Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOHN
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21
Prev Up Next
Chapter 12
John WelBeibl 12:1  Chwe diwrnod cyn Gŵyl y Pasg cyrhaeddodd Iesu Bethania, lle roedd Lasarus yn byw (y dyn wnaeth Iesu ddod ag e'n ôl yn fyw).
John WelBeibl 12:2  Roedd swper wedi'i drefnu i anrhydeddu Iesu. Roedd Martha yn gweini, a Lasarus yn un o'r rhai oedd yn eistedd gydag Iesu wrth y bwrdd.
John WelBeibl 12:3  Daeth Mair i mewn gyda jar hanner litr o nard pur, oedd yn bersawr drud iawn. Tywalltodd y persawr ar draed Iesu ac wedyn sychu ei draed â'i gwallt. Roedd arogl y persawr i'w glywed drwy'r tŷ i gyd.
John WelBeibl 12:4  Ond yna dyma Jwdas Iscariot (y disgybl oedd yn mynd i fradychu Iesu yn nes ymlaen) yn protestio,
John WelBeibl 12:5  “Roedd y persawr yna'n werth ffortiwn! Dylid bod wedi'i werthu, a rhoi'r arian i bobl dlawd!”
John WelBeibl 12:6  (Doedd e ddim wir yn poeni am y tlodion. Beth oedd tu ôl i'w eiriau oedd y ffaith ei fod yn lleidr. Roedd Iesu a'i ddisgyblion yn rhannu un pwrs, a Jwdas oedd yn gyfrifol amdano, ond byddai'n arfer helpu ei hun i'r arian.)
John WelBeibl 12:7  “Gad lonydd iddi,” meddai Iesu. “Mae hi wedi cadw hwn ar gyfer y diwrnod pan fydda i'n cael fy nghladdu.
John WelBeibl 12:8  Bydd pobl dlawd o gwmpas i chi eu helpu nhw bob amser, ond fydda i ddim yma bob amser.”
John WelBeibl 12:9  Roedd tyrfa fawr o bobl Jwdea wedi darganfod fod Iesu yn Bethania. Dyma nhw'n mynd yno, ddim jest i weld Iesu, ond hefyd i weld Lasarus yr un ddaeth Iesu ag e'n ôl yn fyw.
John WelBeibl 12:10  Ond roedd y prif offeiriaid wedi penderfynu fod rhaid cael gwared â Lasarus hefyd,
John WelBeibl 12:11  am fod llawer o bobl Jwdea wedi'u gadael nhw a dod i gredu yn Iesu o'i achos e.
John WelBeibl 12:12  Y diwrnod wedyn clywodd y dyrfa fawr oedd wedi dod i'r Ŵyl fod Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem.
John WelBeibl 12:13  Dyma nhw'n torri canghennau o'r coed palmwydd a mynd allan i'w gyfarfod gan weiddi, “Hosanna! Clod iddo!” “Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi'i fendithio'n fawr!” “Ie, dyma Frenin Israel!”
John WelBeibl 12:14  Eisteddodd Iesu ar gefn asyn, fel mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd,
John WelBeibl 12:15  “Paid ag ofni, ddinas Jerwsalem. Edrych! dy frenin sy'n dod, ar gefn ebol asen.”
John WelBeibl 12:16  (Doedd y disgyblion ddim wedi deall arwyddocâd hyn i gyd ar y pryd. Dim ond ar ôl i Iesu gael ei anrhydeddu wnaethon nhw sylweddoli fod y pethau yma wedi'u hysgrifennu amdano, a'u bod nhw wedi digwydd iddo.)
John WelBeibl 12:17  Roedd llawer iawn o'r bobl yn y dyrfa wedi gweld Iesu'n galw Lasarus allan o'r bedd a dod ag e'n ôl yn fyw, ac roedden nhw wedi bod yn dweud wrth bawb arall beth ddigwyddodd.
John WelBeibl 12:18  Dyna pam roedd cymaint o bobl wedi mynd allan i'w gyfarfod – roedden nhw wedi clywed am yr arwydd gwyrthiol roedd wedi'i wneud.
John WelBeibl 12:19  Dyma'r Phariseaid yn dweud wrth ei gilydd, “Does dim pwynt! Edrychwch! Mae fel petai'r byd i gyd yn mynd ar ei ôl e!”
John WelBeibl 12:20  Roedd rhai pobl oedd ddim yn Iddewon wedi mynd i addoli yn Jerwsalem adeg Gŵyl y Pasg.
John WelBeibl 12:21  Dyma nhw'n mynd at Philip (oedd yn dod o Bethsaida, Galilea), a gofyn iddo, “Syr, dŷn ni eisiau gweld Iesu.”
John WelBeibl 12:22  Aeth Philip i ddweud wrth Andreas, ac wedyn aeth y ddau ohonyn nhw i ddweud wrth Iesu.
John WelBeibl 12:23  Ymateb Iesu oedd dweud fel yma: “Mae'r amser wedi dod i mi, Mab y Dyn, gael fy anrhydeddu.
John WelBeibl 12:24  Credwch chi fi, os nad ydy hedyn o wenith yn disgyn ar y ddaear a marw, bydd yn aros fel y mae, yn ddim ond un hedyn bach. Ond os bydd yn marw, bydd yn troi yn gnwd o hadau.
John WelBeibl 12:25  Bydd y sawl sy'n meddwl am neb ond fe ei hun yn colli ei fywyd, tra bydd y sawl sy'n rhoi ei hun yn olaf yn y byd yma yn cael bywyd tragwyddol.
