Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOB
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 39
Job WelBeibl 39:1  Wyt ti'n gwybod pryd mae geifr mynydd yn cael eu geni? Wyt ti wedi gwylio'r ceirw yn esgor ar rai bach?
Job WelBeibl 39:2  Wyt ti wedi cyfri'r misoedd tra maen nhw'n disgwyl? Wyt ti'n gwybod pryd yn union maen nhw'n geni rhai bach,
Job WelBeibl 39:3  yn crymu wrth roi genedigaeth, ac yn bwrw eu brych?
Job WelBeibl 39:4  Mae'r rhai bach yn tyfu'n iach, allan yng nghefn gwlad; yna'n gadael y fam, a byth yn dod yn ôl.
Job WelBeibl 39:5  Pwy wnaeth ollwng yr asyn gwyllt, a datod ei ffrwyn iddo fynd yn rhydd?
Job WelBeibl 39:6  Rhoi'r anialwch yn gartref iddo, a'r tir diffaith yn lle iddo fyw.
Job WelBeibl 39:7  Mae'n gwawdio twrw'r dre, ac yn fyddar i floedd unrhyw feistr.
Job WelBeibl 39:8  Mae'n crwydro'r mynyddoedd am borfa, yn chwilio am laswellt i'w fwyta.
Job WelBeibl 39:9  Fyddai'r ych gwyllt yn fodlon gweithio i ti, ac aros dros nos wrth gafn bwydo?
Job WelBeibl 39:10  Alli di ei gadw yn y gŵys gyda rhaff? Fydd e'n dy ddilyn ac yn trin y tir?
Job WelBeibl 39:11  Alli di ddibynnu arno gan ei fod mor gryf, a gadael iddo wneud dy waith caled yn dy le?
Job WelBeibl 39:12  Fyddet ti'n disgwyl iddo i ddod yn ôl a chasglu dy rawn i'r llawr dyrnu?
Job WelBeibl 39:13  Mae adenydd yr estrys yn ysgwyd yn llawen; ond does ganddi ddim plu i hedfan fel y garan!
Job WelBeibl 39:14  Mae hi'n dodwy ei hwyau ar lawr, ac yn eu gadael i gynhesu ar y tywod,
Job WelBeibl 39:15  heb feddwl y gallen nhw gael eu sathru, ac y gallai anifail gwyllt eu malu dan draed.
Job WelBeibl 39:16  Mae'n trin ei chywion yn greulon, fel petaen nhw ddim yn perthyn iddi; dydy hi'n poeni dim y gallai ei llafur fod yn ofer.
Job WelBeibl 39:17  Gadawodd Duw hi heb ddoethineb, roddodd e ddim mymryn o ddeall iddi.
Job WelBeibl 39:18  Ond pan mae'n codi a dechrau rhedeg, mae'n chwerthin am ben y ceffyl a'i farchog!
Job WelBeibl 39:19  Ai ti sy'n rhoi cryfder i geffyl? Ai ti wisgodd ei wddf â'r mwng?
Job WelBeibl 39:20  Ai ti sy'n gwneud iddo neidio fel y locust, a chreu dychryn wrth weryru?
Job WelBeibl 39:21  Mae'n curo llawr y dyffryn â'i garnau, ac yn rhuthro'n frwd i'r frwydr.
Job WelBeibl 39:22  Does ganddo ddim ofn; does dim yn ei ddychryn; dydy e ddim yn cilio oddi wrth y cleddyf.
Job WelBeibl 39:23  Mae llond cawell o saethau'n chwyrlïo heibio iddo, a'r waywffon a'r cleddyf yn fflachio.
Job WelBeibl 39:24  Mae'n llawn cynnwrf, ac yn carlamu'n wyllt; mae'n methu aros yn llonydd pan mae'r corn hwrdd yn seinio.
Job WelBeibl 39:25  Mae'n synhwyro'r frwydr o bell; mae'n gweryru wrth glywed y corn hwrdd, a gwaedd swyddogion yn bloeddio gorchmynion.
Job WelBeibl 39:26  Ai dy ddoethineb di sy'n gwneud i'r hebog hedfan, a lledu ei adenydd i droi tua'r de?
Job WelBeibl 39:27  Ai dy orchymyn di sy'n gwneud i'r fwltur hofran, a gosod ei nyth ar y creigiau uchel?
Job WelBeibl 39:28  Mae'n byw ar y graig, lle mae'n treulio'r nos; mae'r clogwyn yn gaer ddiogel iddo.
Job WelBeibl 39:29  Oddi yno mae'n chwilio am fwyd, ac yn syllu arno o bell;
Job WelBeibl 39:30  bydd ei gywion yn llowcio gwaed. Ble mae corff marw, mae'r fwltur yno.”