Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
GENESIS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 43
Gene WelBeibl 43:2  Pan oedd yr ŷd ddaethon nhw ag e o'r Aifft wedi gorffen, dyma Jacob yn dweud wrth ei feibion, “Ewch yn ôl i brynu ychydig mwy o fwyd.”
Gene WelBeibl 43:3  Ond dyma Jwda'n dweud wrtho, “Roedd y dyn wedi'n rhybuddio ni, ‘Gewch chi ddim dod i'm gweld i oni bai fod eich brawd gyda chi.’
Gene WelBeibl 43:4  Os gwnei di anfon Benjamin gyda ni, awn ni i lawr i brynu bwyd i ti.
Gene WelBeibl 43:5  Ond os wyt ti ddim yn fodlon iddo ddod, wnawn ni ddim mynd chwaith. Dwedodd y dyn, ‘Gewch chi ddim dod i'm gweld i oni bai fod eich brawd gyda chi.’”
Gene WelBeibl 43:6  “Pam wnaethoch chi beth mor wirion â dweud wrth y dyn fod gynnoch chi frawd arall?” meddai Israel.
Gene WelBeibl 43:7  “Roedd y dyn yn ein holi ni'n fanwl amdanon ni'n hunain a'n teuluoedd,” medden nhw. “Roedd yn gofyn, ‘Ydy'ch tad chi'n dal yn fyw? Oes gynnoch chi frawd arall?’ Wnaethon ni ddim byd ond ateb ei gwestiynau. Sut oedden ni i fod i wybod y byddai'n dweud, ‘Dewch â'ch brawd i lawr yma’?”
Gene WelBeibl 43:8  Yna dyma Jwda yn dweud wrth ei dad, Israel, “Anfon y bachgen gyda fi. Gallwn ni baratoi i fynd yn syth, er mwyn i ni i gyd gael byw a dim marw – ti a ninnau a'n plant.
Gene WelBeibl 43:9  Dw i'n addo ar fy llw, bydda i'n edrych ar ei ôl e. Cei di fy nal i'n gyfrifol amdano. Os na ddof i ag e'n ôl a'i osod yma o dy flaen di, bydda i'n euog yn dy olwg di am byth.
Gene WelBeibl 43:10  Petaen ni heb lusgo'n traed bydden ni wedi bod yno ac yn ôl ddwywaith!”
Gene WelBeibl 43:11  Felly dyma Israel, eu tad, yn dweud wrthyn nhw, “O'r gorau, ond gwnewch hyn: Ewch â pheth o gynnyrch gorau'r wlad yn eich paciau, yn anrheg i'r dyn – ychydig o falm a mêl, gwm pêr, myrr, cnau pistasio ac almon.
Gene WelBeibl 43:12  Ewch â dwbl yr arian gyda chi. Ewch â'r arian oedd yng ngheg eich sachau yn ôl. Camgymeriad oedd hynny mae'n siŵr.
Gene WelBeibl 43:13  Ac ewch â'ch brawd gyda chi. Ewch, ar unwaith, i weld y dyn.
Gene WelBeibl 43:14  A boed i'r Duw sy'n rheoli popeth wneud iddo fod yn garedig atoch chi, a gadael i Simeon a Benjamin ddod adre. Os oes rhaid i mi golli fy mhlant, rhaid i mi dderbyn hynny.”
Gene WelBeibl 43:15  Felly i ffwrdd â nhw gyda dwbl yr arian, yr anrheg, a Benjamin. Dyma nhw'n teithio i lawr i'r Aifft a sefyll o flaen Joseff.
Gene WelBeibl 43:16  Pan welodd Joseff fod Benjamin gyda nhw, dyma fe'n dweud wrth brif swyddog ei dŷ, “Dos â'r dynion i mewn i'r tŷ. Lladd anifail i ginio. Byddan nhw'n bwyta gyda mi ganol dydd.”
Gene WelBeibl 43:17  Felly dyma'r gwas yn gwneud hynny ac yn mynd â nhw i dŷ Joseff.
