ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 65
Isai | WelBeibl | 65:1 | “Rôn i yno i rai oedd ddim yn gofyn amdana i; dangosais fy hun i rai oedd ddim yn chwilio amdana i. Dywedais, ‘Dyma fi! Dyma fi!’ wrth wlad oedd ddim yn galw ar fy enw. | |
Isai | WelBeibl | 65:2 | Bues i'n estyn fy llaw drwy'r amser at bobl oedd yn gwrthryfela – pobl yn gwneud beth oedd ddim yn dda, ac yn dilyn eu mympwy eu hunain. | |
Isai | WelBeibl | 65:3 | Roedden nhw'n fy nigio o hyd ac o hyd – yn aberthu yn y gerddi paganaidd ac yn llosgi aberthau ar allor frics; | |
Isai | WelBeibl | 65:4 | yn eistedd yng nghanol beddau, ac yn treulio'r nos mewn mannau cudd; yn bwyta cig moch a phowlenni o gawl gyda cig aflan ynddo; | |
Isai | WelBeibl | 65:5 | neu'n dweud, ‘Cadw draw! Dw i'n rhy lân i ti ddod yn agos ata i!’ Mae pobl fel yna'n gwneud i mi wylltio, mae fel tân sy'n dal i losgi drwy'r dydd. | |
Isai | WelBeibl | 65:6 | Edrychwch! Mae wedi'i gofnodi o mlaen i! Dw i ddim am ei ddiystyru – dw i'n mynd i dalu'n ôl yn llawn: Talu'n ôl i bob un ohonyn nhw am eu pechodau, | |
Isai | WelBeibl | 65:7 | a phechodau eu hynafiaid hefyd.” —meddai'r ARGLWYDD. “Roedden nhw'n llosgi arogldarth ar y mynyddoedd, ac yn fy enllibio i ar y bryniau. Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw'n llawn am bopeth wnaethon nhw o'r dechrau cyntaf!” | |
Isai | WelBeibl | 65:8 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fel mae sudd da mewn swp o rawnwin, a rhywun yn dweud, ‘Paid difetha fe; mae daioni ynddo’, felly y bydda i'n gwneud er mwyn fy ngweision – fydda i ddim yn eu dinistrio nhw i gyd. | |
Isai | WelBeibl | 65:9 | Bydda i'n rhoi disgynyddion i Jacob, a phobl i etifeddu fy mynyddoedd yn Jwda. Bydd y rhai dw i wedi'u dewis yn eu meddiannu, a bydd fy ngweision yn byw yno. | |
Isai | WelBeibl | 65:10 | Bydd Saron yn borfa i ddefaid, a Dyffryn Achor, sy'n lle i wartheg orwedd, yn eiddo i'r bobl sy'n fy ngheisio i. | |
Isai | WelBeibl | 65:11 | Ond chi sydd wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, a diystyru fy mynydd cysegredig i; chi sy'n gosod bwrdd i'r duw ‘Ffawd’, ac yn llenwi cwpanau o win i'r duw ‛Tynged‛. | |
Isai | WelBeibl | 65:12 | Dw i'n eich condemnio i gael eich lladd â'r cleddyf! Byddwch chi'n penlinio i gael eich dienyddio – achos roeddwn i'n galw, a wnaethoch chi ddim ateb; roeddwn i'n siarad, a wnaethoch chi ddim gwrando. Roeddech chi'n gwneud pethau oeddwn i'n eu casáu, ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.” | |
Isai | WelBeibl | 65:13 | Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Bydd fy ngweision yn bwyta, a chithau'n llwgu. Bydd fy ngweision yn yfed, a chithau'n sychedu. Bydd fy ngweision yn llawen, a chithau'n cael eich cywilyddio. | |
Isai | WelBeibl | 65:14 | Bydd fy ngweision yn canu'n braf, a chithau'n wylo mewn poen, ac yn griddfan mewn gwewyr meddwl. | |
Isai | WelBeibl | 65:15 | Bydd eich enw yn cael ei ddefnyddio fel melltith gan y rhai dw i wedi'u dewis. Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn dy ladd di! Ond bydd enw hollol wahanol gan ei weision. | |
Isai | WelBeibl | 65:16 | Bydd pwy bynnag drwy'r byd sy'n derbyn bendith yn ei gael wrth geisio bendith gan y Duw ffyddlon; a'r sawl yn unman sy'n tyngu llw o ffyddlondeb yn ei gael wrth dyngu llw i enw'r Duw ffyddlon. Bydd trafferthion y gorffennol yn cael eu hanghofio, ac wedi'u cuddio o'm golwg. | |
Isai | WelBeibl | 65:17 | Achos dw i'n mynd i greu nefoedd newydd a daear newydd! Bydd pethau'r gorffennol wedi'u hanghofio; fyddan nhw ddim yn croesi'r meddwl. | |
Isai | WelBeibl | 65:18 | Ie, dathlwch a mwynhau am byth yr hyn dw i'n mynd i'w greu. Achos dw i'n mynd i greu Jerwsalem i fod yn hyfrydwch, a'i phobl yn rheswm i ddathlu. | |
Isai | WelBeibl | 65:19 | Bydd Jerwsalem yn hyfrydwch i mi, a'm pobl yn gwneud i mi ddathlu. Fydd sŵn crio a sgrechian ddim i'w glywed yno byth eto. | |
Isai | WelBeibl | 65:20 | Fydd babis bach ddim yn marw'n ifanc, na phobl mewn oed yn marw'n gynnar. Bydd rhywun sy'n marw yn gant oed yn cael ei ystyried yn llanc ifanc, a'r un sy'n marw heb gyrraedd y cant yn cael ei ystyried dan felltith. | |
Isai | WelBeibl | 65:21 | Byddan nhw'n adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw; byddan nhw'n plannu gwinllannoedd ac yn bwyta'u ffrwyth. | |
Isai | WelBeibl | 65:22 | Fyddan nhw ddim yn adeiladu tai i rywun arall fyw ynddyn nhw, nac yn plannu i rywun arall fwyta'r ffrwyth. Bydd fy mhobl yn byw mor hir â choeden; bydd y rhai dw i wedi'u dewis yn cael mwynhau'n llawn waith eu dwylo. | |
Isai | WelBeibl | 65:23 | Fyddan nhw ddim yn gweithio'n galed i ddim byd; fyddan nhw ddim yn magu plant i'w colli. Byddan nhw'n bobl wedi'u bendithio gan yr ARGLWYDD, a'u plant gyda nhw hefyd. | |
Isai | WelBeibl | 65:24 | Bydda i'n ateb cyn iddyn nhw alw arna i; bydda i wedi clywed cyn iddyn nhw orffen siarad. | |