Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
HABAKKUK
Up
1 2 3
Chapter 1
Haba WelBeibl 1:1  Y neges gafodd y proffwyd Habacuc gan yr ARGLWYDD:
Haba WelBeibl 1:2  “ARGLWYDD, am faint mwy rhaid i mi alw cyn i ti fy ateb i? Dw i'n gweiddi, ‘Trais!’ ond ti ddim yn achub.
Haba WelBeibl 1:3  Pam wyt ti'n caniatáu y fath anghyfiawnder? Pam wyt ti'n gadael i'r fath ddrygioni fynd yn ei flaen? Does dim i'w weld ond dinistr a thrais! Dim byd ond ffraeo a mwy o wrthdaro!
Haba WelBeibl 1:4  Mae'r gyfraith wedi colli ei grym, a does dim cyfiawnder byth. Mae pobl ddrwg yn bygwth pobl ddiniwed, a chyfiawnder wedi'i dwistio'n gam.”
Haba WelBeibl 1:5  “Edrychwch ar y cenhedloedd, a cewch sioc go iawn. Mae rhywbeth ar fin digwydd fyddwch chi ddim yn ei gredu, petai rhywun yn dweud wrthoch chi!
Haba WelBeibl 1:6  Dw i'n codi'r Babiloniaid – y genedl greulon a gwyllt sy'n ysgubo ar draws y byd yn concro a dwyn cartrefi pobl eraill.
Haba WelBeibl 1:7  Maen nhw'n codi braw ac arswyd ar bawb. Maen nhw'n falch ac yn gwneud fel y mynnant.
Haba WelBeibl 1:8  Mae eu ceffylau yn gyflymach na'r llewpard, ac yn fwy siarp na bleiddiaid yn y nos. Maen nhw'n carlamu am bellter enfawr, ac yn disgyn fel fwlturiaid ar ysglyfaeth.
Haba WelBeibl 1:9  Trais ydy eu hunig fwriad. Maen nhw'n hollol benderfynol, ac yn casglu carcharorion rif y tywod.
Haba WelBeibl 1:10  Maen nhw'n gwneud sbort o frenhinoedd, ac yn chwerthin ar lywodraethwyr. Dydy caer amddiffynnol yn ddim byd ond jôc iddyn nhw; maen nhw'n codi rampiau, yn gwarchae a gorchfygu.
Haba WelBeibl 1:11  Yna i ffwrdd â nhw fel y gwynt! Dynion sy'n addoli eu grym milwrol; a byddan nhw'n cael eu galw i gyfri.”
Haba WelBeibl 1:12  “Ond ARGLWYDD, ti ydy'r Duw oedd ar waith yn yr hen ddyddiau! Ti ydy'r Duw Sanctaidd, fyddi di byth yn marw! ARGLWYDD, ti'n eu defnyddio nhw i farnu! Ein Craig, rwyt ti wedi'u penodi nhw i gosbi!
Haba WelBeibl 1:13  Mae dy lygaid yn rhy lân i edrych ar ddrygioni! Sut alli di esgusodi annhegwch? Sut wyt ti'n gallu dioddef pobl mor dwyllodrus? Sut alli di eistedd yn dawel tra mae pobl ddrwg yn llyncu pobl sy'n well na nhw?
Haba WelBeibl 1:14  Rwyt ti'n gwneud pobl fel pysgod, neu greaduriaid y môr heb neb i'w harwain.
Haba WelBeibl 1:15  Mae'r gelyn yn eu dal nhw gyda bachyn; mae'n eu llusgo nhw yn y rhwyd a daflodd. Wrth eu casglu gyda'i rwyd bysgota mae'n dathlu'n llawen ar ôl gwneud mor dda.
Haba WelBeibl 1:16  Wedyn mae'n cyflwyno aberthau ac yn llosgi arogldarth i'w rwydau. Nhw sy'n rhoi bywyd bras iddo, a digonedd i'w fwyta.
Haba WelBeibl 1:17  Ydy e'n mynd i gael dal ati i wagio ei rwydi, a dinistrio gwledydd yn ddidrugaredd?
Chapter 2
Haba WelBeibl 2:1  Dw i'n mynd i sefyll ar y tŵr gwylio, ac edrych allan o wal y ddinas. Disgwyl i weld beth fydd Duw yn ei ddweud, a sut fydd e'n ateb y gŵyn sydd gen i.”
Haba WelBeibl 2:2  A dyma'r ARGLWYDD yn ateb: “Ysgrifenna'r neges yma yn glir ar lechi, i'r negeswr sy'n rhedeg allu ei ddarllen yn hawdd.
