Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JUDGES
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21
Prev Up Next
Chapter 20
Judg WelBeibl 20:1  Dyma bobl Israel yn dod at ei gilydd yn un dyrfa fawr o flaen yr ARGLWYDD yn Mitspa. Roedden nhw wedi dod o bobman – o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, ac o dir Gilead i'r dwyrain o afon Iorddonen.
Judg WelBeibl 20:2  A dyma arweinwyr llwythau Israel yn cymryd eu lle – roedd 400,000 o filwyr traed wedi'u harfogi yno i gyd.
Judg WelBeibl 20:3  Clywodd llwyth Benjamin fod gweddill pobl Israel wedi dod at ei gilydd yn Mitspa. A dyma bobl Israel yn gofyn, “Sut allai peth mor ofnadwy fod wedi digwydd?”
Judg WelBeibl 20:4  Atebodd y dyn o lwyth Lefi (gŵr y wraig oedd wedi cael ei llofruddio), “Rôn i a'm partner wedi cyrraedd Gibea, sydd ar dir Benjamin, i aros dros nos.
Judg WelBeibl 20:5  A dyma arweinwyr Gibea yn dod ar fy ôl i, ac yn amgylchynu'r tŷ lle roedden ni'n aros. Roedden nhw am fy lladd i. Ond yn lle hynny, dyma nhw'n treisio a cham-drin fy mhartner i nes buodd hi farw.
Judg WelBeibl 20:6  Roedd yn beth hollol erchyll i bobl Israel ei wneud. Felly dyma fi'n cymryd ei chorff, ei dorri'n ddarnau, ac anfon y darnau i bob rhan o dir Israel.
Judg WelBeibl 20:7  Rhaid i chi, bobl Israel, benderfynu beth ddylid ei wneud!”
Judg WelBeibl 20:8  Dyma nhw'n cytuno'n unfrydol, “Does neb ohonon ni am fynd adre – neb o gwbl –
Judg WelBeibl 20:9  nes byddwn ni wedi delio gyda phobl Gibea. Rhaid i ni ymosod ar y dre. Gwnawn ni dynnu coelbren i benderfynu pa lwyth ddylai arwain yr ymosodiad.
Judg WelBeibl 20:10  Bydd degfed ran dynion pob llwyth yn gyfrifol am nôl bwyd i'r milwyr. Pan fydd y fyddin yn cyrraedd Gibea, byddan nhw'n eu cosbi nhw am wneud peth mor erchyll yn Israel.”
Judg WelBeibl 20:11  Felly aeth dynion Israel i gyd gyda'i gilydd i ymosod ar dref Gibea.
Judg WelBeibl 20:12  Dyma nhw'n anfon negeswyr at lwyth Benjamin i ofyn, “Sut allech chi fod wedi gwneud peth mor ofnadwy?
Judg WelBeibl 20:13  Anfonwch y rapsgaliwns yn Gibea sydd wedi gwneud hyn aton ni, i gael eu dienyddio. Rhaid cael gwared â'r drwg yma o Israel.” Ond doedd pobl llwyth Benjamin ddim yn fodlon cydweithredu.
Judg WelBeibl 20:14  Yn lle hynny, dyma nhw'n dod o'u trefi i Gibea, a chasglu yno i fynd i ryfel yn erbyn gweddill Israel.
Judg WelBeibl 20:15  Roedd dau ddeg chwe mil o filwyr arfog o lwyth Benjamin wedi ymuno gyda'r saith mil o filwyr profiadol oedd yn Gibea ei hun.
Judg WelBeibl 20:16  Roedd y fyddin yn cynnwys saith gant o ddynion llaw chwith oedd yn gallu taro targed i drwch blewyn gyda charreg o ffon dafl.
Judg WelBeibl 20:17  Roedd gan weddill Israel bedwar can mil o filwyr arfog profiadol.
Judg WelBeibl 20:18  Cyn y frwydr, aethon nhw i Bethel i ofyn i Dduw, “Pwy sydd i arwain y frwydr yn erbyn llwyth Benjamin?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Llwyth Jwda sydd i arwain.”
