LEVITICUS
Chapter 26
Levi | WelBeibl | 26:1 | “Peidiwch gwneud eilun-dduwiau i chi'ch hunain. Peidiwch gwneud delw o rywbeth, neu godi colofn gysegredig, na gosod cerflun ar eich tir i blygu o'i flaen a'i addoli. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. | |
Levi | WelBeibl | 26:4 | bydda i'n anfon glaw ar yr amser iawn, er mwyn i gnydau dyfu ar y tir, a ffrwythau ar y coed. | |
Levi | WelBeibl | 26:5 | Byddwch yn cael cnydau gwych, a llwythi o rawnwin. Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, a chewch fyw yn saff yn y wlad. | |
Levi | WelBeibl | 26:6 | Bydda i'n rhoi heddwch a llonydd i chi. Byddwch yn gallu gorwedd i gysgu heb fod ofn. Bydda i'n cael gwared â'r anifeiliaid peryglus sy'n y wlad, a fydd neb yn ymosod ar y wlad. | |
Levi | WelBeibl | 26:8 | Bydd pump ohonoch chi yn curo cant ohonyn nhw, a chant yn curo deg mil. Byddwch yn eu lladd nhw gyda'r cleddyf. | |
Levi | WelBeibl | 26:9 | Bydda i'n eich helpu chi. Byddwch chi'n cael lot fawr o ddisgynyddion. Bydda i'n cadw'r ymrwymiad wnes i i chi. | |
Levi | WelBeibl | 26:10 | Fydd gynnoch chi ddim digon o le i gadw eich cnydau i gyd. Bydd rhaid i chi daflu peth o gnwd y flwyddyn cynt i ffwrdd. | |
Levi | WelBeibl | 26:13 | Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, er mwyn i chi beidio bod yn gaethweision iddyn nhw. Dyma fi'n torri'r iau ar eich cefnau chi, i chi allu sefyll yn syth a cherdded yn rhydd. | |
Levi | WelBeibl | 26:14 | “Ond os byddwch chi'n anufudd ac yn gwrthod gwneud beth dw i'n ei ddweud, byddwch chi'n cael eich cosbi. | |
Levi | WelBeibl | 26:15 | Os byddwch chi'n gwrthod cadw fy rheolau i ac yn torri'r ymrwymiad wnes i gyda chi, | |
Levi | WelBeibl | 26:16 | dyma fydda i'n ei wneud: Bydda i'n dod â thrychineb sydyn arnoch chi – afiechydon na ellir mo'u gwella, gwres uchel, colli'ch golwg a cholli archwaeth at fwyd. Byddwch yn hau eich had i ddim byd achos bydd eich gelynion yn bwyta'r cnwd. | |
Levi | WelBeibl | 26:17 | Bydda i'n troi yn eich erbyn chi. Bydd eich gelynion yn eich sathru chi dan draed. Bydd y rhai sy'n eich casáu chi yn eich rheoli chi. Byddwch chi'n dianc i ffwrdd er bod neb yn eich erlid chi. | |
Levi | WelBeibl | 26:18 | Ac os byddwch chi'n dal ddim yn gwrando arna i, bydda i'n eich cosbi chi yn llawer iawn gwaeth. | |
Levi | WelBeibl | 26:19 | Bydda i'n delio gyda'ch balchder ystyfnig chi. Bydd yr awyr yn galed fel haearn, a'r ddaear fel pres, am fod dim glaw. | |
Levi | WelBeibl | 26:20 | Byddwch chi'n gweithio'n galed i ddim byd. Fydd dim cnydau'n tyfu ar y tir, a dim ffrwyth yn tyfu ar y coed. | |
Levi | WelBeibl | 26:21 | “Os dych chi'n mynnu tynnu'n groes a gwrthod gwrando, bydda i'n eich cosbi chi'n waeth fyth. | |
Levi | WelBeibl | 26:22 | Bydda i'n anfon anifeiliaid gwyllt i ymosod arnoch chi. Byddan nhw'n lladd eich plant, yn difa eich anifeiliaid. Bydd y boblogaeth yn lleihau a'r ffyrdd yn wag. | |
Levi | WelBeibl | 26:23 | “Os fydd hynny i gyd ddim yn gwneud i chi droi'n ôl ata i, ac os byddwch chi'n dal i dynnu'n groes, | |
Levi | WelBeibl | 26:24 | bydda i'n troi yn eich erbyn chi. Bydda i, ie fi fy hun, yn eich cosbi chi'n waeth fyth. | |
Levi | WelBeibl | 26:25 | Bydd rhyfel yn dechrau. Dyma'r dial wnes i sôn amdano pan wnes i'r ymrwymiad gyda chi. Byddwch chi'n dianc i'r trefi caerog, ond yn dioddef o afiechydon yno, a bydd eich gelynion yn eich dal chi. | |
