Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ISAIAH
Prev Up Next
Chapter 29
Isai WelBeibl 29:1  Gwae Ariel! Ariel, y ddinas lle roedd Dafydd yn byw! Mae'r blynyddoedd yn mynd heibio a'r gwyliau yn pasio yn eu tro.
Isai WelBeibl 29:2  Ond dw i'n mynd i'w phoenydio, a bydd yn griddfan ac ochneidio. Bydd Ariel yn allor i aberthu i mi.
Isai WelBeibl 29:3  Bydda i'n gwersylla o dy gwmpas, yn gwarchae arnat hefo byddin ac offer gwarchae i ymosod arnat ti.
Isai WelBeibl 29:4  Byddi'n cael dy dynnu i lawr, a byddi'n galw o'r pridd; bydd dy eiriau fel rhywun yn mwmian o'r llwch. Byddi'n swnio fel ysbryd yn codi o'r pridd; bydd dy eiriau fel rhywun yn sibrwd o'r llwch.
Isai WelBeibl 29:5  A bydd y dyrfa greulon ddaeth yn dy erbyn yn cael ei malu fel llwch mân. Bydd y dyrfa o ormeswyr fel us yn cael ei chwythu i ffwrdd. Yn sydyn, mewn chwinciad,
Isai WelBeibl 29:6  bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn eu cosbi gyda tharan, daeargryn a sŵn byddarol, gyda corwynt, storm, a thân yn dinistrio.
Isai WelBeibl 29:7  A bydd yr holl genhedloedd wnaeth ryfela yn erbyn Ariel – ymosod arni, ei gwarchae a'i gormesu – fel breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos.
Isai WelBeibl 29:8  Bydd fel rhywun sy'n llwgu'n breuddwydio ei fod yn bwyta, ac yna'n deffro a'i fol yn dal yn wag; neu rywun sydd â syched arno yn breuddwydio ei fod yn yfed, ac yna'n deffro yn teimlo'n wan a'i geg yn sych grimp. Felly bydd hi ar yr holl genhedloedd sy'n rhyfela yn erbyn Mynydd Seion.
Isai WelBeibl 29:9  Arhoswch. Cewch eich syfrdanu! Ydych chi'n hollol ddall? Wedi meddwi – ond ddim ar win! Yn chwil – ond ddim ar gwrw!
Isai WelBeibl 29:10  Mae'r ARGLWYDD wedi'ch gwneud chi'n gysglyd. Mae e wedi cau eich llygaid chi'r proffwydi, ac wedi rhoi mwgwd dros eich pennau chi sy'n cael gweledigaethau.
Isai WelBeibl 29:11  Mae pob gweledigaeth fel neges mewn dogfen sydd wedi'i selio. Mae'n cael ei rhoi i rywun sy'n gallu darllen, gan ofyn iddo, “Darllen hwn i mi”, ond mae hwnnw'n ateb, “Alla i ddim, mae wedi'i selio.”
Isai WelBeibl 29:12  Yna mae'n cael ei rhoi i rywun sydd ddim yn gallu darllen, gan ofyn i hwnnw, “Darllen hwn i mi”, a'i ateb e ydy, “Dw i ddim yn gallu darllen.”
Isai WelBeibl 29:13  Dyma ddwedodd y Meistr: Mae'r bobl yma'n dod ata i ac yn dweud pethau gwych amdana i, ond mae eu calonnau'n bell oddi wrtho i. Dydy eu haddoliad nhw yn ddim ond traddodiad dynol wedi'i ddysgu iddyn nhw.
Isai WelBeibl 29:14  Felly, dw i'n mynd i syfrdanu'r bobl yma dro ar ôl tro gydag un rhyfeddod ar ôl y llall. Ond bydd doethineb y deallus yn darfod, a chrebwyll pobl glyfar wedi'i guddio.
Isai WelBeibl 29:15  Gwae'r rhai sy'n ceisio cuddio'u cynlluniau oddi wrth yr ARGLWYDD, y rhai sy'n gweithio yn y tywyllwch, ac yn dweud, “Pwy sy'n ein gweld ni?” “Pwy sy'n gwybod amdanon ni?”
Isai WelBeibl 29:16  Dych chi mor droëdig! Ydy'r crochenydd i gael ei ystyried fel clai? Fel petai'r hyn gafodd ei greu yn dweud am yr un a'i gwnaeth, “Wnaeth e mohono i!” Neu'r hyn gafodd ei siapio yn dweud am yr un a'i siapiodd, “Dydy e'n deall dim!”
Isai WelBeibl 29:17  Yn fuan iawn, oni fydd Libanus yn cael ei throi'n berllan, a Carmel yn cael ei ystyried yn goedwig.
Isai WelBeibl 29:18  Bryd hynny, bydd y byddar yn clywed geiriau o lyfr, a bydd llygaid pobl ddall yn gweld ar ôl bod mewn tywyllwch dudew.
Isai WelBeibl 29:19  Bydd y rhai sy'n cael eu gorthrymu yn llawenhau yn yr ARGLWYDD, a'r bobl dlotaf yn gorfoleddu yn Un Sanctaidd Israel.
Isai WelBeibl 29:20  Fydd dim gormeswyr o hynny ymlaen, a bydd y rhai sy'n gwawdio yn peidio â bod; bydd pawb sy'n dal ati i wneud drwg yn cael eu torri i ffwrdd –
Isai WelBeibl 29:21  y rhai sy'n gwneud i rywun edrych fel troseddwr, ac yn gosod trap i'r un sy'n erlyn yn y llys wrth giatiau'r ddinas, a gwneud iddo droi ymaith achos cyfiawn gyda dadl wag.
Isai WelBeibl 29:22  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth Deulu Jacob – y Duw brynodd ryddid i Abraham: Fydd Jacob ddim yn cael ei gywilyddio eto! Fydd ei wyneb ddim yn gwelwi eto!
Isai WelBeibl 29:23  Achos pan fyddan nhw'n gweld eu plant a beth fydda i wedi'i wneud yn eu plith, byddan nhw'n anrhydeddu fy enw i. Bydd pobl yn anrhydeddu Un Sanctaidd Jacob Ac yn dangos parch go iawn at Dduw Israel.
Isai WelBeibl 29:24  Bydd y rhai sydd wedi mynd ar gyfeiliorn yn dod i ddeall, a'r rhai sy'n cwyno o hyd wedi dysgu gwers.