Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
NUMBERS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 10
Numb WelBeibl 10:2  “Gwnewch ddau utgorn arian – gwaith morthwyl. Maen nhw i gael eu defnyddio i alw'r bobl at ei gilydd, ac i alw'r gwersyll i symud.
Numb WelBeibl 10:3  Pan mae'r ddau utgorn yn cael eu canu gyda'i gilydd, bydd y bobl yn gwybod eu bod i gasglu o flaen mynedfa pabell presenoldeb Duw.
Numb WelBeibl 10:4  Ond os mai un utgorn sy'n canu, dim ond arweinwyr llwythau Israel sydd i ddod.
Numb WelBeibl 10:5  Pan mae un nodyn hir yn cael ei seinio, mae'r rhai sy'n gwersylla i'r dwyrain o'r Tabernacl i symud allan.
Numb WelBeibl 10:6  Wedyn pan mae nodyn hir arall yn cael ei seinio, mae'r rhai sy'n gwersylla ar yr ochr ddeheuol i'w dilyn. Y nodyn hir ydy'r arwydd eu bod i symud allan.
Numb WelBeibl 10:7  Ond i alw pawb at ei gilydd, rhaid canu nodau gwahanol.
Numb WelBeibl 10:8  Meibion Aaron, yr offeiriaid, sydd i ganu'r utgyrn. A dyna fydd y drefn bob amser, ar hyd y cenedlaethau.
Numb WelBeibl 10:9  Ar ôl i chi gyrraedd eich gwlad, os byddwch chi'n mynd i ryfel yn erbyn eich gelynion, rhaid seinio ffanffer ar yr utgyrn yma. Wedyn bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cofio amdanoch chi ac yn eich achub chi o afael eich gelynion.
Numb WelBeibl 10:10  “Canwch yr utgyrn hefyd ar yr adegau hynny pan fyddwch chi'n dathlu – ar y Gwyliau blynyddol ac ar ddechrau pob mis pan fyddwch chi'n cyflwyno'ch offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Bydd yr utgyrn yn eich atgoffa chi i gadw'ch meddyliau ar Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”
Numb WelBeibl 10:11  Ar ddechrau'r ail flwyddyn wedi i bobl Israel ddod allan o'r Aifft (ar yr ugeinfed diwrnod o'r ail fis), dyma'r cwmwl yn codi oddi ar Dabernacl y Dystiolaeth.
Numb WelBeibl 10:12  Felly dyma bobl Israel yn cychwyn ar eu taith o anialwch Sinai. Ac yn y diwedd, dyma'r cwmwl yn aros yn anialwch Paran.
Numb WelBeibl 10:13  Hwn oedd y tro cyntaf iddyn nhw symud, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Numb WelBeibl 10:14  Y llwythau oedd yn gwersylla dan faner Jwda aeth gyntaf, adran wrth adran. Roedd adrannau llwyth Jwda dan arweiniad Nachshon fab Aminadab.
Numb WelBeibl 10:15  Wedyn roedd Nethanel fab Tswár yn arwain llwyth Issachar,
Numb WelBeibl 10:17  Nesaf, dyma'r Tabernacl yn cael ei dynnu i lawr. A dyma'r Gershoniaid a'r Merariaid, oedd yn cario'r Tabernacl, yn mynd allan.
Numb WelBeibl 10:18  Y llwythau oedd yn gwersylla dan faner Reuben aeth nesaf, adran wrth adran. Roedd adrannau llwyth Reuben dan arweiniad Eliswr fab Shedeŵr.
Numb WelBeibl 10:19  Wedyn roedd Shelwmiel fab Swrishadai yn arwain llwyth Simeon,
Numb WelBeibl 10:21  Yna dyma'r Cohathiaid, oedd yn cario offer y cysegr, yn eu dilyn. (Roedd y Tabernacl i fod i gael ei godi eto cyn iddyn nhw gyrraedd.)
Numb WelBeibl 10:22  Y llwythau oedd yn gwersylla dan faner Effraim aeth nesaf, adran wrth adran. Roedd adrannau llwyth Effraim dan arweiniad Elishama fab Amihwd.
Numb WelBeibl 10:23  Wedyn roedd Gamaliel fab Pedatswr yn arwain llwyth Manasse,
Numb WelBeibl 10:25  Ac yna'n olaf, aeth y llwythau oedd yn gwersylla dan faner Dan. Roedd adrannau llwyth Dan dan arweiniad Achieser fab Amishadai.
Numb WelBeibl 10:26  Wedyn roedd Pagiel fab Ochran yn arwain llwyth Asher,
Numb WelBeibl 10:28  Dyna'r drefn aeth pobl Israel allan, adran wrth adran. A dyma nhw'n teithio yn eu blaenau.
Numb WelBeibl 10:29  Dyma Moses yn dweud wrth Chobab (mab i Reuel o Midian, tad-yng-nghyfraith Moses), “Dŷn ni ar ein ffordd i'r wlad mae'r ARGLWYDD wedi addo ei rhoi i ni. Tyrd gyda ni. Byddwn ni'n dy drin di'n dda. Mae'r ARGLWYDD wedi addo pethau gwych i bobl Israel.”
Numb WelBeibl 10:30  Ond atebodd Chobab, “Na, dw i ddim am ddod. Dw i am fynd adre i'm gwlad, at fy mhobl fy hun.”
Numb WelBeibl 10:31  “Paid gadael ni,” meddai Moses. “Gelli di ein tywys ni drwy'r anialwch. Ti'n gwybod am y lleoedd gorau i wersylla.
Numb WelBeibl 10:32  Os doi di, byddi di'n cael rhannu'r holl bethau da sydd gan yr ARGLWYDD ar ein cyfer ni.”
Numb WelBeibl 10:33  Felly dyma nhw'n gadael mynydd yr ARGLWYDD ac yn teithio am dri diwrnod. Ac roedd Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaenau nhw, i ddangos iddyn nhw ble i stopio a gorffwys.
Numb WelBeibl 10:34  Wrth iddyn nhw adael y gwersyll, roedd cwmwl yr ARGLWYDD uwch eu pennau.
Numb WelBeibl 10:35  Pan oedd yr Arch yn dechrau symud, byddai Moses yn gweiddi: “Cod, ARGLWYDD! Boed i dy elynion gael eu gwasgaru, a'r rhai sydd yn dy erbyn ddianc oddi wrthot ti!”
Numb WelBeibl 10:36  A phan oedd yr Arch yn cael ei rhoi i lawr, byddai'n gweiddi: “Gorffwys, ARGLWYDD, gyda'r miloedd ar filoedd o bobl Israel!”