John WelBeibl 12:26  Os dych chi am fy ngwasanaethu i rhaid i chi ddilyn yr un llwybr â mi. Byddwch chi'n cael eich hun yn yr un sefyllfa a fi. Y rhai sy'n fy ngwasanaethu i fydd Duw, fy Nhad, yn eu hanrhydeddu.
John WelBeibl 12:27  “Dw i wedi cynhyrfu ar hyn o bryd. Beth alla i ddweud? O Dad, achub fi rhag y profiad ofnadwy sydd i ddod? Na! dyma pam dw i wedi dod.
John WelBeibl 12:28  Dad, dangos di mor wych wyt ti!” A dyma lais o'r nefoedd yn dweud, “Dw i wedi gwneud hynny, a bydda i'n gwneud eto.”
John WelBeibl 12:29  Roedd rhai o'r bobl oedd yno yn meddwl mai sŵn taran oedd, ac eraill yn dweud, “Na, angel oedd yn siarad ag e!”
John WelBeibl 12:30  Ond meddai Iesu, “Er eich mwyn chi daeth y llais, dim er fy mwyn i.
John WelBeibl 12:31  Mae'r amser wedi dod i'r byd gael ei farnu. Bydd Satan, tywysog y byd hwn, yn cael ei daflu allan.
John WelBeibl 12:32  A phan ga i fy nghodi i fyny ar y groes, bydda i'n tynnu pobl o bobman ata i fy hun.”
John WelBeibl 12:33  (Dwedodd hyn er mwyn dangos sut oedd yn mynd i farw.)
John WelBeibl 12:34  “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod y Meseia yn mynd i aros am byth,” meddai'r dyrfa wrtho, “felly am beth wyt ti'n sôn pan wyt ti'n dweud fod rhaid i Fab y Dyn farw? Pwy ydy'r ‛Mab y Dyn‛ yma rwyt ti'n sôn amdano?”
John WelBeibl 12:35  Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Bydd y golau gyda chi am ychydig mwy. Cerddwch yn y golau tra mae gyda chi, rhag i'r tywyllwch gael y llaw uchaf arnoch chi. Dydy'r rhai sy'n cerdded yn y tywyllwch ddim yn gwybod ble maen nhw'n mynd.
John WelBeibl 12:36  Credwch yn y golau tra mae gyda chi, er mwyn i chi ddod yn bobl sy'n olau.” Ar ôl iddo ddweud hyn, dyma Iesu'n mynd i ffwrdd ac yn cadw o'u golwg nhw.
John WelBeibl 12:37  Er bod Iesu wedi gwneud cymaint o arwyddion gwyrthiol o'u blaenau nhw, roedden nhw'n dal i wrthod credu ynddo.
John WelBeibl 12:38  Dyma'n union ddwedodd y proffwyd Eseia fyddai'n digwydd: “Arglwydd, oes rhywun wedi credu ein neges? Oes rhywun wedi gweld mor rymus ydy'r Arglwydd?”
John WelBeibl 12:39  Ac mae Eseia'n dweud mewn man arall pam oedd hi'n amhosib iddyn nhw gredu:
John WelBeibl 12:40  “Mae'r Arglwydd wedi dallu eu llygaid a chaledu eu calonnau; Fel arall, bydden nhw'n gweld a'u llygaid, yn deall go iawn, ac yn troi, a byddwn i'n eu hiacháu nhw.”
John WelBeibl 12:41  (Dwedodd Eseia y pethau yma am ei fod wedi gweld ysblander dwyfol Iesu. Am Iesu roedd e'n siarad.)
John WelBeibl 12:42  Ac eto roedd nifer o arweinwyr crefyddol, hyd yn oed, wedi dod i gredu ynddo. Ond doedden nhw ddim yn barod i gyfaddef hynny'n agored am eu bod yn ofni'r Phariseaid, a ddim am gael eu diarddel o'r synagog.
John WelBeibl 12:43  Roedd yn well ganddyn nhw gael eu canmol gan bobl na chan Dduw.
John WelBeibl 12:44  Yna dyma Iesu'n cyhoeddi'n uchel, “Mae'r rhai sy'n credu ynof fi yn credu yn Nuw hefyd, yn yr un sydd wedi fy anfon i.
John WelBeibl 12:45  Pan maen nhw yn fy ngweld i maen nhw'n gweld yr un sydd wedi fy anfon i.
John WelBeibl 12:46  Dw i wedi dod fel golau i'r byd, fel bod dim rhaid i'r bobl sy'n credu ynof fi aros yn y tywyllwch.
John WelBeibl 12:47  “Dim fi sy'n condemnio rhywun sydd wedi clywed beth dw i'n ddweud a gwrthod ufuddhau. Dod i achub y byd wnes i, dim dod i gondemnio'r byd.
John WelBeibl 12:48  Ond bydd pawb sy'n fy ngwrthod i ac yn gwrthod derbyn beth dw i'n ddweud yn cael eu barnu – bydd beth ddwedais i yn eu condemnio nhw ar y dydd olaf.
John WelBeibl 12:49  Dw i ddim wedi siarad ar fy liwt fy hun. Y Tad sydd wedi fy anfon i sydd wedi dweud wrtho i beth i'w ddweud, a sut i'w ddweud.
John WelBeibl 12:50  A dw i'n gwybod fod beth mae e'n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol. Felly dw i'n dweud yn union beth mae'r Tad yn ei ddweud wrtho i.”