Levi | WelBeibl | 26:26 | Fydd gynnoch chi ddim bwyd. Bydd un ffwrn yn ddigon i ddeg o wragedd bobi ynddi. Fydd yna ddim ond briwsion i bawb. Fydd yna byth ddigon i'w fwyta. | |
Levi | WelBeibl | 26:28 | bydda i'n wirioneddol ddig. Bydda i'n troi yn eich erbyn chi, a bydda i, ie fi fy hun, yn eich cosbi chi'n ofnadwy. | |
Levi | WelBeibl | 26:29 | Byddwch chi'n dioddef newyn mor ofnadwy nes byddwch chi'n bwyta eich plant eich hunain – eich bechgyn a'ch merched. | |
Levi | WelBeibl | 26:30 | Bydda i'n dinistrio'ch allorau paganaidd chi, a'ch lleoedd cysegredig, ac yn taflu'ch cyrff marw chi ar ‛gyrff‛ eich eilun-dduwiau chi. Bydda i'n eich ffieiddio chi. | |
Levi | WelBeibl | 26:31 | Bydd eich trefi'n adfeilion a'ch temlau chi'n cael eu dinistrio. Fydd eich offrymau chi ddim yn fy mhlesio i o gwbl. | |
Levi | WelBeibl | 26:32 | Bydd eich tir chi yn y fath gyflwr, bydd y gelynion fydd yn dod i fyw yno wedi dychryn. | |
Levi | WelBeibl | 26:33 | Bydd y rhyfel yn dinistrio'r wlad a'r trefi, a byddwch chi'n cael eich gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd. | |
Levi | WelBeibl | 26:34 | Tra byddwch chi'n gaethion yng ngwlad eich gelynion, bydd y tir yn cael gorffwys. | |
Levi | WelBeibl | 26:35 | Bydd e'n cael mwynhau gorffwys y Saboth roedd i fod i'w gael pan oeddech chi'n byw yno. | |
Levi | WelBeibl | 26:36 | Bydd y rhai ohonoch chi fydd yn dal yn fyw wedi anobeithio'n llwyr yng ngwlad y gelyn. Bydd sŵn deilen yn ysgwyd yn ddigon i'w dychryn nhw. Byddan nhw'n dianc oddi wrth y cleddyf ac yn syrthio, er bod neb yn eu herlid nhw. | |
Levi | WelBeibl | 26:37 | Byddwch chi'n baglu dros eich gilydd wrth ddianc, er bod neb ar eich ôl chi. Fydd neb ohonoch chi'n ddigon cryf i sefyll yn erbyn y gelyn. | |
Levi | WelBeibl | 26:39 | A bydd y rhai sy'n dal yn fyw yn gwywo yng ngwlad y gelyn o achos eu drygioni, a'r holl bethau drwg wnaeth eu hynafiaid. | |
Levi | WelBeibl | 26:40 | “Ond os gwnân nhw gyfaddef eu bod nhw a'u hynafiaid wedi bod ar fai; eu bod nhw wedi fy mradychu, bod yn anffyddlon a thynnu'n groes i mi; | |
Levi | WelBeibl | 26:41 | (Dyna pam wnes i droi yn eu herbyn nhw a mynd â nhw i wlad eu gelynion); os gwnân nhw stopio bod mor ystyfnig a derbyn eu bod nhw wedi bod ar fai, | |
Levi | WelBeibl | 26:42 | bydda i'n cofio'r ymrwymiad wnes i gyda Jacob, a gydag Isaac, a gydag Abraham, a beth wnes i ei addo am y tir rois i iddyn nhw. | |
Levi | WelBeibl | 26:43 | Byddan nhw wedi gadael y tir er mwyn iddo fwynhau gorffwys y Sabothau roedd i fod i'w cael. Bydd y tir yn gorwedd yn anial hebddyn nhw. Bydd rhaid iddyn nhw dderbyn eu bod nhw wedi bod ar fai yn gwrthod gwrando arna i na chadw fy rheolau. | |
Levi | WelBeibl | 26:44 | “Ac eto i gyd, pan fyddan nhw yng ngwlad eu gelynion, fydda i ddim yn troi cefn arnyn nhw a'u ffieiddio nhw a'u dinistrio nhw'n llwyr. Fydda i ddim yn torri'r ymrwymiad wnes i gyda nhw, am mai fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw. | |
Levi | WelBeibl | 26:45 | Bydda i'n cofio'r ymrwymiad wnes i gyda'i hynafiaid nhw pan ddes i â nhw allan o'r Aifft i fod yn Dduw iddyn nhw. Roedd pobl y gwledydd i gyd wedi gweld y peth. Fi ydy'r ARGLWYDD.” | |