PSALMS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150
Chapter 109
| Psal | WelBeibl | 109:2 | Mae pobl ddrwg a thwyllodrus yn siarad yn fy erbyn i, ac yn dweud celwydd amdana i. | |
| Psal | WelBeibl | 109:3 | Maen nhw o'm cwmpas ym mhobman gyda'u geiriau cas; yn ymosod arna i am ddim rheswm. | |
| Psal | WelBeibl | 109:4 | Dw i'n dangos cariad, ac maen nhw'n cyhuddo! Ond dw i'n dal i weddïo drostyn nhw. | |
| Psal | WelBeibl | 109:6 | “Anfon rywun drwg i ymosod arno!” medden nhw, “Gwna i rywun ei gyhuddo a mynd ag e i'r llys! | |
| Psal | WelBeibl | 109:7 | Anfon e i sefyll ei brawf, a chael ei ddedfrydu'n euog! Ystyria ei weddi yn bechod. | |
| Psal | WelBeibl | 109:11 | Gwna i'r un mae mewn dyled iddo gymryd ei eiddo i gyd, ac i bobl ddieithr gymryd ei gyfoeth! | |
| Psal | WelBeibl | 109:13 | Dinistria ei ddisgynyddion i gyd; gwna i enw'r teulu ddiflannu mewn un genhedlaeth! | |
| Psal | WelBeibl | 109:14 | Boed i'r ARGLWYDD gofio drygioni ei gyndadau, a boed i bechod ei fam byth ddiflannu. | |
| Psal | WelBeibl | 109:15 | Boed i'r ARGLWYDD eu cofio nhw bob amser, ac i'w henwau gael eu torri allan o hanes! | |
| Psal | WelBeibl | 109:16 | Dydy e erioed wedi dangos cariad! Mae wedi erlid pobl dlawd ac anghenus, a gyrru'r un sy'n ddigalon i'w farwolaeth. | |
| Psal | WelBeibl | 109:17 | Roedd e wrth ei fodd yn melltithio pobl – felly melltithia di fe! Doedd e byth yn bendithio pobl – cadw fendith yn bell oddi wrtho! | |
| Psal | WelBeibl | 109:18 | Roedd melltithio iddo fel gwisgo'i ddillad! Roedd fel dŵr yn ei socian, neu olew wedi treiddio i'w esgyrn. | |
| Psal | WelBeibl | 109:20 | Boed i'r ARGLWYDD dalu yn ôl i'm cyhuddwyr, y rhai sy'n dweud y pethau drwg yma amdana i. | |
| Psal | WelBeibl | 109:21 | Ond nawr, O ARGLWYDD, fy meistr, gwna rywbeth i'm helpu, er mwyn dy enw da. Mae dy gariad ffyddlon mor dda, felly achub fi! | |
| Psal | WelBeibl | 109:23 | Dw i'n diflannu fel cysgod ar ddiwedd y dydd. Dw i fel locust yn cael ei chwythu i ffwrdd. | |
| Psal | WelBeibl | 109:24 | Mae fy ngliniau yn wan ar ôl mynd heb fwyd; dw i wedi colli pwysau, ac yn denau fel styllen. | |
| Psal | WelBeibl | 109:25 | Dw i'n ddim byd ond testun sbort i bobl! Maen nhw'n edrych arna i ac yn ysgwyd eu pennau. | |
| Psal | WelBeibl | 109:27 | Wedyn bydd pobl yn gwybod mai dyna wyt ti'n wneud, ac mai ti, O ARGLWYDD, sydd wedi fy achub i. | |
| Psal | WelBeibl | 109:28 | Maen nhw'n melltithio, ond bendithia di fi! Wrth iddyn nhw ymosod, drysa di nhw, a bydd dy was yn dathlu! | |
| Psal | WelBeibl | 109:29 | Bydd y cyhuddwyr yn cael eu cywilyddio, byddan nhw'n gwisgo embaras fel clogyn. | |
| Psal | WelBeibl | 109:30 | Ond bydda i'n canu mawl i'r ARGLWYDD; ac yn ei ganmol yng nghanol y dyrfa fawr, | |