Haba WelBeibl 2:3  Mae'n weledigaeth o beth sy'n mynd i ddigwydd; mae'n dangos sut fydd pethau yn y diwedd. Os nad ydy e'n digwydd yn syth, bydd yn amyneddgar – mae'n siŵr o ddod ar yr amser iawn.
Haba WelBeibl 2:4  A dyma'r neges: Mae'r gelyn mor falch a'i gymhellion yn ddrwg, ond bydd yr un cyfiawn yn byw drwy ei ffyddlondeb.
Haba WelBeibl 2:5  Bydd gwin ei lwyddiant yn achos cwymp i'r gelyn balch, anfodlon. Mae ganddo chwant bwyd fel y bedd; fel marwolaeth, dydy e byth yn fodlon. Dyna pam mae'r gelyn yn casglu ac yn concro un wlad ar ôl y llall.
Haba WelBeibl 2:6  Bydd y gwledydd hynny yn ei wawdio ryw ddydd! Byddan nhw'n gwneud hwyl am ei ben ar gân! – ‘Gwae'r un sy'n cymryd eiddo oddi ar bobl! (Am faint mae hyn i ddigwydd?) Gwneud ei hun yn gyfoethog drwy elwa ar draul eraill!’
Haba WelBeibl 2:7  Bydd y bobl wyt ti mewn dyled iddyn nhw yn codi heb unrhyw rybudd. Byddan nhw'n deffro'n sydyn, yn dy ddychryn ac yn cymryd dy eiddo di.
Haba WelBeibl 2:8  Am dy fod ti wedi dwyn oddi ar lawer o wledydd, bydd y rhai sydd ar ôl yn dwyn oddi arnat ti. Bydd hyn yn digwydd am dy fod wedi lladd cymaint o bobl, a dinistrio gwledydd a dinasoedd.
Haba WelBeibl 2:9  Gwae chi sydd wedi ennill cyfoeth i'ch teulu drwy fanteisio'n annheg ar bobl eraill. Chi sydd wedi gwneud yn siŵr fod eich nyth eich hunain yn saff – yn uchel, allan o gyrraedd unrhyw berygl.
Haba WelBeibl 2:10  Mae eich sgam wedi dwyn cywilydd ar eich teulu. Drwy ddinistrio cymaint o wledydd dych chi wedi dwyn dinistr arnoch eich hunain.
Haba WelBeibl 2:11  Bydd y cerrig yn waliau dy dŷ yn gweiddi allan, a'r trawstiau pren yn tystio yn dy erbyn.
Haba WelBeibl 2:12  Gwae'r un sy'n tywallt gwaed i adeiladu dinas, ac yn gosod ei sylfeini ar anghyfiawnder.
Haba WelBeibl 2:13  Gwylia di! Mae'r ARGLWYDD hollbwerus wedi datgan: Bydd ymdrechion y bobloedd yn cael eu llosgi. Bydd holl lafur y gwledydd i ddim byd.
Haba WelBeibl 2:14  Fel mae'r môr yn llawn dop o ddŵr, bydd pawb drwy'r byd yn gwybod mor wych ydy'r ARGLWYDD.
Haba WelBeibl 2:15  Gwae'r un sy'n gorfodi pobl eraill i yfed y gwin sy'n cael ei dywallt o gwpan dy ddigofaint. Eu meddwi nhw er mwyn edrych arnyn nhw'n noeth.
Haba WelBeibl 2:16  Byddi di'n feddw o gywilydd, nid mawredd! Dy dro di i oryfed a dangos dy rannau preifat. Mae cwpan digofaint yr ARGLWYDD yn dod i ti! Byddi'n chwydu cywilydd yn lle brolio dy ysblander mawreddog!
Haba WelBeibl 2:17  Byddi'n talu am ddinistrio coedwigoedd Libanus! Byddi'n dychryn am dy fywyd am i ti ladd yr holl fywyd gwyllt yno; am dy fod ti wedi lladd cymaint o bobl, a dinistrio gwledydd a dinasoedd.
Haba WelBeibl 2:18  Ydy delw wedi'i gerfio o unrhyw werth? Neu eilun o fetel sy'n camarwain pobl? Pam fyddai'r crefftwr wnaeth ei lunio yn ei drystio? Rhyw ‛dduw‛ diwerth sydd ddim yn gallu siarad!
Haba WelBeibl 2:19  Gwae'r un sy'n dweud wrth ddarn o bren, ‘Deffra!’ neu wrth garreg fud, ‘Gwna rywbeth!’ Ydy peth felly'n gallu rhoi arweiniad? Mae wedi'i orchuddio'n grand gydag aur neu arian, ond does dim bywyd ynddo!
