Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
MATTHEW
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 14
Matt WelBeibl 14:1  Tua'r adeg yna clywodd y llywodraethwr Herod y straeon am Iesu.
Matt WelBeibl 14:2  Dwedodd wrth ei swyddogion, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi dod yn ôl yn fyw! Dyna pam mae'n gallu gwneud gwyrthiau.”
Matt WelBeibl 14:3  Herod oedd wedi arestio Ioan Fedyddiwr a'i roi yn y carchar. Roedd wedi gwneud hynny o achos ei berthynas â Herodias, gwraig ei frawd, Philip.
Matt WelBeibl 14:4  Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro: “Dydy'r Gyfraith ddim yn caniatáu i ti ei chymryd hi.”
Matt WelBeibl 14:5  Er bod Herod eisiau lladd Ioan, roedd ganddo ofn gwneud hynny am fod y bobl yn ystyried Ioan yn broffwyd.
Matt WelBeibl 14:6  Ond yna, ar ddiwrnod pen-blwydd Herod dyma ferch Herodias yn perfformio dawns yn y parti. Roedd hi wedi plesio Herod gymaint
Matt WelBeibl 14:7  nes iddo dyngu ar lw y byddai'n rhoi iddi beth bynnag oedd hi'n gofyn amdano.
Matt WelBeibl 14:8  Gyda'i mam yn ei hannog, dwedodd wrtho, “Dw i eisiau i ti dorri pen Ioan Fedyddiwr, a'i roi i mi ar hambwrdd.”
Matt WelBeibl 14:9  Doedd y brenin ddim yn hapus o gwbl, ond am ei fod wedi addo ar lw o flaen ei westeion, rhoddodd orchymyn i'w roi iddi.
Matt WelBeibl 14:10  Anfonodd filwyr i'r carchar i dorri pen Ioan i ffwrdd.
Matt WelBeibl 14:11  Wedyn, dyma nhw'n dod â'r pen ar hambwrdd a'i roi i'r ferch fach, a rhoddodd hithau e i'w mam.
Matt WelBeibl 14:12  Dyma ddisgyblion Ioan yn cymryd y corff a'i gladdu, ac wedyn yn mynd i ddweud wrth Iesu beth oedd wedi digwydd.
Matt WelBeibl 14:13  Pan glywodd Iesu beth oedd wedi digwydd, aeth i ffwrdd mewn cwch i le tawel i fod ar ei ben ei hun. Ond clywodd y tyrfaoedd am hyn, a'i ddilyn ar droed o'r trefi.
Matt WelBeibl 14:14  Pan gyrhaeddodd Iesu'r lan, roedd gweld y dyrfa fawr yno yn ei gyffwrdd i'r byw, ac iachaodd y rhai oedd yn sâl.
Matt WelBeibl 14:15  Pan oedd hi'n dechrau nosi, dyma'r disgyblion yn dod ato a dweud, “Mae'r lle yma'n anial ac mae'n mynd yn hwyr. Anfon y bobl i ffwrdd, iddyn nhw gael mynd i'r pentrefi i brynu bwyd.”
Matt WelBeibl 14:16  Atebodd Iesu, “Does dim rhaid iddyn nhw fynd i ffwrdd. Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.”
Matt WelBeibl 14:17  Medden nhw wrtho, “Dim ond pum torth fach a dau bysgodyn sydd gynnon ni.”
Matt WelBeibl 14:19  A dwedodd wrth y bobl am eistedd i lawr ar y glaswellt. Wedyn cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a rhoi'r torthau i'w ddisgyblion, a dyma'r disgyblion yn eu rhannu i'r bobl.
Matt WelBeibl 14:20  Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a dyma nhw'n codi deuddeg llond basged o dameidiau oedd wedi'u gadael dros ben.
Matt WelBeibl 14:21  Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant!
Matt WelBeibl 14:22  Dyma Iesu'n gwneud i'w ddisgyblion fynd yn ôl i'r cwch a chroesi drosodd o'i flaen.
Matt WelBeibl 14:23  Ar ôl iddo anfon y dyrfa adre, aeth i ben mynydd er mwyn cael lle tawel i weddïo. Roedd yno ar ei ben ei hun ac roedd hi'n nosi.
Matt WelBeibl 14:24  Erbyn hynny roedd y cwch yn bell o'r tir, ac yn cael ei daro gan y tonnau am fod y gwynt yn ei erbyn.
Matt WelBeibl 14:25  Yna, rywbryd ar ôl tri o'r gloch y bore aeth Iesu allan atyn nhw gan gerdded ar y dŵr.
Matt WelBeibl 14:26  Pan welodd y disgyblion e'n cerdded ar y llyn, roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Ysbryd ydy e!” medden nhw, gan weiddi mewn ofn.
Matt WelBeibl 14:27  Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae'n iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.”
Matt WelBeibl 14:28  “Arglwydd, os mai ti sydd yna” meddai Pedr, “gad i mi ddod atat ti ar y dŵr.”
Matt WelBeibl 14:29  “Iawn, tyrd,” meddai Iesu. Yna camodd Pedr allan o'r cwch a dechrau cerdded ar y dŵr tuag at Iesu.
Matt WelBeibl 14:30  Ond pan welodd mor gryf oedd y gwynt, roedd arno ofn. Dechreuodd suddo, a gwaeddodd allan, “Achub fi, Arglwydd!”
Matt WelBeibl 14:31  Dyma Iesu'n estyn ei law a gafael ynddo. “Ble mae dy ffydd di?” meddai wrtho, “Pam wnest ti amau?”
Matt WelBeibl 14:32  Wrth iddyn nhw ddringo i mewn i'r cwch dyma'r gwynt yn tawelu.
Matt WelBeibl 14:33  Dyma'r rhai oedd yn y cwch yn ei addoli, a dweud, “Ti ydy Mab Duw, go iawn.”
Matt WelBeibl 14:34  Ar ôl croesi'r llyn, dyma nhw'n glanio yn Genesaret.
Matt WelBeibl 14:35  Dyma'r dynion yno yn nabod Iesu, ac yn anfon i ddweud wrth bawb drwy'r ardal i gyd. Roedd pobl yn dod â phawb oedd yn sâl ato
Matt WelBeibl 14:36  ac yn pledio arno i adael iddyn nhw gyffwrdd y taselau ar ei glogyn. Roedd pawb oedd yn ei gyffwrdd yn cael eu hiacháu.