Gene WelBeibl 43:18  Roedden nhw'n dechrau ofni go iawn pan gawson nhw eu cymryd i dŷ Joseff. “Mae wedi dod â ni yma o achos yr arian oedd wedi'i roi yn ein sachau y tro dwetha,” medden nhw. “Mae'n mynd i'n dal ni, ein gwneud ni'n gaethweision a chymryd yr asynnod.”
Gene WelBeibl 43:19  Felly dyma nhw'n mynd at brif swyddog tŷ Joseff oedd wrth y drws, a dweud wrtho,
Gene WelBeibl 43:20  “Syr. Daethon ni i lawr y tro cyntaf i brynu ŷd.
Gene WelBeibl 43:21  Ar ein ffordd adre dyma ni'n stopio dros nos ac agor ein sachau, a dyna lle roedd arian pob un ohonon ni yng ngheg ei sach – roedd yr arian i gyd yno! Felly dŷn ni wedi dod â'r cwbl yn ôl.
Gene WelBeibl 43:22  A dŷn ni wedi dod â mwy o arian gyda ni i brynu bwyd. Does gynnon ni ddim syniad pwy roddodd yr arian yn ein sachau ni.”
Gene WelBeibl 43:23  “Mae popeth yn iawn,” meddai'r swyddog. “Peidiwch bod ag ofn. Mae'n rhaid bod eich Duw chi, a Duw eich tad, wedi rhoi'r arian yn ôl yn eich sachau. Gwnes i dderbyn eich arian chi.” A dyma fe'n dod â Simeon allan atyn nhw.
Gene WelBeibl 43:24  Ar ôl i'r swyddog fynd â nhw i dŷ Joseff, rhoddodd ddŵr iddyn nhw i olchi eu traed, a bwydodd eu hasynnod nhw.
Gene WelBeibl 43:25  A dyma nhw'n paratoi'r anrheg ar gyfer pan fyddai Joseff yn dod ganol dydd. Roedden nhw wedi clywed eu bod nhw'n mynd i fwyta gydag e.
Gene WelBeibl 43:26  Pan ddaeth Joseff adre, dyma nhw'n cyflwyno'r anrhegion iddo, ac yn ymgrymu o'i flaen.
Gene WelBeibl 43:27  Gofynnodd iddyn nhw sut oedden nhw. “Sut mae'ch tad yn cadw?” meddai. “Roeddech chi'n dweud ei fod mewn oed. Ydy e'n dal yn fyw?”
Gene WelBeibl 43:28  “Mae dy was, ein tad, yn fyw ac yn iach,” medden nhw. A dyma nhw'n ymgrymu yn isel o'i flaen.
Gene WelBeibl 43:29  Yna dyma Joseff yn gweld ei frawd Benjamin, mab ei fam. “Ai hwn ydy'r brawd bach y sonioch chi amdano?” gofynnodd. Ac meddai wrth Benjamin, “Bendith Duw arnat ti fy machgen i.”
Gene WelBeibl 43:30  Ond yna roedd rhaid i Joseff frysio allan o'r ystafell. Roedd ei deimladau at ei frawd yn cael y gorau arno, ac roedd ar fin torri i lawr i grio. Aeth i ystafell breifat ac wylo yno.
Gene WelBeibl 43:31  Ar ôl golchi ei wyneb daeth yn ôl allan. Gan reoli ei deimladau, dyma fe'n gorchymyn dod â'r bwyd o'u blaenau.
Gene WelBeibl 43:32  Roedd lleoedd ar wahân wedi'u gosod iddo fe, i'w frodyr, ac i'r Eifftiaid oedd yn bwyta gydag e. (Doedd Eifftiaid ddim yn gallu bwyta gyda Hebreaid. Byddai gwneud hynny yn tabŵ.)
Gene WelBeibl 43:33  Cafodd y brodyr eu gosod i eistedd o'i flaen mewn trefn, o'r hynaf i'r ifancaf. Ac roedden nhw'n edrych ar ei gilydd wedi'u syfrdanu.
Gene WelBeibl 43:34  Rhoddodd Joseff beth o'r bwyd oedd wedi'i osod o'i flaen e iddyn nhw. Roedd digon o fwyd i bump o ddynion wedi'i roi o flaen Benjamin! A buon nhw'n yfed gydag e nes roedden nhw wedi meddwi.