Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ACTS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 2
Acts WelBeibl 2:1  Ar ddiwrnod dathlu Gŵyl y Pentecost roedd pawb gyda'i gilydd eto.
Acts WelBeibl 2:2  Ac yn sydyn dyma nhw'n clywed sŵn o'r awyr, fel gwynt cryf yn chwythu drwy'r ystafell lle roedden nhw'n cyfarfod.
Acts WelBeibl 2:3  Ac wedyn roedd fel petai rhywbeth tebyg i fflamau tân yn dod i lawr ac yn gorffwys ar ben pob un ohonyn nhw.
Acts WelBeibl 2:4  Dyma pawb oedd yno yn cael eu llenwi â'r Ysbryd Glân ac yn dechrau siarad mewn ieithoedd eraill. Yr Ysbryd oedd yn eu galluogi nhw i wneud hynny.
Acts WelBeibl 2:5  Bryd hynny roedd Iddewon crefyddol o wahanol wledydd wedi dod i aros yn Jerwsalem.
Acts WelBeibl 2:6  Clywon nhw'r sŵn hefyd, ac roedd tyrfa fawr wedi casglu at ei gilydd i weld beth oedd yn digwydd. Roedden nhw wedi drysu, am fod pob un ohonyn nhw yn clywed ei iaith ei hun yn cael ei siarad.
Acts WelBeibl 2:7  Roedd y peth yn syfrdanol! “Onid o Galilea mae'r bobl yma'n dod?” medden nhw.
Acts WelBeibl 2:8  “Sut maen nhw'n gallu siarad ein hieithoedd ni?”
Acts WelBeibl 2:9  (Roedd Parthiaid yno, a Mediaid, Elamitiaid, pobl o Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia,
Acts WelBeibl 2:10  Phrygia, Pamffilia, yr Aifft, a'r rhan o Libia sydd wrth ymyl Cyrene; pobl oedd ar ymweliad o Rufain
Acts WelBeibl 2:11  – rhai yn Iddewon ac eraill yn bobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig – a hefyd Cretiaid ac Arabiaid) “Maen nhw'n siarad ein hieithoedd ni, ac yn dweud am y pethau rhyfeddol mae Duw wedi'u gwneud!”
Acts WelBeibl 2:12  Dyna lle roedden nhw'n sefyll yn syn, heb ddim clem beth oedd yn digwydd. “Beth sy'n mynd ymlaen?” medden nhw.
Acts WelBeibl 2:13  Ond roedd rhai yno'n gwatwar a dweud, “Maen nhw wedi meddwi!”
Acts WelBeibl 2:14  Dyma Pedr yn codi ar ei draed i annerch y dyrfa, a'r unarddeg arall wrth ei ymyl: “Arweinwyr, bobl Jwdea, a phawb arall sy'n aros yma yn Jerwsalem, gwrandwch yn ofalus – gwna i esbonio i chi beth sy'n digwydd.
Acts WelBeibl 2:15  Dydy'r bobl yma ddim wedi meddwi fel mae rhai ohonoch chi'n dweud. Mae'n rhy gynnar i hynny! Naw o'r gloch y bore ydy hi!
Acts WelBeibl 2:16  “Na, beth sy'n digwydd ydy beth soniodd y proffwyd Joel amdano:
Acts WelBeibl 2:17  ‘Mae Duw yn dweud: Yn y cyfnod olaf Bydda i'n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd. Bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo, bydd dynion ifanc yn cael gweledigaethau, a dynion hŷn yn cael breuddwydion.
Acts WelBeibl 2:18  Bryd hynny bydda i'n tywallt fy Ysbryd ar fy ngweision i gyd, yn ddynion a merched, a byddan nhw'n proffwydo.
Acts WelBeibl 2:19  Bydd pethau rhyfeddol yn digwydd yn yr awyr ac arwyddion gwyrthiol yn digwydd ar y ddaear – gwaed a thân a mwg yn lledu ym mhobman.
Acts WelBeibl 2:20  Bydd yr haul yn troi'n dywyll a'r lleuad yn mynd yn goch fel gwaed cyn i'r diwrnod mawr, rhyfeddol yna ddod, sef, Dydd yr Arglwydd.
Acts WelBeibl 2:21  Bydd pawb sy'n galw ar enw'r Arglwydd yn cael eu hachub.’
Acts WelBeibl 2:22  “Bobl Israel, gwrandwch beth dw i'n ddweud: Dangosodd Duw i chi ei fod gyda Iesu o Nasareth – dych chi'n gwybod hynny'n iawn, am fod Duw wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol drwyddo, a phethau eraill oedd yn dangos pwy oedd e.
Acts WelBeibl 2:23  Roedd Duw'n gwybod ac wedi trefnu ymlaen llaw beth fyddai'n digwydd iddo. Gyda help y Rhufeiniaid annuwiol dyma chi'n ei ladd, drwy ei hoelio a'i hongian ar groes.
Acts WelBeibl 2:24  Ond dyma Duw yn ei godi yn ôl yn fyw a'i ollwng yn rhydd o grafangau marwolaeth. Roedd yn amhosib i farwolaeth ddal gafael ynddo!