Judg WelBeibl 20:19  Yn gynnar y bore wedyn, dyma fyddin Israel yn paratoi i ymosod ar Gibea.
Judg WelBeibl 20:20  Dyma nhw'n mynd allan i ymladd yn erbyn llwyth Benjamin, a threfnu'u hunain yn rhengoedd yn barod i ymosod ar Gibea.
Judg WelBeibl 20:21  Ond daeth milwyr llwyth Benjamin allan o Gibea, a lladd dau ddeg dwy fil o filwyr Israel yn y frwydr y diwrnod hwnnw.
Judg WelBeibl 20:22  Ond wnaeth byddin Israel ddim digalonni. Dyma nhw'n mynd allan eto, a sefyll mewn trefn yn yr un lle â'r diwrnod cynt.
Judg WelBeibl 20:23  Roedden nhw wedi mynd yn ôl i Bethel, ac wedi bod yn crio o flaen yr ARGLWYDD nes iddi nosi. Roedden nhw wedi gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylen ni fynd allan eto i ymladd yn erbyn ein brodyr o lwyth Benjamin, neu ddim?” Ac roedd yr ARGLWYDD wedi ateb, “Ewch i ymosod arnyn nhw!”
Judg WelBeibl 20:24  Felly dyma fyddin Israel yn mynd allan i ymladd yn erbyn llwyth Benjamin yr ail ddiwrnod.
Judg WelBeibl 20:25  Ond daeth milwyr Benjamin allan o Gibea unwaith eto, a lladd un deg wyth mil arall o filwyr Israel.
Judg WelBeibl 20:26  Felly dyma fyddin Israel i gyd yn mynd yn ôl i Bethel. Buon nhw'n eistedd yno'n crio o flaen yr ARGLWYDD, a wnaethon nhw ddim bwyta o gwbl nes roedd hi wedi nosi. Buon nhw hefyd yn cyflwyno aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Judg WelBeibl 20:27  Dyna lle roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar y pryd, gyda Phineas (mab Eleasar ac ŵyr i Aaron) yn gwasanaethu fel offeiriad. Dyma nhw'n gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylen ni fynd allan eto i ymladd yn erbyn ein brodyr o lwyth Benjamin, neu roi'r gorau iddi?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ewch i ymosod arnyn nhw! Dw i'n mynd i'w rhoi nhw'n eich dwylo chi.”
Judg WelBeibl 20:28  Dyna lle roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar y pryd, gyda Phineas (mab Eleasar ac ŵyr i Aaron) yn gwasanaethu fel offeiriad. Dyma nhw'n gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylen ni fynd allan eto i ymladd yn erbyn ein brodyr o lwyth Benjamin, neu roi'r gorau iddi?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ewch i ymosod arnyn nhw! Dw i'n mynd i'w rhoi nhw'n eich dwylo chi.”
Judg WelBeibl 20:29  Felly dyma Israel yn anfon dynion i guddio o gwmpas Gibea, i ymosod yn ddirybudd.
Judg WelBeibl 20:30  Y diwrnod wedyn, dyma'r fyddin yn mynd allan eto i ymosod ar lwyth Benjamin. Roedden nhw'n sefyll yn rhengoedd fel o'r blaen, yn barod i ymosod ar Gibea.
Judg WelBeibl 20:31  A dyma fyddin Benjamin yn dod allan i ymladd yn eu herbyn, gan adael y dref heb ei hamddiffyn. Dyma nhw'n dechrau taro byddin Israel, fel o'r blaen. Cafodd tua tri deg o filwyr Israel eu lladd yng nghefn gwlad ac ar y ffyrdd (sef y ffordd sy'n mynd i Bethel, a'r un sy'n mynd i Gibea).
Judg WelBeibl 20:32  Felly roedd byddin Benjamin yn meddwl eu bod nhw'n eu curo nhw fel o'r blaen. Ond tacteg Israel oedd ffoi o'u blaenau nhw er mwyn eu harwain nhw i ffwrdd o dref Gibea i'r priffyrdd.
