Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PROVERBS
Prev Up Next
Chapter 21
Prov WelBeibl 21:1  Mae penderfyniadau y brenin fel sianel ddŵr yn llaw'r ARGLWYDD; mae'n ei arwain i ble bynnag mae e eisiau.
Prov WelBeibl 21:2  Mae pobl bob amser yn meddwl eu bod yn gwneud y peth iawn, ond mae'r ARGLWYDD yn pwyso a mesur y cymhellion.
Prov WelBeibl 21:3  Mae cael rhywun yn gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn well gan yr ARGLWYDD nag aberthau.
Prov WelBeibl 21:4  Mae snobyddiaeth a balchder – sy'n nodweddu pobl ddrwg – yn bechod.
Prov WelBeibl 21:5  Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled, ond dydy brys gwyllt ddim ond yn arwain i dlodi.
Prov WelBeibl 21:6  Mae ffortiwn wedi'i hennill drwy ddweud celwydd fel tarth sy'n diflannu – magl i farwolaeth.
Prov WelBeibl 21:7  Mae pobl ddrwg yn cael eu llusgo i ffwrdd gan eu trais, maen nhw'n gwrthod gwneud beth sy'n iawn.
Prov WelBeibl 21:8  Mae pobl yn gallu bod yn dwyllodrus ac yn rhyfedd, ond mae'r sawl sy'n bur yn gwneud beth sy'n iawn.
Prov WelBeibl 21:9  Mae byw mewn cornel yn yr atig yn well na rhannu cartref gyda gwraig gecrus.
Prov WelBeibl 21:10  Mae person drwg yn ysu am gael gwneud drwg, ac yn dangos dim trugaredd at bobl eraill.
Prov WelBeibl 21:11  Pan mae'r gwawdiwr yn cael ei gosbi mae'r gwirion yn dysgu gwers, ond mae'r person doeth yn dysgu wrth wrando.
Prov WelBeibl 21:12  Mae'r Duw cyfiawn yn gweld cartrefi pobl ddrwg; bydd yn dod â dinistr arnyn nhw.
Prov WelBeibl 21:13  Os ydy rhywun yn gwrthod gwrando ar gri'r tlawd, bydd e'n gweiddi hefyd, a fydd neb yn ei ateb.
Prov WelBeibl 21:14  Mae rhodd gyfrinachol yn tawelu llid, a childwrn yn tewi'r un sydd wedi colli ei dymer.
Prov WelBeibl 21:15  Mae'r rhai cyfiawn wrth eu bodd yn gwneud beth sy'n iawn, ond mae'n ddychryn i bobl ddrwg.
Prov WelBeibl 21:16  Bydd pwy bynnag sy'n crwydro oddi ar y llwybr iawn yn cael ei hun yn gorffwys gyda'r ysbrydion.
Prov WelBeibl 21:17  Bydd y sawl sydd ddim ond eisiau bywyd o bleser yn cael ei hun yn dlawd; dydy gwin a bywyd moethus ddim yn gwneud rhywun yn gyfoethog.
Prov WelBeibl 21:18  Bydd y drwg yn talu'r pris yn lle'r cyfiawn, a'r twyllwr yn diodde yn lle'r un sy'n onest.
Prov WelBeibl 21:19  Mae'n well byw mewn tir anial na gorfod diodde gwraig gecrus a blin.
Prov WelBeibl 21:20  Mae'r person doeth yn cynilo, ond mae person ffôl yn gwario'r cwbl sydd ganddo.
Prov WelBeibl 21:21  Mae'r un sy'n ceisio gwneud beth sy'n iawn a bod yn garedig yn cael bywyd, llwyddiant ac enw da.
Prov WelBeibl 21:22  Mae dyn doeth yn gallu concro dinas sydd â byddin bwerus a bwrw i lawr y gaer roedden nhw'n teimlo'n saff ynddi.
Prov WelBeibl 21:23  Mae'r person sy'n gwylio beth mae'n ei ddweud ac yn ffrwyno'i dafod yn cadw ei hun allan o drafferthion.
Prov WelBeibl 21:24  Mae'r person balch, haerllug – yr un sy'n gwawdio pobl eraill – yn gwneud pethau cwbl ddigywilydd.
Prov WelBeibl 21:25  Mae blys person diog yn ddigon i'w ladd, am ei fod yn gwrthod gweithio â'i ddwylo.
Prov WelBeibl 21:26  Mae'n dyheu ac yn ysu am fwy drwy'r adeg, tra mae'r person cyfiawn yn rhoi yn ddi-baid.
Prov WelBeibl 21:27  Mae'n gas gan Dduw aberth sy'n cael ei gyflwyno gan rywun drwg, yn enwedig os ydy ei fwriad wrth ddod ag e yn ddrwg.
Prov WelBeibl 21:28  Mae tyst celwyddog yn cael ei dewi; y tyst oedd wedi gwrando sy'n cael y gair ola.
Prov WelBeibl 21:29  Mae person drwg yn smalio ac yn bwrw yn ei flaen, ond mae'r person gonest yn meddwl ble mae'n mynd.
Prov WelBeibl 21:30  Does dim doethineb na deall na chyngor sy'n gallu ennill y dydd ar yr ARGLWYDD.
Prov WelBeibl 21:31  Mae milwyr wedi paratoi meirch ar gyfer y rhyfel, ond yr ARGLWYDD sy'n rhoi'r fuddugoliaeth.