Acts WelBeibl 2:25  Dyna'n union ddwedodd y Brenin Dafydd: ‘Gwelais fod yr Arglwydd gyda mi bob amser. Am ei fod yn sefyll wrth fy ochr i fydd dim yn fy ysgwyd i.
Acts WelBeibl 2:26  Felly mae nghalon i'n llawen a'm tafod yn gorfoleddu; mae fy nghorff yn byw mewn gobaith,
Acts WelBeibl 2:27  am na fyddi di'n fy ngadael i gyda'r meirw, gadael i'r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd.
Acts WelBeibl 2:28  Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi; bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydd.’
Acts WelBeibl 2:29  “Frodyr a chwiorydd, mae'n amlwg bod y Brenin Dafydd ddim yn sôn amdano'i hun. Buodd farw a chafodd ei gladdu ganrifoedd yn ôl, ac mae ei fedd yn dal gyda ni heddiw.
Acts WelBeibl 2:30  Ond roedd Dafydd yn broffwyd, ac yn gwybod fod Duw wedi addo y byddai un o'i ddisgynyddion yn eistedd ar ei orsedd, sef y Meseia.
Acts WelBeibl 2:31  Roedd yn sôn am rywbeth fyddai'n digwydd yn y dyfodol. Sôn am y Meseia'n dod yn ôl yn fyw oedd Dafydd pan ddwedodd na chafodd ei adael gyda'r meirw ac na fyddai ei gorff y pydru'n y bedd!
Acts WelBeibl 2:32  A dyna sydd wedi digwydd! – mae Duw wedi codi Iesu yn ôl yn fyw, a dŷn ni'n lygad-dystion i'r ffaith!
Acts WelBeibl 2:33  Bellach mae'n eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. Rhoddodd y Tad yr Ysbryd Glân oedd wedi'i addo, iddo ei dywallt arnon ni. Dyna dych chi wedi'i weld a'i glywed yn digwydd yma heddiw.
Acts WelBeibl 2:34  “Meddyliwch am y peth! – chafodd y Brenin Dafydd mo'i godi i fyny i'r nefoedd, ac eto dwedodd hyn: ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd
Acts WelBeibl 2:35  nes i mi wneud i dy elynion blygu fel stôl i ti orffwys dy draed arni.”’
Acts WelBeibl 2:36  “Felly dw i am i Israel gyfan ddeall hyn: Mae Duw wedi gwneud yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio yn Arglwydd, a Meseia.”
Acts WelBeibl 2:37  Roedd pobl wedi'u hysgwyd i'r byw gan beth ddwedodd Pedr, a dyma nhw'n gofyn iddo ac i'r apostolion eraill, “Frodyr, beth ddylen ni wneud?”
Acts WelBeibl 2:38  Dyma Pedr yn ateb, “Rhaid i chi droi cefn ar eich pechod, a chael eich bedyddio fel arwydd eich bod yn perthyn i Iesu y Meseia a bod Duw yn maddau eich pechodau chi. Wedyn byddwch chi'n derbyn yr Ysbryd Glân yn rhodd gan Dduw.
Acts WelBeibl 2:39  Mae Duw wedi addo hyn i chi ac i'ch disgynyddion, ac i bobl sy'n byw yn bell i ffwrdd – pawb fydd yr Arglwydd ein Duw yn eu galw ato'i hun.”
Acts WelBeibl 2:40  Aeth Pedr yn ei flaen i ddweud llawer iawn mwy wrthyn nhw. Roedd yn eu rhybuddio nhw ac yn apelio'n daer, “Achubwch eich hunain o afael y gymdeithas droëdig yma!”
Acts WelBeibl 2:41  Dyma'r rhai wnaeth gredu beth oedd Pedr yn ei ddweud yn cael eu bedyddio – tua tair mil ohonyn nhw y diwrnod hwnnw!
Acts WelBeibl 2:42  Roedden nhw'n dal ati o ddifri – yn dilyn beth oedd yr apostolion yn ei ddysgu, yn rhannu popeth, yn bwyta a dathlu Swper yr Arglwydd ac yn gweddïo gyda'i gilydd.
Acts WelBeibl 2:43  Roedd rhyw ymdeimlad o ryfeddod dwfn yn eu plith nhw. Roedd yr apostolion yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gyda nhw.
Acts WelBeibl 2:44  Roedd pawb oedd yn credu yn teimlo'u bod nhw'n un teulu, ac yn rhannu popeth gyda'i gilydd.
Acts WelBeibl 2:45  Roedden nhw'n gwerthu eu heiddo er mwyn gallu helpu pwy bynnag oedd mewn angen.
Acts WelBeibl 2:46  Roedden nhw'n dal ati i gyfarfod bob dydd yng nghwrt y deml, ac yn bwyta a dathlu Swper yr Arglwydd yn nhai ei gilydd.
Acts WelBeibl 2:47  Roedden nhw'n moli Duw, ac roedd agwedd pobl tuag atyn nhw yn bositif iawn. Roedd mwy a mwy o bobl yn ymuno â nhw, ac yn cael eu hachub gan Dduw, bob dydd.