Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ISAIAH
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 51
Isai WelBeibl 51:1  “Gwrandwch arna i, chi sy'n awyddus i wneud beth sy'n iawn, ac yn ceisio'r ARGLWYDD: ystyriwch y graig y cawsoch eich naddu ohoni, a'r chwarel y cawsoch eich cloddio ohoni.
Isai WelBeibl 51:2  Meddyliwch am Abraham, eich tad, a Sara, y cawsoch eich geni iddi. Roedd ar ei ben ei hun pan wnes i alw arno, ond bendithiais e, a'i wneud yn llawer.
Isai WelBeibl 51:3  Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, bydd yn cysuro'i hadfeilion. Bydd yn gwneud ei hanialwch fel Eden, a'i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD. Bydd llawenydd a dathlu i'w clywed ynddi, lleisiau'n diolch a sŵn canu.
Isai WelBeibl 51:4  Gwrandwch arna i, fy mhobl; daliwch sylw, fy nghenedl. Achos bydda i'n dysgu pobl, a bydd fy nghyfiawnder yn olau i'r bobloedd.
Isai WelBeibl 51:5  Dw i ar fin gwneud pethau'n iawn, dw i ar fy ffordd i achub, a bydd fy mraich gref yn rheoli pobloedd. Bydd yr ynysoedd yn troi ata i, ac yn disgwyl yn frwd i mi ddangos fy nerth.
Isai WelBeibl 51:6  Edrychwch i fyny i'r awyr, ac edrychwch ar y ddaear islaw: bydd yr awyr yn gwasgaru fel mwg, y ddaear yn treulio fel dillad, a'r bobl sy'n byw arni yn marw fel gwybed, ond mae fy achubiaeth i yn aros am byth, a'm cyfiawnder ddim yn pallu.
Isai WelBeibl 51:7  Gwrandwch arna i, chi sy'n gwybod beth sy'n iawn, y bobl sydd â'm cyfraith yn eu calonnau. Peidiwch bod ag ofn pan mae pobl feidrol yn eich sarhau chi, na digalonni pan maen nhw'n gwneud sbort.
Isai WelBeibl 51:8  Bydd gwyfyn yn eu bwyta fel dilledyn, a'r pryf dillad yn eu llyncu fel gwlân. Bydd fy nghyfiawnder yn para am byth, a'm hachubiaeth o un genhedlaeth i'r llall.”
Isai WelBeibl 51:9  Deffra, deffra! Dangos dy nerth, o fraich yr ARGLWYDD! Deffra, fel yn yr hen ddyddiau, yn yr amser a fu! Onid ti dorrodd Rahab yn ddarnau, a thrywanu'r ddraig?
Isai WelBeibl 51:10  Onid ti sychodd y môr, a dŵr y dyfnder mawr? Onid ti wnaeth ddyfnder y môr yn ffordd i'r rhai gafodd eu rhyddhau gerdded arni?
Isai WelBeibl 51:11  Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhydd yn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu! Bydd y llawenydd sy'n para am byth yn goron ar eu pennau! Byddan nhw'n cael eu gwefreiddio gan hwyl a gorfoledd, am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.
Isai WelBeibl 51:12  “Fi, fi ydy'r un sy'n eich cysuro chi! Pam wyt ti'n ofni dyn meidrol – pobl feidrol sydd fel glaswellt?
Isai WelBeibl 51:13  Wyt ti wedi anghofio'r ARGLWYDD sydd wedi dy greu di? Yr un wnaeth ledu'r awyr a gosod sylfeini'r ddaear! Pam mae gen ti ofn am dy fywyd drwy'r amser, fod y gormeswr wedi gwylltio ac yn barod i dy daro di i lawr? Ble mae llid y gormeswr beth bynnag?
Isai WelBeibl 51:14  Bydd yr un caeth yn cael ei ryddhau ar frys! Fydd e ddim yn marw yn ei gell nac yn llwgu.
Isai WelBeibl 51:15  Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw di sy'n corddi'r môr yn donnau mawr – yr ARGLWYDD hollbwerus ydy fy enw i.
Isai WelBeibl 51:16  Dw i wedi rhoi neges i ti ei rhannu ac wedi dy amddiffyn di dan gysgod fy llaw; Fi roddodd yr awyr yn ei lle a gwneud y ddaear yn gadarn! A dw i wedi dweud wrth Seion: ‘Fy mhobl i ydych chi!’”
Isai WelBeibl 51:17  Deffra! Deffra! Saf ar dy draed, Jerwsalem – ti sydd wedi yfed o'r gwpan roddodd yr ARGLWYDD i ti yn ei lid! Ti sydd wedi yfed y gwpan feddwol i'w gwaelod!
Isai WelBeibl 51:18  Does yr un o'r meibion gafodd eu geni iddi yn ei harwain; does dim un o'r meibion fagodd hi yn gafael yn ei llaw.
Isai WelBeibl 51:19  Mae dau beth wedi digwydd i ti: llanast a dinistr – pwy sy'n cydymdeimlo gyda ti? newyn a'r cleddyf – sut alla i dy gysuro di?
Isai WelBeibl 51:20  Mae dy blant wedi llewygu! Maen nhw'n gorwedd ar gornel pob stryd, fel antelop wedi'i ddal mewn rhwyd – yn feddw gan ddigofaint yr ARGLWYDD, wedi'u ceryddu gan dy Dduw.
Isai WelBeibl 51:21  Felly, gwrando ar hyn, ti'r un druenus sydd wedi meddwi, ond ddim ar win!
Isai WelBeibl 51:22  Dyma mae dy feistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud, y Duw sy'n dadlau achos ei bobl: “Edrych! Dw i wedi cymryd y gwpan feddwol o dy law di, y gostrel rois i i ti yn fy llid. Does dim rhaid i ti yfed ohoni byth eto!
Isai WelBeibl 51:23  Bydda i'n ei rhoi yn nwylo'r rhai wnaeth dy ormesu a dweud wrthot ti, ‘Gorwedd i lawr, i ni gerdded drosot ti.’ Roedd rhaid i ti roi dy gefn i fod fel stryd i bobl ei sathru.”