Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOB
Prev Up Next
Chapter 33
Job WelBeibl 33:1  Felly, Job, gwrando beth sydd gen i i'w ddweud. Gwranda'n ofalus ar fy ngeiriau i.
Job WelBeibl 33:2  Edrych, dw i am agor fy ngheg, a gadael i'm tafod ddweud ei ddweud.
Job WelBeibl 33:3  Dw i'n mynd i siarad yn onest, a dweud fy marn yn gwbl agored.
Job WelBeibl 33:4  Ysbryd Duw luniodd fi; anadl yr Un sy'n rheoli popeth sy'n fy nghadw i'n fyw.
Job WelBeibl 33:5  Ateb fi, os wyt ti'n gallu; gwna dy safiad, a dadlau yn fy erbyn i.
Job WelBeibl 33:6  Dŷn ni'n dau yr un fath yng ngolwg Duw; ces innau hefyd fy ngwneud o'r pridd.
Job WelBeibl 33:7  Felly does dim byd i ti ei ofni; fydda i ddim yn llawdrwm arnat ti.
Job WelBeibl 33:8  Dyma wyt ti wedi'i ddweud, (clywais dy eiriau di'n glir):
Job WelBeibl 33:9  ‘Dw i'n ddieuog, heb wneud dim o'i le; dw i'n lân, a heb bechu.
Job WelBeibl 33:10  Ond mae Duw wedi troi yn fy erbyn; mae'n fy nhrin i fel gelyn.
Job WelBeibl 33:11  Mae wedi rhoi fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwylio popeth dw i'n ei wneud.’
Job WelBeibl 33:12  Ti ddim yn iawn. A gwna i ddweud pam: mae Duw yn fwy na dyn.
Job WelBeibl 33:13  Pam wyt ti'n dadlau yn ei erbyn? Oes rhaid iddo ateb pob cwestiwn?
Job WelBeibl 33:14  Mae Duw yn siarad mewn un ffordd un tro, ac mewn ffordd wahanol dro arall – ond er hynny dydy pobl ddim yn deall.
Job WelBeibl 33:15  Mewn breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos, pan mae pobl yn cysgu'n drwm, pan maen nhw'n gorwedd ar eu gwlâu,
Job WelBeibl 33:16  mae e'n gwneud i bobl wrando – yn eu dychryn nhw gyda rhybudd
Job WelBeibl 33:17  i beidio gwneud rhywbeth, a'u stopio nhw rhag bod mor falch.
Job WelBeibl 33:18  Mae'n achub bywyd rhywun o bwll y bedd, rhag iddo groesi afon marwolaeth.
Job WelBeibl 33:19  Mae'n disgyblu un sy'n sâl yn ei wely a chryndod di-baid drwy ei esgyrn.
Job WelBeibl 33:20  Mae bwyd yn codi cyfog arno; does ganddo awydd dim byd blasus.
Job WelBeibl 33:21  Mae wedi colli cymaint o bwysau, nes bod ei esgyrn i gyd yn y golwg.
Job WelBeibl 33:22  Mae'n agos iawn at y bedd, bron â'i gipio gan negeswyr marwolaeth.
Job WelBeibl 33:23  Ond os daw angel at ei ochr (dim ond un o'i blaid, un o blith y mil) i ddadlau ei hawl drosto –
Job WelBeibl 33:24  yna bydd Duw yn drugarog wrtho. ‘Achubwch e rhag mynd i lawr i'r bedd; dw i wedi cael y pris i'w ollwng yn rhydd.’
Job WelBeibl 33:25  Yna bydd ei groen yn iach fel pan oedd yn ifanc; bydd ei egni yn ôl fel yn nyddiau ieuenctid!
Job WelBeibl 33:26  Bydd yn gweddïo, a bydd Duw'n gwrando; bydd yn gweiddi'n llawen wrth fynd i'w bresenoldeb, a bydd Duw yn ei adfer i berthynas iawn ag e'i hun.
Job WelBeibl 33:27  Bydd yn canu o flaen pobl, ‘Pechais, a gwneud y peth anghywir, ond ches i mo'r gosb rôn i'n ei haeddu.
Job WelBeibl 33:28  Mae e wedi fy achub o afael y bedd; dw i'n dal yn fyw, ac yn gweld y golau!’
Job WelBeibl 33:29  Yn wir, mae Duw yn gwneud hyn drosodd a throsodd:
Job WelBeibl 33:30  achub bywyd o bwll y bedd, iddo gael gweld goleuni bywyd.
Job WelBeibl 33:31  Edrych, Job, gwranda arna i; gwrando'n dawel i mi gael siarad.
Job WelBeibl 33:32  Os oes gen ti rywbeth i'w ddweud, ateb fi; dywed, achos dw i eisiau dangos dy fod ti'n iawn.
Job WelBeibl 33:33  Ond os oes gen ti ddim i'w ddweud, gwranda arna i; gwrando'n dawel, ac fe ddysga i beth sy'n ddoeth i ti.”