Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PROVERBS
Prev Up Next
Chapter 11
Prov WelBeibl 11:1  Mae'n gas gan yr ARGLWYDD glorian dwyllodrus, ond mae defnyddio pwysau cywir wrth ei fodd.
Prov WelBeibl 11:2  Mae snobyddiaeth yn arwain at gywilydd; pobl wylaidd ydy'r rhai doeth.
Prov WelBeibl 11:3  Mae gonestrwydd yn arwain y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn, ond mae twyll yn dinistrio'r rhai sy'n twyllo.
Prov WelBeibl 11:4  Fydd cyfoeth yn dda i ddim ar ddydd y farn, ond mae byw yn iawn yn achub bywyd.
Prov WelBeibl 11:5  Mae cyfiawnder rhywun gonest yn dangos y ffordd iawn iddo, ond mae'r un sy'n gwneud drwg yn syrthio o achos ei ddrygioni.
Prov WelBeibl 11:6  Mae cyfiawnder rhywun gonest yn ei achub ond mae'r un sy'n twyllo yn cael ei ddal gan ei driciau.
Prov WelBeibl 11:7  Pan mae rhywun drwg yn marw, dyna ni – does dim gobaith; dydy'r cyfoeth oedd ganddo yn dda i ddim bellach.
Prov WelBeibl 11:8  Mae'r cyfiawn yn cael ei achub rhag helyntion, a'r un sy'n gwneud drwg yn gorfod cymryd ei le!
Prov WelBeibl 11:9  Mae'r annuwiol yn dinistrio pobl gyda'i eiriau, ond mae'r cyfiawn yn deall hynny ac yn cael ei arbed.
Prov WelBeibl 11:10  Pan mae'r cyfiawn yn llwyddo mae'r ddinas wrth ei bodd; mae gweiddi llawen ynddi pan mae'r rhai drwg yn cael eu dinistrio.
Prov WelBeibl 11:11  Mae dinas yn ffynnu pan mae pobl dda yn cael eu bendithio, ond mae geiriau pobl ddrwg yn ei dinistrio hi.
Prov WelBeibl 11:12  Does dim sens gan rywun sy'n bychanu pobl eraill; mae'r person call yn cadw'n dawel.
Prov WelBeibl 11:13  Mae'r un sy'n hel clecs yn bradychu cyfrinach, ond mae ffrind go iawn yn cadw cyfrinach.
Prov WelBeibl 11:14  Heb arweiniad clir mae gwlad yn methu; mae llwyddiant yn dod gyda digon o gyngor doeth.
Prov WelBeibl 11:15  Mae gwarantu benthyciad i rywun dieithr yn gofyn am drwbwl; gwell bod yn saff a gwrthod.
Prov WelBeibl 11:16  Mae gwraig hael yn ennill parch; mae dynion creulon yn cipio cyfoeth.
Prov WelBeibl 11:17  Mae person caredig yn gwneud lles iddo'i hun, a rhywun sy'n greulon yn achosi trwbwl iddo'i hun.
Prov WelBeibl 11:18  Dydy'r elw mae pobl ddrwg yn ei wneud yn ddim byd ond rhith, ond mae'r rhai sy'n gweithio dros gyfiawnder yn cael gwobr go iawn.
Prov WelBeibl 11:19  Mae gwir gyfiawnder yn arwain at fywyd, ond dilyn y drwg yn arwain at farwolaeth.
Prov WelBeibl 11:20  Mae'n gas gan yr ARGLWYDD bobl sy'n twyllo, ond mae'r rhai sy'n byw yn onest yn rhoi pleser iddo.
Prov WelBeibl 11:21  Fydd pobl ddrwg yn sicr ddim yn osgoi cosb, ond bydd y rhai sy'n byw'n iawn yn cael mynd yn rhydd.
Prov WelBeibl 11:22  Mae gwraig hardd heb sens fel modrwy aur yn nhrwyn hwch.
Prov WelBeibl 11:23  Dim ond daioni mae'r cyfiawn eisiau'i weld, ond mae gobaith pobl ddrwg yn arwain i ddigofaint.
Prov WelBeibl 11:24  Mae un yn rhoi yn hael, ac yn ennill mwy o gyfoeth, ac un arall yn grintachlyd, ac ar ei golled.
Prov WelBeibl 11:25  Mae'r bobl sy'n fendith i eraill yn llwyddo, a'r rhai sy'n rhoi dŵr i eraill yn cael eu diwallu.
Prov WelBeibl 11:26  Mae'r un sy'n cadw ei ŷd iddo'i hun yn haeddu melltith, ond mae'r un sy'n ei werthu yn cael ei fendithio.
Prov WelBeibl 11:27  Mae'r un sy'n ymdrechu i wneud da yn ennill ffafr, ond drwg ddaw ar y rhai sy'n edrych am helynt.
Prov WelBeibl 11:28  Bydd rhywun sy'n dibynnu ar ei gyfoeth yn syrthio, ond y rhai sy'n byw yn iawn yn blodeuo.
Prov WelBeibl 11:29  Bydd yr un sy'n creu trwbwl i'w deulu yn etifeddu dim; bydd y ffŵl yn gaethwas i rywun sydd wedi bod yn ddoeth.
Prov WelBeibl 11:30  Mae byw yn iawn yn dwyn ffrwyth, fel coeden sy'n rhoi bywyd; ond mae trais yn lladd pobl.
Prov WelBeibl 11:31  Os ydy'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael eu tâl ar y ddaear, beth ddaw o'r rhai drwg sy'n anufudd i Dduw?