GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 9
Gene | WelBeibl | 9:1 | Dyma Duw yn bendithio Noa a'i feibion, a dweud wrthyn nhw: “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear. | |
Gene | WelBeibl | 9:2 | Bydd gan yr anifeiliaid, yr adar, pob creadur bach arall a'r pysgod eich ofn chi. Byddwch yn eu rheoli nhw. | |
Gene | WelBeibl | 9:5 | Mae tywallt gwaed dynol yn rhywbeth sy'n rhaid ei gosbi. Rhaid lladd unrhyw anifail gwyllt sy'n gwneud hynny. A rhaid i berson sy'n lladd rhywun arall farw hefyd, am fod pobl yn frodyr a chwiorydd i'w gilydd. | |
Gene | WelBeibl | 9:6 | Mae rhywun sy'n lladd person arall yn haeddu cael ei ladd ei hun, am fod Duw wedi creu'r ddynoliaeth yn ddelw ohono'i hun. | |
Gene | WelBeibl | 9:10 | a hefyd gyda phob creadur byw – adar, anifeiliaid dof a phob creadur arall ddaeth allan o'r arch. | |
Gene | WelBeibl | 9:11 | Dw i'n addo na fydda i byth yn anfon dilyw eto i gael gwared â phopeth byw ac i ddinistrio'r ddaear. | |
Gene | WelBeibl | 9:12 | A dw i'n mynd i roi arwydd i chi i ddangos fod yr ymrwymiad dw i'n ei wneud yn mynd i bara am byth: | |
Gene | WelBeibl | 9:13 | Dw i'n rhoi fy enfys yn y cymylau, a bydd yn arwydd o'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud gyda'r ddaear. | |
Gene | WelBeibl | 9:15 | bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud i chi a phob creadur byw. Fydd llifogydd ddim yn dod i ddinistrio popeth byw byth eto. | |
Gene | WelBeibl | 9:16 | Pan fydd enfys yn y cymylau bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud gyda phob creadur byw sydd ar y ddaear.” | |
Gene | WelBeibl | 9:17 | A dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dyma'r arwydd sy'n dangos y bydda i'n cadw'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud gyda phopeth byw ar y ddaear.” | |
Gene | WelBeibl | 9:18 | Shem, Cham a Jaffeth oedd enwau meibion Noa ddaeth allan o'r arch. (Cham oedd tad Canaan.) | |
Gene | WelBeibl | 9:19 | Roedd y tri ohonyn nhw yn feibion i Noa, ac mae holl bobloedd y byd yn ddisgynyddion iddyn nhw. | |
Gene | WelBeibl | 9:21 | Yfodd Noa beth o'r gwin, a meddwi. Tynnodd ei ddillad a gorwedd yn noeth yn ei babell. | |
Gene | WelBeibl | 9:22 | Dyma Cham, tad Canaan, yn edrych ar ei dad yn noeth ac yna'n mynd allan i ddweud wrth ei frodyr. | |
Gene | WelBeibl | 9:23 | Ond dyma Shem a Jaffeth yn cymryd clogyn a'i osod ar eu hysgwyddau. Wedyn dyma nhw'n cerdded at yn ôl i mewn i'r babell a gorchuddio corff noeth eu tad. Roedden nhw'n edrych i ffwrdd wrth wneud hyn, felly wnaethon nhw ddim gweld eu tad yn noeth. | |
Gene | WelBeibl | 9:26 | Wedyn dwedodd Noa, “Bendith yr ARGLWYDD Dduw ar Shem! Bydd Canaan yn gaethwas iddo. | |
Gene | WelBeibl | 9:27 | Boed i Dduw roi digonedd o le i Jaffeth, a gwneud iddo gyd-fyw'n heddychlon gyda Shem. A bydd Canaan yn gaethwas iddo yntau hefyd.” | |