ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 60
Isai | WelBeibl | 60:1 | “Cod! Disgleiria! Mae dy olau wedi dod. Mae ysblander yr ARGLWYDD wedi gwawrio arnat! | |
Isai | WelBeibl | 60:2 | Er bod tywyllwch yn gorchuddio'r ddaear a thywyllwch dudew dros y gwledydd, bydd yr ARGLWYDD yn tywynnu arnat ti, a bydd ei ysblander i'w weld arnat. | |
Isai | WelBeibl | 60:3 | Bydd cenhedloedd yn dod at dy oleuni, a brenhinoedd yn troi at dy wawr ddisglair. | |
Isai | WelBeibl | 60:4 | Edrych o dy gwmpas! Maen nhw i gyd yn ymgasglu! Maen nhw'n dod atat ti! Bydd dy feibion yn dod o wledydd pell, a dy ferched yn cael eu cario adre. | |
Isai | WelBeibl | 60:5 | Pan weli hyn byddi'n wên i gyd; bydd dy galon yn curo wrth brofi'r wefr. Bydd cyfoeth y moroedd yn cael ei roi i ti, a chyfoeth y gwledydd yn dod atat. | |
Isai | WelBeibl | 60:6 | Bydd gyrroedd o gamelod yn llenwi dy strydoedd, camelod o Midian, Effa a Sheba. Byddan nhw'n cario aur a thus, ac yn canu mawl i'r ARGLWYDD. | |
Isai | WelBeibl | 60:7 | Bydd holl ddefaid a geifr Cedar yn cael eu casglu atat, a bydd hyrddod Nebaioth yna i ti eu defnyddio; byddan nhw'n aberthau derbyniol ar fy allor i. Bydda i'n gwneud fy nhŷ hardd yn harddach fyth! | |
Isai | WelBeibl | 60:9 | Mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu, a llongau masnach Tarshish ar y blaen. Maen nhw'n dod â dy blant o bell, a'u harian a'u haur hefo nhw, i'w cyflwyno i'r ARGLWYDD dy Dduw – Un Sanctaidd Israel, sydd wedi dy anrhydeddu. | |
Isai | WelBeibl | 60:10 | Bydd estroniaid yn ailadeiladu dy waliau, a'u brenhinoedd nhw yn dy wasanaethu di. Achos, er fy mod wedi dy daro di pan oeddwn i'n ddig, dw i am ddangos tosturi a bod yn garedig. | |
Isai | WelBeibl | 60:11 | Bydd dy giatiau ar agor drwy'r amser; fyddan nhw ddim yn cael eu cau ddydd na nos – er mwyn i gyfoeth y cenhedloedd a'u brenhinoedd gael ei gario i mewn. | |
Isai | WelBeibl | 60:12 | Bydd y wlad neu'r deyrnas sy'n gwrthod dy wasanaethu yn syrthio; bydd y gwledydd hynny'n cael eu dinistrio'n llwyr. | |
Isai | WelBeibl | 60:13 | Bydd coed gorau Libanus yn dod i ti – coed cypres, planwydd a phinwydd i harddu fy nghysegr, ac anrhydeddu'r lle mae fy nhraed i'n gorffwys. | |
Isai | WelBeibl | 60:14 | Bydd plant y rhai oedd yn dy ormesu yn dod o dy flaen ac ymgrymu. Bydd y rhai oedd yn dy gasáu yn plygu'n isel ar y llawr wrth dy draed di. Byddan nhw'n dy alw di yn ‘Ddinas yr ARGLWYDD’, a ‘Seion Un Sanctaidd Israel’. | |
Isai | WelBeibl | 60:15 | Yn lle bod wedi dy wrthod, a dy gasáu, a neb yn mynd drwot ti, bydda i'n dy wneud di'n destun balchder am byth – yn llawenydd o un genhedlaeth i'r llall. | |
Isai | WelBeibl | 60:16 | Byddi'n yfed o laeth y cenhedloedd, ac yn sugno bronnau brenhinoedd. Wedyn byddi di'n gwybod mai fi ydy'r ARGLWYDD sy'n dy achub, Ie, fi, Un Cryf Jacob, sy'n dy ollwng di'n rhydd. | |
Isai | WelBeibl | 60:17 | Bydda i'n dod ag aur yn lle pres ac arian yn lle haearn, pres yn lle coed a haearn yn lle cerrig. ‛Heddwch‛ fydd yn llywodraethu arnat, a ‛Cyfiawnder‛ fydd dy feistr. | |
Isai | WelBeibl | 60:18 | Fydd neb yn gweiddi ‘Trais!’ yn y wlad byth eto, a fydd dim dinistr o fewn dy ffiniau. Byddi'n galw dy waliau yn ‛Achubiaeth‛ a dy giatiau yn ‛Foliant‛. | |
Isai | WelBeibl | 60:19 | Fydd dim angen yr haul i oleuo'r dydd, na llewyrch y lleuad yn olau yn y nos. Yr ARGLWYDD fydd dy olau di am byth, a bydd ysblander dy Dduw yn disgleirio arnat. | |
Isai | WelBeibl | 60:20 | Fydd dy haul ddim yn machlud byth mwy, a llewyrch y lleuad ddim yn cilio; yr ARGLWYDD fydd dy olau di am byth, a bydd dy gyfnod o alaru drosodd. | |
Isai | WelBeibl | 60:21 | Bydd dy bobl i gyd yn gyfiawn, ac yn etifeddu'r tir am byth. Nhw ydy'r blagur dw i wedi'i blannu, gwaith fy llaw sy'n fy anrhydeddu. | |