ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 45
Isai | WelBeibl | 45:1 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth Cyrus, yr un mae wedi'i eneinio, yr un mae wedi gafael yn ei law, iddo sathru gwledydd o'i flaen a diarfogi brenhinoedd, yr un mae wedi agor drysau iddo heb adael unrhyw giât ar gau: | |
Isai | WelBeibl | 45:2 | “Dw i'n mynd o dy flaen di i fwrw waliau dinasoedd i lawr, dryllio drysau pres a thorri'r barrau haearn. | |
Isai | WelBeibl | 45:3 | Dw i'n mynd i roi i ti drysorau sydd yn y tywyllwch, stôr o gyfoeth wedi'i guddio o'r golwg – er mwyn i ti wybod mai fi, yr ARGLWYDD, Duw Israel, sydd wedi dy alw di wrth dy enw. | |
Isai | WelBeibl | 45:4 | Dw i wedi dy alw di wrth dy enw er mwyn fy ngwas Jacob, ac er mwyn Israel, yr un dw i wedi'i ddewis. Dw i'n mynd i roi teitl i ti, er nad wyt ti'n fy nabod. | |
Isai | WelBeibl | 45:5 | Fi ydy'r ARGLWYDD a does dim un arall; does dim duw ar wahân i mi. Dw i'n mynd i dy arfogi di, er nad wyt ti'n fy nabod. | |
Isai | WelBeibl | 45:6 | Dw i eisiau i bawb, o'r dwyrain i'r gorllewin, wybod fod neb arall ond fi. Fi ydy'r ARGLWYDD a does dim un arall. | |
Isai | WelBeibl | 45:7 | Fi sy'n rhoi golau, ac yn creu twyllwch, yn dod â heddwch ac yn creu trwbwl – Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cwbl. | |
Isai | WelBeibl | 45:8 | Arllwys law i lawr, o awyr! Glawiwch gyfiawnder, gymylau! Agor, ddaear, er mwyn i achubiaeth dyfu, ac i degwch flaguro. Fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi gwneud hyn.” | |
Isai | WelBeibl | 45:9 | Gwae'r sawl sy'n dadlau gyda'i Wneuthurwr, ac yntau'n ddim byd ond darn o lestr wedi torri ar lawr! Ydy'r clai yn dweud wrth y crochenydd, “Beth yn y byd wyt ti'n wneud?” neu, “Does dim dolen ar dy waith”? | |
Isai | WelBeibl | 45:10 | Gwae'r un sy'n dweud wrth dad, “Beth wyt ti'n ei genhedlu?” neu wrth fam, “Beth wyt ti'n ei eni?” | |
Isai | WelBeibl | 45:11 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – Un Sanctaidd Israel wnaeth ei siapio: “Dych chi'n fy holi am ddyfodol fy mhlant? Dych chi am ddweud wrtho i beth i'w wneud? | |
Isai | WelBeibl | 45:12 | Fi wnaeth y ddaear, a chreu'r ddynoliaeth arni. Fi fy hun wnaeth ledu'r awyr a rhoi trefn ar y sêr. | |
Isai | WelBeibl | 45:13 | A fi sydd wedi codi Cyrus i achub ac wedi gwneud y ffordd o'i flaen yn rhwydd. Bydd e'n ailadeiladu fy ninas i, ac yn gollwng fy mhobl gafodd eu caethgludo yn rhydd heb unrhyw dâl na gwobr,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
Isai | WelBeibl | 45:14 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd cyfoeth yr Aifft ac enillion Affrica a'r Sabeaid tal yn dod yn eiddo i ti. Byddan nhw'n dy ddilyn di mewn cadwyni, yn plygu o dy flaen ac yn pledio: ‘Dim ond gyda ti mae Duw, a does dim duw arall o gwbl!’” | |
Isai | WelBeibl | 45:16 | Bydd y rhai sy'n cerfio eilunod yn teimlo cywilydd ac embaras – byddan nhw i gyd yn sleifio i ffwrdd mewn cywilydd. | |
Isai | WelBeibl | 45:17 | Mae Israel yn saff gyda'r ARGLWYDD ac yn cael ei hachub am byth! Fydd hi ddim yn profi cywilydd nac embaras byth bythoedd! | |
Isai | WelBeibl | 45:18 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, sef Crëwr y nefoedd, yr unig Dduw, a wnaeth y ddaear, ei siapio a'i gosod yn ei lle – nid i fod yn ddiffaith, ond i bobl fyw arni: “Fi ydy'r ARGLWYDD, does dim un arall. | |
Isai | WelBeibl | 45:19 | Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol, mewn rhyw le tywyll. Wnes i ddim dweud wrth blant Jacob, ‘Edrychwch amdana i i ddim pwrpas.’ – Dw i, yr ARGLWYDD, yn dweud beth sy'n iawn, ac yn dweud y gwir. | |
Isai | WelBeibl | 45:20 | Dewch yma! Dewch ata i gyda'ch gilydd, chi ffoaduriaid y cenhedloedd! Dydy'r rhai sy'n cario delwau pren yn gwybod dim, na'r rhai sy'n gweddïo ar dduwiau sydd ddim yn gallu achub! | |
Isai | WelBeibl | 45:21 | Cyflwynwch eich tystiolaeth – gadewch iddyn nhw drafod gyda'i gilydd! Pwy ddwedodd am hyn ymlaen llaw? Pwy soniodd am y peth o'r dechrau? Onid fi, yr ARGLWYDD? Does dim duw arall yn bod ar wahân i mi! Fi ydy'r Duw cyfiawn sy'n achub – does dim un arall! | |
Isai | WelBeibl | 45:22 | Dewch o ben draw'r byd; trowch ata i i gael eich achub! Achos fi ydy Duw, a does dim un arall. | |
Isai | WelBeibl | 45:23 | Dw i wedi mynd ar fy llw, dw i'n dweud y gwir, fydda i'n cymryd dim yn ôl: ‘Bydd pob glin yn plygu i mi, a phob tafod yn tyngu i mi! | |
Isai | WelBeibl | 45:24 | Byddan nhw'n dweud: “Ydy, mae'r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn a chryf!”’” Bydd y rhai gododd yn ei erbyn yn troi ato mewn cywilydd. | |