Judg WelBeibl 20:33  Pan ddaeth byddin Israel i Baal-tamar, dyma nhw'n ailgasglu a threfnu'u hunain yn rhengoedd, yn barod i ymladd. Yr un pryd, dyma'r milwyr oedd yn cuddio i'r gorllewin o Gibea yn dod allan
Judg WelBeibl 20:34  ac yn ymosod ar y dref – deg mil o filwyr profiadol i gyd. Roedd y brwydro'n filain, ond doedd gan filwyr Benjamin ddim syniad eu bod nhw ar fin cael crasfa.
Judg WelBeibl 20:35  Dyma'r ARGLWYDD yn taro byddin Benjamin i lawr o flaen milwyr Israel. Cafodd 25,100 o filwyr Benjamin eu lladd.
Judg WelBeibl 20:36  Roedd byddin Benjamin yn gweld ei bod ar ben arnyn nhw! Roedd byddin Israel wedi ffoi o flaen milwyr llwyth Benjamin, gan wybod fod ganddyn nhw ddynion yn cuddio ac yn barod i ymosod ar Gibea.
Judg WelBeibl 20:37  Ac roedd y dynion hynny wedi rhuthro i ymosod ar y dre a lladd pawb oedd yn byw yno.
Judg WelBeibl 20:38  Roedden nhw wedi trefnu i roi arwydd i weddill y fyddin eu bod nhw wedi llwyddo – sef, cynnau tân a gwneud i golofn o fwg godi o'r dref.
Judg WelBeibl 20:39  Dyna pryd fyddai byddin Israel yn troi a dechrau gwrthymosod. Pan oedd milwyr Benjamin wedi lladd rhyw dri deg o filwyr Israel, roedden nhw'n meddwl eu bod nhw'n ennill y frwydr fel o'r blaen.
Judg WelBeibl 20:40  Ond yna dyma nhw'n gweld colofn o fwg yn codi o'r dref. Roedd y dref i gyd ar dân, a mwg yn codi'n uchel i'r awyr.
Judg WelBeibl 20:41  Pan drodd byddin Israel i ymladd, dyma filwyr llwyth Benjamin yn panicio – roedden nhw'n gweld ei bod hi ar ben arnyn nhw.
Judg WelBeibl 20:42  Dyma nhw'n ffoi o flaen byddin Israel, ar hyd y ffordd i'r anialwch. Ond roedden nhw'n methu dianc. Roedd milwyr Israel yn eu taro nhw o bob cyfeiriad.
Judg WelBeibl 20:43  Roedden nhw wedi amgylchynu byddin Benjamin a wnaethon nhw ddim stopio mynd ar eu holau. Roedden nhw'n eu taro nhw i lawr yr holl ffordd i'r dwyrain o Geba.
Judg WelBeibl 20:44  Roedd un deg wyth o filoedd o filwyr gorau llwyth Benjamin wedi'u lladd.
Judg WelBeibl 20:45  Dyma'r gweddill yn dianc i'r anialwch, i gyfeiriad Craig Rimmon. Ond lladdodd byddin Israel bum mil ohonyn nhw ar y ffordd. Dyma nhw'n aros yn dynn ar eu sodlau yr holl ffordd i Gidom, a lladd dwy fil arall.
Judg WelBeibl 20:46  Felly cafodd dau ddeg pum mil o filwyr llwyth Benjamin eu lladd y diwrnod hwnnw – i gyd yn filwyr profiadol.
Judg WelBeibl 20:47  Chwe chant wnaeth lwyddo i ddianc i Graig Rimmon, a buon nhw yno am bedwar mis.
Judg WelBeibl 20:48  Dyma fyddin Israel yn troi'n ôl a mynd drwy drefi Benjamin i gyd, yn lladd popeth byw, pobl ac anifeiliaid. Wedyn roedden nhw'n llosgi'r trefi'n llwyr, bob un.