Haba WelBeibl 2:20  Ond mae'r ARGLWYDD yn ei balas sanctaidd. Ust! Mae'r byd i gyd yn fud o'i flaen!”
Chapter 3
Haba WelBeibl 3:2  ARGLWYDD, dw i wedi clywed beth rwyt ti'n gallu ei wneud. Mae'n syfrdanol! Gwna'r un peth eto yn ein dyddiau ni. Dangos dy nerth yn ein dyddiau. Er dy fod yn ddig, dangos drugaredd aton ni!
Haba WelBeibl 3:3  Dw i'n gweld Duw yn dod eto o Teman; a'r Un Sanctaidd o Fynydd Paran. Saib Mae ei ysblander yn llenwi'r awyr, ac mae'r ddaear i gyd yn ei foli.
Haba WelBeibl 3:4  Mae e'n disgleirio fel golau llachar. Daw mellten sy'n fforchio o'i law, lle mae'n cuddio ei nerth.
Haba WelBeibl 3:5  Mae'r pla yn mynd allan o'i flaen, a haint yn ei ddilyn.
Haba WelBeibl 3:6  Pan mae'n sefyll mae'r ddaear yn crynu; pan mae'n edrych mae'r gwledydd yn dychryn. Mae'r mynyddoedd hynafol yn dryllio, a'r bryniau oesol yn suddo, wrth iddo deithio'r hen ffyrdd.
Haba WelBeibl 3:7  Dw i'n gweld pebyll llwyth Cwshan mewn panig, a llenni pebyll Midian yn crynu.
Haba WelBeibl 3:8  Ydy'r afonydd wedi dy gynhyrfu di, ARGLWYDD? Wyt ti wedi gwylltio gyda'r afonydd? Wyt ti wedi digio gyda'r môr? Ai dyna pam wyt ti wedi dringo i dy gerbyd? – cerbyd dy fuddugoliaeth.
Haba WelBeibl 3:9  Mae dy fwa wedi'i dynnu allan, a dy saethau yn barod i ufuddhau i ti. Saib Mae afonydd yn llifo ac yn hollti'r ddaear.
Haba WelBeibl 3:10  Mae'r mynyddoedd yn gwingo wrth dy weld yn dod. Mae'n arllwys y glaw, a'r storm ar y môr yn rhuo a'r tonnau'n cael eu taflu'n uchel.
Haba WelBeibl 3:11  Mae'r haul a'r lleuad yn aros yn llonydd; mae fflachiadau dy saethau, a golau llachar dy waywffon yn eu cuddio.
Haba WelBeibl 3:12  Rwyt ti'n stompio drwy'r ddaear yn wyllt, a sathru'r gwledydd dan draed.
Haba WelBeibl 3:13  Ti'n mynd allan i achub dy bobl; i achub y gwas rwyt wedi'i eneinio. Ti'n taro arweinydd y wlad ddrwg, a'i gadael yn noeth o'i phen i'w chynffon. Saib
Haba WelBeibl 3:14  Ti'n trywanu ei milwyr gyda'u picellau eu hunain, wrth iddyn nhw ruthro ymlaen i'n chwalu ni. Roedden nhw'n chwerthin a dathlu wrth gam-drin y tlawd yn y dirgel.
Haba WelBeibl 3:15  Roedd dy geffylau yn sathru'r môr, ac yn gwneud i'r dŵr ewynnu.
Haba WelBeibl 3:16  Pan glywais y sŵn, roedd fy mol yn corddi, a'm gwefusau'n crynu. Roedd fy nghorff yn teimlo'n wan, a'm coesau'n gwegian. Dw i'n mynd i ddisgwyl yn dawel i ddydd trybini ddod ar y bobl sy'n ymosod arnon ni.
Haba WelBeibl 3:17  Pan mae'r goeden ffigys heb flodeuo, a'r grawnwin heb dyfu yn y winllan; Pan mae'r coed olewydd wedi methu, a dim cnydau ar y caeau teras; Pan does dim defaid yn y gorlan, nac ychen yn y beudy;
Haba WelBeibl 3:18  Drwy'r cwbl, bydda i'n addoli'r ARGLWYDD ac yn dathlu'r Duw sydd yn fy achub i!
Haba WelBeibl 3:19  Mae'r ARGLWYDD, fy meistr, yn rhoi nerth i mi, ac yn gwneud fy nhraed mor saff â'r carw sy'n crwydro'r ucheldir garw. I'r arweinydd cerdd: ar offerynnau llinynnol.