w wneud â nhw.
Titu WelBeibl 3:11  Mae pobl felly wedi gwyro oddi wrth y gwirionedd, ac wedi pechu. Nhw sy'n condemnio eu hunain!
Titu WelBeibl 3:12  Dw i'n bwriadu anfon Artemas neu Tychicus atat ti. Cyn gynted ag y bydd y naill neu'r llall wedi cyrraedd tyrd i'm gweld i yn Nicopolis. Dw i wedi penderfynu aros yno dros y gaeaf.
Titu WelBeibl 3:13  Gwna dy orau i helpu Zenas y twrnai ac Apolos ar eu taith. Gwna'n siŵr fod ganddyn nhw bopeth sydd ei angen.
Titu WelBeibl 3:14  Dylai ein pobl ni ddysgu arwain y ffordd wrth wneud daioni, yn cwrdd ag anghenion y rhai sydd mewn angen go iawn. Fyddan nhw ddim yn gwastraffu eu bywydau felly.
Titu WelBeibl 3:15  Mae pawb sydd yma gyda mi yn cofio atat ti. Cofia di ni hefyd at bawb sy'n credu ac yn ein caru ni. Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol Duw.