Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I CHRONICLES
Prev Up Next
Chapter 12
I Ch WelBeibl 12:1  Dyma enwau'r dynion wnaeth ymuno gyda Dafydd yn Siclag, pan oedd yn dal i guddio oddi wrth Saul fab Cish. (Roedden nhw'n rhai o'r rhyfelwyr wnaeth frwydro drosto,
I Ch WelBeibl 12:2  ac yn gallu defnyddio bwa saeth neu ffon dafl gyda'r llaw dde a'r chwith. Roedden nhw o lwyth Benjamin, sef yr un llwyth â Saul):
I Ch WelBeibl 12:3  Achieser oedd yr arweinydd, a Joash, meibion Shemaa o Gibea; Jesiel a Pelet, meibion Asmafeth; Beracha, Jehw o Anathoth,
I Ch WelBeibl 12:4  Ishmaïa o Gibeon (un o arweinwyr y tri deg milwr dewr), Jeremeia, Iachsiel, Iochanan, Iosafad o Gedera,
I Ch WelBeibl 12:5  Elwsai, Ierimoth, Bealeia, Shemareia, Sheffateia o Charwff,
I Ch WelBeibl 12:6  Elcana, Ishïa, Asarel, Ioeser, Iashofam, o glan Cora,
I Ch WelBeibl 12:8  Dyma rai o lwyth Gad yn dod at Dafydd i'w gaer yn yr anialwch. Roedd y rhain yn ddynion dewr, yn filwyr wedi profi eu hunain mewn rhyfel. Roedden nhw'n cario tarianau a gwaywffyn. Roedd golwg fel llewod arnyn nhw, ac roedden nhw'n gallu rhedeg mor gyflym â gasél ar y bryniau.
I Ch WelBeibl 12:9  Eser oedd y pennaeth, wedyn, mewn trefn, Obadeia, Eliab,
I Ch WelBeibl 12:14  Nhw oedd y capteniaid o lwyth Gad. Roedd cant o ddynion dan y lleiaf ohonyn nhw a dros fil o dan y mwyaf.
I Ch WelBeibl 12:15  Dyma'r rhai oedd wedi croesi'r Iorddonen yn ystod y mis cyntaf, pan oedd hi wedi gorlifo ei glannau i gyd. Roedden nhw wedi gwneud i bawb oedd yn byw yn y dyffrynnoedd, i'r dwyrain ac i'r gorllewin, ffoi o'u blaenau.
I Ch WelBeibl 12:16  Dyma rai o lwyth Benjamin a llwyth Jwda hefyd, yn dod i'r gaer at Dafydd.
I Ch WelBeibl 12:17  Dyma Dafydd yn mynd allan i'w cyfarfod nhw, a dweud, “Os ydych wedi dod yn heddychlon i fy helpu i, yna dw i'n barod i ymuno â chi. Ond os ydych chi wedi dod i fy mradychu i'm gelynion, yna bydd Duw ein hynafiaid yn gweld hynny ac yn eich cosbi. Dw i wedi gwneud dim o'i le i chi.”
I Ch WelBeibl 12:18  A dyma ysbryd yn dod ar Amasai, pennaeth y tri deg, a dyma fe'n canu: “Dŷn ni gyda ti Dafydd! Ar dy ochr di fab Jesse! Heddwch a llwyddiant i ti; a heddwch i'r rhai sy'n dy helpu. Yn wir, mae dy Dduw yn dy helpu.” Felly dyma Dafydd yn eu derbyn nhw ac yn eu gwneud yn gapteiniaid ar griwiau ymosod.
I Ch WelBeibl 12:19  Roedd rhai o lwyth Manasse wedi dod drosodd at Dafydd pan aeth gyda'r Philistiaid i ymladd yn erbyn Saul. Ond wnaethon nhw ddim helpu'r Philistiaid achos, ar ôl trafod, dyma arweinwyr y Philistiaid yn eu hanfon i ffwrdd. Roedden nhw'n wedi trafod â'i gilydd a dweud, “Petai e'n mynd drosodd at ei feistr, Saul, bydden ni'n cael ein lladd!”
