ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 57
Isai | WelBeibl | 57:1 | Mae rhywun cyfiawn yn marw, a does neb yn malio. Mae pobl ffyddlon yn cael eu cymryd, a does neb yn sylweddoli fod y cyfiawn yn cael eu symud i'w harbed rhag y drwg sy'n dod. | |
Isai | WelBeibl | 57:2 | Bydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn profi heddwch, ac yn cael gorffwys ar eu gwlâu. | |
Isai | WelBeibl | 57:3 | Dewch yma, chi blant y rhai sy'n dweud ffortiwn, disgynyddion y rhai sy'n godinebu ac yn puteinio! | |
Isai | WelBeibl | 57:4 | Am ben bwy ydych chi'n gwneud sbort? Ar bwy ydych chi'n gwneud ystumiau ac yn tynnu tafod? Dych chi'n blant i rebeliaid, yn ddisgynyddion rhai sy'n dweud celwydd, | |
Isai | WelBeibl | 57:5 | a'ch nwydau rhywiol yn llosgi wrth addoli dan bob coeden ddeiliog. Chi sy'n aberthu plant yn y dyffrynnoedd, ac yn hafnau'r creigiau. | |
Isai | WelBeibl | 57:6 | Cerrig llithrig y nant ydy dy gyfran di; mentra di gyda nhw! Iddyn nhw rwyt ti wedi tywallt dy offrwm o ddiod, a chyflwyno dy offrwm o fwyd. Ddylwn i ymatal rhag dial yn wyneb hyn i gyd? | |
Isai | WelBeibl | 57:7 | Rwyt yn gwneud dy wely ar ben pob mynydd uchel, ac yn mynd yno i gyflwyno dy aberthau. | |
Isai | WelBeibl | 57:8 | Er bod arwydd wedi'i osod tu ôl i ffrâm drws dy dŷ, ti wedi ngadael i a gorwedd yn agored ar dy wely. Ti wedi ymrwymo dy hun i'r duwiau, wedi mwynhau gorweddian yn noeth a dewis dilyn dy chwantau. | |
Isai | WelBeibl | 57:9 | Yna, mynd i lawr i weld y brenin gyda rhoddion o olew a llwyth o bersawr. Anfonaist negeswyr at un oedd yn bell i ffwrdd, hyd yn oed i Annwn! | |
Isai | WelBeibl | 57:10 | Er bod yr holl deithio'n dy flino, wnest ti ddim rhoi i fyny! Llwyddaist i gael digon o egni i ddal ati. | |
Isai | WelBeibl | 57:11 | Pwy oedd yn dy boeni a gwneud i ti ofni a dweud celwydd? Doeddet ti ddim yn meddwl amdana i nac yn cymryd unrhyw sylw ohono i. Ai'r rheswm wyt ti ddim yn fy ofni i ydy mod i wedi bod yn ddistaw mor hir? | |
Isai | WelBeibl | 57:12 | Gwna i ddweud beth dw i'n feddwl o dy weithredoedd da: fydd y rheiny ddim yn gallu dy helpu! | |
Isai | WelBeibl | 57:13 | A fydd dy gasgliad o dduwiau ddim yn dy helpu pan fyddi di'n gweiddi – does dim bywyd nac anadl ynddyn nhw! Ond bydd y rhai sy'n troi ata i yn meddiannu'r tir ac yn etifeddu fy mynydd cysegredig i. | |
Isai | WelBeibl | 57:14 | Dyma fydd yn cael ei ddweud: Adeiladwch! Adeiladwch! Cliriwch y ffordd! Symudwch bob rhwystr o ffordd fy mhobl! | |
Isai | WelBeibl | 57:15 | Dyma mae'r Un uchel iawn yn ei ddweud, yr un sy'n aros am byth, a'i enw'n sanctaidd: Dw i'n byw mewn lle uchel a sanctaidd, ond dw i hefyd gyda'r rhai gostyngedig sydd wedi'u sathru – dw i'n adfywio'r rhai gostyngedig, ac yn codi calon y rhai sydd wedi'u sathru. | |
Isai | WelBeibl | 57:16 | Dw i ddim yn mynd i ddadlau drwy'r adeg, na dal dig am byth. Dw i ddim eisiau i ysbryd y bobl ballu, gan mai fi sy'n rhoi anadl iddyn nhw fyw. | |
Isai | WelBeibl | 57:17 | Rôn i'n ddig am eu bod yn elwa drwy drais. Dyma fi'n eu taro, a throi i ffwrdd wedi digio, ond roedden nhw'n dal i fynd eu ffordd eu hunain! | |
Isai | WelBeibl | 57:18 | Do, dw i wedi gweld beth maen nhw'n ei wneud, ond dw i'n mynd i'w hiacháu nhw. Dw i'n mynd i'w harwain a'u cysuro; cysuro'r rhai sy'n galaru, | |
Isai | WelBeibl | 57:19 | a rhoi lle iddyn nhw ddathlu: heddwch a llwyddiant i bawb yn bell ac agos! Dw i'n mynd i'w hiacháu nhw,” —meddai'r ARGLWYDD. | |
Isai | WelBeibl | 57:20 | “Ond bydd y rhai drwg fel môr stormus sy'n methu bod yn dawel, a'i ddŵr yn corddi'r llaid a'r baw. | |