I CHRONICLES
Chapter 4
I Ch | WelBeibl | 4:2 | Roedd Reaia fab Shofal yn dad i Iachath. Yna Iachath oedd tad Achwmai a Lahad. Y rhain oedd teuluoedd y Soriaid. | |
I Ch | WelBeibl | 4:3 | Dyma feibion Etam: Jesreel, Ishma ac Idbash: ac enw eu chwaer nhw oedd Hatselelpôni. | |
I Ch | WelBeibl | 4:4 | Penuel oedd tad Gedor, ac Eser oedd tad Chwsha. Roedd y rhain yn ddisgynyddion i Hur, mab hynaf Effrath a hynafiad pobl Bethlehem. | |
I Ch | WelBeibl | 4:6 | Naära oedd mam Achwsam, Cheffer, Temeni, a Haachashtari. Y rhain oedd meibion Naära. | |
I Ch | WelBeibl | 4:9 | Roedd Iabets yn cael ei barchu fwy na'i frodyr. (Rhoddodd ei fam yr enw Iabets iddo am ei bod wedi cael poenau ofnadwy pan gafodd e ei eni.) | |
I Ch | WelBeibl | 4:10 | Gweddïodd Iabets ar Dduw Israel, “Plîs bendithia fi, a rhoi mwy o dir i mi! Cynnal fi! Cadw fi'n saff fel bod dim rhaid i mi ddioddef!” A dyma Duw yn ateb ei weddi. | |
I Ch | WelBeibl | 4:12 | Eshton oedd tad Beth-raffa, Paseach a Techinna (tad Ir-nachash). Dyma bobl Recha. | |
I Ch | WelBeibl | 4:14 | Meonothai oedd tad Offra. Seraia oedd tad Joab, hynafiad y bobl sy'n byw yn Ge-charashîm (sy'n cael yr enw am eu bod nhw yn grefftwyr). | |
I Ch | WelBeibl | 4:17 | Meibion Esra: Jether, Mered, Effer a Ialon. Dyma wraig Mered (Bithia) yn cael plant: Miriam, Shammai, ac Ishbach oedd yn dad i Eshtemoa. | |
I Ch | WelBeibl | 4:18 | Ei wraig e o Jwda oedd mam Iered (tad Gedor), Heber (tad Socho) a Iecwthiel (tad Sanoach). Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Bitheia, merch y Pharo, oedd wedi priodi Mered. | |
I Ch | WelBeibl | 4:19 | Meibion gwraig Hodeia, chwaer Nacham: tad Ceila y Garmiad ac Eshtemoa y Maachathiad. | |
I Ch | WelBeibl | 4:20 | Meibion Shimon: Amnon, Rinna, Ben-chanan, a Tilon. Disgynyddion Ishi: Socheth a Ben-socheth. | |
I Ch | WelBeibl | 4:21 | Meibion Shela fab Jwda: Er (tad Lecha), Lada (tad Maresha), teuluoedd y gweithwyr lliain main yn Beth-ashbea, | |
I Ch | WelBeibl | 4:22 | Iocim, dynion Cosefa, Joash a Saraff – y ddau yn arweinwyr yn Moab a Iashwfi Lechem. (Mae'r hanesion yma yn dod o archifau hynafol.) | |
I Ch | WelBeibl | 4:23 | Roedden nhw'n gwneud crochenwaith, yn byw yn Netaîm a Gedera, ac yn gweithio i'r brenin. | |
I Ch | WelBeibl | 4:27 | Roedd gan Shimei un deg chwech mab a chwe merch. Ond doedd gan ei frodyr ddim llawer o feibion, felly wnaeth llwyth Simeon ddim tyfu cymaint â llwyth Jwda. | |
I Ch | WelBeibl | 4:31 | Beth-marcaboth, Chatsar-swsîm, Beth-biri, a Shaaraim. Y rhain oedd eu trefi nhw nes bod Dafydd yn frenin. | |
I Ch | WelBeibl | 4:33 | a phentrefi eraill o gwmpas y trefi yma yr holl ffordd i Baal. Dyna lle roedden nhw'n byw. Ac roedden nhw'n cadw cofrestr deuluol. | |
I Ch | WelBeibl | 4:38 | Y rhain sydd wedi'u henwi oedd pennau'r teuluoedd. Roedd eu niferoedd yn tyfu'n gyflym, | |
I Ch | WelBeibl | 4:39 | a dyma nhw'n mynd at Fwlch Gedor, i'r dwyrain o'r dyffryn, i chwilio am borfa i'w defaid. | |
I Ch | WelBeibl | 4:40 | Dyma nhw'n dod o hyd i dir pori da yno. Roedd yn wlad eang, ac roedden nhw'n saff ac yn cael llonydd yno. Rhai o ddisgynyddion Cham oedd wedi bod yn byw yno o'u blaenau nhw. | |
I Ch | WelBeibl | 4:41 | Ond pan oedd Heseceia yn frenin ar Jwda, dyma'r dynion oedd wedi'u rhestru yn ymosod ar bentrefi'r Chamiaid, a'r Mewniaid oedd yn byw yno hefyd. Dyma nhw'n eu dinistrio nhw'n llwyr, a chymryd eu tiroedd oddi arnyn nhw, er mwyn cael porfa i'w defaid a'u geifr. | |
I Ch | WelBeibl | 4:42 | Dan arweiniad Plateia, Nearia, Reffaia ac Wssiel (meibion Ishi), dyma bum cant o ddynion o lwyth Simeon yn mynd i fryniau Seir | |