I Ch WelBeibl 12:20  Pan oedd Dafydd ar ei ffordd i Siclag, dyma'r dynion yma o lwyth Manasse yn ymuno gydag e: Adnach, Iosafad, Iediael, Michael, Josabad, Elihw a Silthai. Roedden nhw i gyd yn gapteiniaid ar unedau o fil yn Manasse.
I Ch WelBeibl 12:21  Buon nhw'n help mawr i Dafydd pan oedd criwiau o filwyr yn ymosod, am eu bod yn filwyr dewr ac yn gapteiniaid yn y fyddin.
I Ch WelBeibl 12:22  Yr adeg yna roedd dynion yn dod drosodd at Dafydd bob dydd, nes bod ei fyddin wedi tyfu'n fyddin enfawr.
I Ch WelBeibl 12:23  Dyma gofnod o'r milwyr a'u harweinwyr wnaeth ymuno gyda Dafydd yn Hebron, i'w wneud yn frenin yn lle Saul (fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud):
I Ch WelBeibl 12:24  O lwyth Jwda – 6,800 o filwyr arfog yn cario tarianau a gwaywffyn.
I Ch WelBeibl 12:27  Daeth Jehoiada (arweinydd disgynyddion Aaron) a 3,700 o ddynion,
I Ch WelBeibl 12:29  O lwyth Benjamin (sef y llwyth roedd Saul yn perthyn iddo) – 3,000. Roedd y rhan fwya ohonyn nhw, cyn hynny, wedi bod yn deyrngar i Saul.
I Ch WelBeibl 12:30  O lwyth Effraim – 20,800 o filwyr, pob un yn enwog yn ei glan ei hun.
I Ch WelBeibl 12:31  O hanner llwyth Manasse – 18,000 wedi cael eu dewis i ddod i wneud Dafydd yn frenin.
I Ch WelBeibl 12:32  O lwyth Issachar – 200 o gapteiniaid a'u perthnasau i gyd oddi tanyn nhw. Roedden nhw'n deall arwyddion yr amserau, ac yn gwybod beth oedd y peth gorau i Israel ei wneud.
I Ch WelBeibl 12:33  O lwyth Sabulon – 50,000 o filwyr arfog yn barod i'r frwydr ac yn hollol deyrngar i Dafydd.
I Ch WelBeibl 12:34  O lwyth Nafftali – 1,000 o swyddogion a 37,000 o filwyr yn cario tarianau a gwaywffyn.
I Ch WelBeibl 12:35  O lwyth Dan – 28,600 o ddynion yn barod i ymladd.
I Ch WelBeibl 12:36  O lwyth Asher – 40,000 o filwyr yn barod i ymladd.
I Ch WelBeibl 12:37  O'r ochr draw i afon Iorddonen (llwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse) – 120,000 o ddynion yn cario pob math o arfau.
I Ch WelBeibl 12:38  Roedd y dynion yma i gyd yn barod i fynd i ryfel. Roedden nhw wedi dod i Hebron i wneud Dafydd yn frenin ar Israel gyfan. Ac roedd gweddill pobl Israel yn cytuno mai Dafydd ddylai fod yn frenin.
I Ch WelBeibl 12:39  Buon nhw yno yn gwledda gyda Dafydd am dri diwrnod. Roedd eu perthnasau wedi darparu bwydydd iddyn nhw.
I Ch WelBeibl 12:40  Hefyd roedd pobl eraill, o mor bell ag Issachar, Sabulon a Nafftali, yn dod â bwyd iddyn nhw ar asynnod, camelod, mulod ac ychen. Roedd yno lwythi enfawr o flawd, cacennau ffigys, sypiau o rhesins, gwin, olew olewydd, cig eidion a chig oen. Roedd Israel yn dathlu!