ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 34
Isai | WelBeibl | 34:1 | Dewch yma, chi wledydd, i wrando! Gwrandwch ar hyn, chi bobloedd y byd! Boed i'r ddaear a phawb arni wrando – y byd, a phopeth sydd ynddo. | |
Isai | WelBeibl | 34:2 | Mae'r ARGLWYDD wedi digio gyda'r gwledydd; mae'n wyllt gyda'u holl fyddinoedd, a bydd yn eu dinistrio a'u lladd nhw. | |
Isai | WelBeibl | 34:3 | Bydd y rhai gaiff eu lladd yn cael eu taflu allan – bydd y drewdod yn ofnadwy a bydd y mynyddoedd wedi'u trochi â'u gwaed. | |
Isai | WelBeibl | 34:4 | Bydd y sêr i gyd yn diffodd, a'r awyr yn cael ei rholio fel sgrôl. Bydd y sêr i gyd yn syrthio fel dail yn disgyn o'r winwydden, neu ffrwyth aeddfed oddi ar goeden ffigys. | |
Isai | WelBeibl | 34:5 | “Bydd fy nghleddyf i'w weld yn yr awyr, ac edrychwch, bydd yn syrthio ar Edom, ar y bobl dw i wedi'u dedfrydu i'w difrodi.” | |
Isai | WelBeibl | 34:6 | Mae'r ARGLWYDD am drochi ei gleddyf mewn gwaed, a'i fodloni gyda braster anifeiliaid – gwaed ŵyn a bychod geifr, a'r braster ar arennau hyrddod. Ydy, mae'r ARGLWYDD yn cynnal aberth yn Bosra, a lladdfa yn Edom. | |
Isai | WelBeibl | 34:7 | Bydd ychen gwyllt yn syrthio gyda nhw, bustych a theirw. Bydd eu tir wedi socian mewn gwaed, a'r llawr wedi'i orchuddio gan fraster. | |
Isai | WelBeibl | 34:8 | Mae gan yr ARGLWYDD ddydd i ddial – mae'n bryd i dalu'r pwyth yn ôl ar ran Seion. | |
Isai | WelBeibl | 34:9 | Bydd afonydd o byg yn gorlifo yn Edom, a bydd ei phridd yn troi'n lafa. Bydd ei thir yn troi'n byg sy'n llosgi, | |
Isai | WelBeibl | 34:10 | a fydd y tân ddim yn diffodd ddydd na nos; bydd mwg yn codi ohono am byth. Bydd yn gorwedd yn adfeilion am genedlaethau; fydd neb yn cerdded y ffordd honno byth bythoedd. | |
Isai | WelBeibl | 34:11 | Bydd tylluanod a draenogod yn ei meddiannu; y dylluan wen a'r gigfran fydd yn nythu yno. Bydd Duw yn ei mesur i achosi anhrefn ac yn ei phwyso i'w gwagio. | |
Isai | WelBeibl | 34:12 | I ble'r aeth ei huchelwyr? Does dim y fath beth â theyrnas ar ôl! Mae ei harweinwyr i gyd wedi diflannu. | |
Isai | WelBeibl | 34:13 | Bydd drain yn tyfu yn ei phlastai, danadl a mieri yn ei threfi caerog. Bydd y wlad yn gartref i siacaliaid, ac yn dir i'r estrys fyw ynddo. | |
Isai | WelBeibl | 34:14 | Bydd ysbrydion yr anialwch a bwganod yn cyfarfod yno, a'r gafr-ddemoniaid yn galw ar ei gilydd. Yno bydd creaduriaid y nos yn gorffwys ac yn nythu, | |
Isai | WelBeibl | 34:15 | a neidr wenwynig yn gorwedd ar ei hwyau, i'w deor a gofalu amdanyn nhw. Bydd adar rheibus hefyd yn casglu yno, pob un gyda'i gymar. | |
Isai | WelBeibl | 34:16 | Astudiwch a darllenwch sgroliau'r ARGLWYDD, heb adael dim allan, a heb golli llinell. Yr ARGLWYDD sydd wedi gorchymyn y cwbl, a'i ysbryd e sydd wedi'u casglu at ei gilydd. | |